Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cwestiynau Cyffredin

 

1. Pam cynnal Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys

Mae'r prif resymau dros gynnal adolygiad o'n darpariaeth frys yn cynnwys:

  • Y ffaith nad yw ein diffoddwyr tân ar-alwad ar gael gymaint ag y buon nhw’n draddodiadol a bod recriwtio hefyd yn profi'n heriol;
  • Mae'r risgiau sy'n wynebu ein cymunedau’n newid yn sgil newid yn yr hinsawdd a thechnoleg newydd; ac
  • Mae'r heriau ariannol rydyn ni’n eu hwynebu nawr yn fwy nag erioed.

2. Beth mae’r Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys yn ei gynnwys?

Mae'r adolygiad yn cynnwys gweithio gyda’r ymgynghorwyr proffesiynol ORH i fodelu opsiynau gwahanol ar gyfer y Gwasanaeth, gan ddefnyddio data o sawl ffynhonnell yn ogystal â'n barn broffesiynol ein hunain. Mae hyn yn cynnwys ystyried ystod eang o ffactorau fel meintioli a dadansoddi risgiau, cyfateb ein hadnoddau i risg a nodi'r lleoliadau gorau posibl, ymateb yn effeithlon a gwella ein gwaith rheoli a chynllunio wrth gefn o ddydd i ddydd, yn ogystal ag asesu ein capasiti ar gyfer gweithgareddau atal ac amddiffyn.

Mae Gweithgor Awdurdod Tân wedi'i sefydlu i benderfynu ar y ffordd ymlaen yn ystod yr Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys. Mae'r Gweithgor hwn yn cynnwys chwe Aelod o’r Awdurdod Tân, un o bob Awdurdod Unedol yng Ngogledd Cymru. Mae'r Grŵp wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd i ystyried canfyddiadau'r modelu cychwynnol yn ogystal â'n hadborth cyn-ymgynghori a fydd yn helpu i lywio'r ymgynghoriad llawn.

Mae'r Grŵp wedi trafod yr opsiynau posibl ar gyfer darpariaeth frys yn y dyfodol yn fanwl ac wedi penderfynu pa rai o'r opsiynau y dylid eu harchwilio'n fanylach cyn penderfynu pa opsiynau darpariaeth frys i'w hargymell yn y dyfodol y dylid ymgynghori arnyn nhw’n llawnach.

3. Beth mae cyn-ymgynghori yn ei olygu?

Mae gweithgareddau cyn-ymgynghori yn rhan hanfodol o’r gwaith o baratoi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ac yn darparu cyfle cynnar i randdeiliaid sydd wedi eu dethol ymgysylltu â ni a darparu adborth pwysig ar yr amcanion ymgynghori, yr heriau a wynebir, a meysydd sy’n peri pryder a chynnig syniadau ar gynigion a allai fynd i’r afael â’r heriau a wynebir.

Mae cyn-ymgynghori cyffredinol yn gyfle i ymgysylltu rhanddeiliaid sydd wedi eu dethol a charfannau perthnasol eraill mewn sgwrs gychwynnol i helpu i lunio, adolygu a chytuno ar gynigion priodol y gellir eu cyflwyno i ymgynghoriad cyhoeddus.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda'r Sefydliad Ymgynghori, gan fabwysiadu proses strwythuredig ar gyfer archwilio ein gweithrediadau presennol ac i gefnogi datblygu ac arfarnu opsiynau i’w cyflwyno i ymgynghoriad cyhoeddus.

Gan ddefnyddio dull pedwar cam, mae hyn yn cynnwys:

  • archwilio'r sefyllfa a'r heriau presennol a wynebir;
  • archwilio pa ddatrysiadau y gellid eu hystyried;
  • datblygu syniadau ac atebion clir a
  • gwerthuso atebion posibl ar gyfer rhestrau o gynigion.

Ein nod yw rhoi tawelwch meddwl i ni’n hunain yn ogystal ag eraill ein bod yn dilyn y broses ymgynghori gywir. Mae'r Consultation Institute yn darparu adolygiad cymheiriaid cymwys a Thystysgrif Parodrwydd i Ymgynghori i sicrhau ein bod yn mabwysiadu canllawiau arfer gorau yn unol â’u Siarter Ymgynghori a bod ein hymgynghoriad yn cael ei gyflawni yn ôl y safon ofynnol.

