
Allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar-Alwad?
Rydym yn chwilio am bobl gyffredin yn union fel chi i helpu i ddiogelu eich cymuned leol.
Cael gwybod mwy
Gweithgareddau hwyl ar gyfer plant gyda 'Sbarc'
Cael gwybod mwyGweithgareddau hwyl ar gyfer plant gyda 'Sbarc'
Sut y gallwch chi gadw'n ddiogel yr haf hwn
Cael gwybod mwySut y gallwch chi gadw'n ddiogel yr haf hwnDiogelwch dros yr haf
Dave Hughes ydw i, Pennaeth Diogelwch Tân ac Ardal y Gorllewin.
Fy ngwaith i ydy cadw pobl yn ddiogel a helpu i atal tanau rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Heddiw, rwyf eisiau siarad am danau sy’n digwydd yn aml yn ystod yr haf.
Pan mae’r tywydd yn gynnes, mae’r glaswellt a’r llystyfiant fel arfer yn sych, sy’n golygu bod tân sy’n cynnau ar ddamwain yn yr awyr agored yn gallu lledaenu’n gyflym iawn, gan ddinistrio popeth yn ei lwybr. Gydag awel ysgafn hefyd, bydd y tân yn lledaenu’n gyflymach fyth.
Rwy’n siŵr eich bod i gyd wedi gweld y lluniau dramatig o nifer o danau yn yr awyr agored dros y misoedd diwethaf. Mae llawer o’r tanau hyn wedi arwain at alwadau niferus i’r ystafell reoli gan aelodau pryderus o’r cyhoedd. Mae pob tân bychan yn gallu clymu adnoddau am oriau, gan ein hatal rhag mynd at ddigwyddiadau eraill sy’n peryglu bywydau.
Sigarét yn cael ei thaflu drwy ffenest y car, barbeciw sy’n rhoi gwrych ar dân, neu goelcerth a neb yn cadw llygad arni - gallai’r rhain gynnau tân sy’n dinistrio aceri o gefn gwlad, cnydau a bywyd gwyllt.
Mae’r cyfnod pryd bydd ffermwyr a thirfeddianwyr yn llosgi dan reolaeth ar ben – ond rwy’n gwybod bod rhai pobl yn hoffi cael gwared ar sbwriel neu doriadau yn eu gardd gefn dros fisoedd yr haf. Rwy’n apelio arnynt i feddwl yn ofalus cyn gwneud hynny, ac os byddant yn gwneud, eu bod yn sicrhau bod camau rhagofalus yn cael eu dilyn a bod ein hystafell reoli yn cael gwybod ar 01931 522 006.
Darllen mwy
Coelcerthi yn yr Ardd
Cael gwybod mwyCoelcerthi yn yr ArddNewyddion diweddaraf
Cael gwybod mwy Cael gwybod mwy
Postiwyd
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cymryd rhan mewn wythnos o weithredu i helpu pobl sy’n galw i wybod ble yn union y maent mewn argyfwng - #KnowExactlyWhere - gyda what3words
Cael gwybod mwyGwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cymryd rhan mewn wythnos o weithredu i helpu pobl sy’n galw i wybod ble yn union y maent mewn argyfwng - #KnowExactlyWhere - gyda what3words

Postiwyd