Er mwyn bodloni gofynion y dystysgrif mae'n ofynnol i ni ddarparu tystiolaeth ar bob cam o'n gweithgareddau ein bod yn dilyn y safonau a ddisgwylir gan y Consultation Institute. Mae ein gweithgareddau’n cynnwys gwrando ar farn eraill mewn grwpiau ffocws a gweithdai, dadansoddi pwy allai gael eu heffeithio gan ein cynlluniau ac i ba raddau, dadansoddi'r risgiau sy'n gysylltiedig â'n holl gynlluniau arfaethedig ar gyfer y dyfodol, a sicrhau ein bod yn mabwysiadu’r dulliau cywir o gyfathrebu ac ymgysylltu â'n holl randdeiliaid fel y gallant gymryd rhan a darparu adborth.

4. Beth fydd ymgynghoriad llawn yn ei olygu?

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn casglu adborth gan y rhai sy’n byw, yn gweithio ac yn teithio yn y rhanbarth am y sut y byddwn yn darparu ein gwasanaethau darpariaeth frys yng Ngogledd Cymru yn y dyfodol.

Er mwyn ein helpu i ddatblygu ein cynigion, rydyn niwedi bod yn gweithio gyda’n staff a chyrff cynrychioliadol, aelodau o’r cyhoedd, cynrychiolwyr y cyngor, grwpiau lleol sy’n agored i niwed ac aelodau o’n Hawdurdod Tân i ddeall yr hyn sy’n bwysig petaen nhw, neu rywun maen nhw’n gofalu amdano neu’n ei gynrychioli, angen ein gwasanaethau mewn argyfwng. 

Mae’r holl adborth wedi’i ddefnyddio i ddatblygu ein cynigion ar gyfer dyfodol gwasanaethau darpariaeth frys ar draws Gogledd Cymru ac mae’r broses ymgynghori’n annog pobl i roi gwybod i ni beth maen nhw’n ei feddwl. 

Bydd yr ymgynghoriad llawn yn cynnwys cyflwyno gwybodaeth fanwl am yr opsiynau ar gyfer darpariaeth frys yng Ngogledd Cymru yn y dyfodol i'n holl randdeiliaid a nodwyd neu'r rhai y gallai ein cynlluniau yn y dyfodol effeithio arnyn nhw, yn ogystal â'r holl wahanol ffyrdd y gall pobl gymryd rhan a rhannu eu barn.

Datblygwyd strategaeth gyfathrebu gynhwysfawr i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyflwyno gan ddefnyddio amrywiaeth o sianeli cyfathrebu er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol a sicrhau’r ymgysylltiad gorau posibl.

5. Sut ydych chi'n gwybod eich bod yn cynnal yr ymgynghoriad yn iawn?

Ar bob cam o'r ffordd, rydyn niwedi bod yn gweithio'n agos gyda’r Consultation Institue i sicrhau ein bod yn cynnal ein hymgynghoriad yn y modd priodol.

Mae cael goruchwyliaeth arbenigol o'r fath yn ein helpu i roi sicrwydd i ni’n hunain yn ogystal ag eraill bod ein paratoadau ar gyfer ymgynghori yn cadw at y safonau gofynnol, fel y disgwylir gan y Consultation Institute.

Mae'r Consultation Institute yn darparu adolygiad cymheiriaid cymwys a Thystysgrif Parodrwydd i Ymgynghori i sicrhau ein bod yn mabwysiadu arfer gorau yn unol â’u Siarter Ymgynghori a bod ein hymgynghoriad yn cael ei gyflawni yn ôl y safon ofynnol.

Er mwyn bodloni gofynion y dystysgrif mae'n ofynnol i ni ddarparu tystiolaeth ym mhob cam o'n gweithgareddau ein bod yn cadw at y safonau a ddisgwylir gan y Sefydliad Ymgynghori.

Mae ein gweithgareddau’n cynnwys gwrando ar farn eraill mewn grwpiau ffocws a gweithdai, dadansoddi pwy allai gael eu heffeithio gan ein cynlluniau ac i ba raddau, dadansoddi'r risgiau sy'n gysylltiedig â'n holl gynlluniau arfaethedig, a sicrhau ein bod yn mabwysiadu’r dulliau cywir o gyfathrebu ac ymgysylltu â'n holl randdeiliaid fel y gallant gymryd rhan a darparu adborth.

Yn dilyn y Dystysgrif Parodrwydd Ymgynghori ac yn amodol ar fodloni'r safonau gofynnol, bydd y Sefydliad yn ardystio bod y cynlluniau a gweithgareddau ymgynghori wedi cael Sicrwydd Ansawdd Annibynnol i safon sy'n bodloni gofynion y Siarter Ymgynghori a'r fframwaith sicrwydd.

6. Pa themâu ddaeth i'r amlwg o'r cyn-ymgynghoriad?

Datblygwyd ein hopsiynau posibl o ran darpariaeth frys ar gyfer y dyfodol ar draws Gogledd Cymru ar sail y meini prawf canlynol:

  • Darpariaeth frys – sut mae ein peiriannau tân yn ymateb i alwadau brys
  • Gwasanaethau amddiffyn ac atal – sut rydyn ni’n cadw eich cartrefi a'ch busnesau'n ddiogel
  • Fforddiadwyedd – cadw ein gwasanaethau mor fforddiadwy â phosib, gan ddarparu'r gwerth gorau am arian
  • Gweithlu – effaith newidiadau ar ein timau
  • Gwasanaeth teg a chyfartal – cael ein staff yn y lle iawn, ar yr amser iawn, gyda'r sgiliau iawn
  • Gwerth cymdeithasol – cydnabod effaith unrhyw newidiadau ar ein cymunedau

Roedd y themâu allweddol a gododd o’r ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystod y cyn-ymgynghoriad yn cynnwys:

  • Cyllid – Deall y pwysau cyllidebol. A yw'r adolygiad o'r ddarpariaeth frys yn cael ei lywio gan ystyriaethau ariannol?
  • Risgiau yn y dyfodol – Gall newid hinsawdd a thechnoleg newydd roi mwy o alw ar adnoddau.
  • Atal ac amddiffyn – Sut mae ein hymgysylltiad â'r cyhoedd a busnesau yn cael ei heffeithio
  • Cyfathrebu – Allweddol i helpu ein dealltwriaeth o'r heriau a wynebir ac effeithiau unrhyw gynigion.

7. Pa opsiynau posibl fydd yn cael eu trafod yn yr ymgynghoriad? 

Yn ystod y cyfnod cyn-ymgynghori, roedd pedwar opsiwn dan ystyriaeth i’w trafod.

Roedd un o'r opsiynau’n golygu newid dim, aros fel rydyn ni a derbyn y risg o ran argaeledd. 

Fodd bynnag, ar y sail nad yw'r opsiwn hwn yn bodloni meini prawf yr Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys ar gyfer ymateb brys teg, cynaliadwy a chyfiawn ar draws cymunedau Gogledd Cymru, ni fydd yr opsiwn hwn yn cael ei gynnwys yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Dewiswyd tri opsiwn ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ac mae gan y rhain oblygiadau gwahanol ar gyfer helpu i sicrhau y gallwn fod yno i chi yn y lle iawn, ar yr amser iawn, gyda'r sgiliau cywir.

Yn fras, dyma’r tri opsiwn sy’n cael eu trafod yn yr ymgynghoriad:

Opsiwn 1 Byddai hyn yn golygu y byddai'r 12 swydd diffoddwr tân gwledig a 28 swydd diffoddwr tân amser cyflawn yn cael eu symud o orsaf y Rhyl a Glannau Dyfrdwy i'r tair gorsaf staff dydd newydd yng Nghorwen, Dolgellau a Phorthmadog. Byddai’r ddarpariaeth ar gyfer y Rhyl a Glannau Dyfrdwy yn newid i fodel criw dydd, yn debyg i'r model sydd ar waith ar hyn o bryd ym Mae Colwyn, Llandudno, Bangor, Caernarfon a Chaergybi. Bydd hyn yn parhau i fod yn ychwanegol at ddiffoddwyr tân presennol y System Dyletswydd Rhan Amser (RDS) sy'n criwio'r ail injan dân ym mhob un o'r gorsafoedd hyn.

Opsiwn 2 Model gwahanol sy'n darparu gwell darpariaeth frys drwy gyflwyno tair gorsaf staff dydd newydd yng Nghorwen, Dolgellau a Phorthmadog ond sydd hefyd yn cyflawni arbedion o £1.1 miliwn tuag at y cynnydd yng nghyllideb 2024/25, sydd tua £6 miliwn ar hyn o bryd. Felly bydd yn cyfyngu’r cynnydd blwyddyn i flwyddyn i £4.9m. Mae'r opsiwn hwn yn newid y model criwio yn y Rhyl a Glannau Dyfrdwy i fodel staff dydd, sy'n golygu mai diffoddwyr tân y System Dyletswydd Rhan Amser (RDS) yn unig sy’n darparu ymateb brys gyda'r nos ac mae’n golygu cael gwared ar y trydydd peiriant tân o Wrecsam. Mae hyn i gyd yn golygu gostyngiad o 22 swydd diffoddwr tân amser cyflawn.

Opsiwn 3 Mae’r newidiadau'r un fath ag opsiwn 2, ond dim ond dwy orsaf staff dydd sy'n cael eu cyflwyno yn Nolgellau a Phorthmadog ac mae cau 5 gorsaf dân RDS yn cael ei ystyried fel rhan o’r newidiadau hynny hefyd. Mae hyn yn ostyngiad o 36 swydd diffoddwr tân amser cyflawn a 38 swydd diffoddwr tân RDS, sy’n cyflawni arbedion o £2.4m gan gyfyngu’r cynnydd mewn costau o flwyddyn i flwyddyn i £3.6m.

8. Pa mor hir fydd yr ymgynghoriad yn para?

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn digwydd rhwng Dydd Gwener 21 Gorffennaf a Hanner Nos ar Ddydd Sadwrn 30 Medi 2023.

Bydd hyn yn cael ei gyfleu'n eang yn fewnol i’r staff ac yn allanol i'n rhanddeiliaid.

9. Sut byddwch chi'n rhoi gwybod am y penderfyniad?

Bydd yr holl adborth a dderbynnir gan y cyhoedd a’r rhanddeiliaid yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei fonitro a'i ddadansoddi'n rheolaidd i lywio'r broses o wneud penderfyniadau.

Byddwn yn gwerthuso’r broses ymgynghori ac yn adrodd arni, gan baratoi adroddiad cynhwysfawr sy'n crynhoi'r canfyddiadau, y gwersi a ddysgwyd, a'r argymhellion ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno i Aelodau'r Awdurdod Tân ac Achub a'i rhannu â'r cyhoedd.

Yn y dyfodol, byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd ar gynnydd yr adolygiad o’r ddarpariaeth frys, gan gydnabod a mynd i'r afael ag unrhyw bryderon a godwyd yn ystod y broses ymgynghori ac ymgysylltu.

10. Beth yn union yw'r heriau ariannol rydych chi'n eu hwynebu a sut ydych chi'n bwriadu arbed arian?

Mae'n ofynnol i'r Awdurdod bennu cyllideb refeniw gytbwys y mae'n rhaid i'r Awdurdod llawn ei chymeradwyo cyn dechrau'r flwyddyn ariannol.

Fe wnaeth y broses o bennu cyllideb ar gyfer 2023/24 amlygu’r heriau o ran cyllideb a’r cyfyngiadau ariannol sy'n cael eu profi ar draws y sector cyhoeddus a chydnabod yr angen i nodi camau gweithredu i leihau'r gofyniad o ran cyllideb ymhellach. 

Cymeradwyodd yr Awdurdod y gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24 o £43.314 miliwn yn ei gyfarfod ar 16 Ionawr 2023 yn dilyn cyfres o gyfarfodydd cynllunio aelodau. Mae hyn yn cynrychioli'r swm sydd i'w godi yn erbyn awdurdodau lleol cyfansoddol ac er ei fod yn cynrychioli cynnydd o 9.9% o flwyddyn i flwyddyn, roedd yn cynnwys y gofyniad i gyflawni arbedion o £1.4 miliwn yn ystod y flwyddyn a mynd i'r afael ag effaith penderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar gymorth ariannol o £0.4 miliwn tuag at rwydwaith cenedlaethol y gwasanaethau brys. 

Gwnaed gwelliant pellach yn dilyn ailddyrannu £1.08 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru a gafodd ei symud o grant neilltuedig a oedd wedi’i dderbyn yn syth i mewn i'r grant cynnal refeniw a roddwyd i awdurdodau lleol. Mae'r newid hwn yn gost-niwtral i'r awdurdodau lleol er bod y gyllideb net sydd i'w chodi wedi cynyddu i £44.394 miliwn.

Daeth y trafodaethau cyflog ar gyfer diffoddwyr tân i ben ym mis Chwefror 2023 ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/23 a 2023/24 gyda chynnydd o 7% a 5% yn y drefn honno. Mae hyn yn daladwy o fis Gorffennaf bob blwyddyn ac mae'n uwch na'r rhagdybiaethau cynllunio a ddefnyddir wrth bennu cyllidebau 2022/23 a 2023/24. Mae'r holl ddyfarniadau cyflog yn destun trafodaethau cenedlaethol, ac mae eu hamserlenni y tu hwnt i reolaeth yr Awdurdod. 

O ganlyniad, yr her ariannol sylfaenol sy'n wynebu'r Awdurdod ar gyfer 2023/24 yw diffyg cyson o £2.4 miliwn.  Yn y tymor byr, cynigir y bydd pwysau’r gost yn cael ei reoli drwy newidiadau dros dro i ddarparu gwasanaethau mewn perthynas ag amseroedd ymateb a gwaith atal, gohirio gwariant a defnyddio cronfeydd wrth gefn.

Mae'r camau a gymerwyd yn osgoi'r angen i godi ardoll atodol yn ystod 2023/24 a byddant yn rhoi cyfle i Aelodau'r Awdurdod Tân ac Achub ystyried yr opsiynau sy'n codi o'r Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys i ddarparu ymwybyddiaeth ariannol a sefydlogrwydd yn y dyfodol.

11. O ble mae'ch arian yn dod a sut ydych chi'n bwriadu arbed arian?

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau gwerth am arian ar draws yr holl wasanaethau a ddarparwn gyda chyllid yn cael ei godi gan y chwe awdurdod lleol a wasanaethwn:  Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn.

Mae ein Hawdurdod Tân ac Achub yn cynnwys cynrychiolwyr o'r chwe awdurdod lleol ac mae ganddo'r pŵer i godi ardoll Treth Gyngor ar gyfer cyllid.

Bob blwyddyn, bydd pob awdurdod lleol cyfansoddol yn talu cyfraniad i gronfa gwasanaeth tân cyfun sy’n cyfateb i’w gyfran o dreuliau ein Hawdurdod Tân ac Achub.

Ein cyllideb bresennol ar gyfer 2023/24 yw £44.4 miliwn – sy’n cyfateb i £63.07 y flwyddyn y pen o’r boblogaeth yng Ngogledd Cymru, neu £150.66 y flwyddyn fesul cartref.

Crynhoir sut y byddai'r costau hyn yn newid ar gyfer pob un o'r opsiynau isod:

 

Opsiwn 1

Opsiwn 2

Opsiwn 3

Amcangyfrif o’r gost y pen o'r boblogaeth/blwyddyn

£71.59

£70.03

£68.18

Amcangyfrif o'r gost y cartef/blwyddyn

£171.02

£167.29

£162.88

Gwahaniaeth â 2023/24 o ran cost y cartef/blwyddyn

Cynnydd o £20.36 y cartref

Cynnydd o £16.63 fesul cartref

Cynnydd o £12.22 y cartref

12. Sut ydych chi'n bwriadu gwella’r ddarpariaeth frys?

Mae'r tri opsiwn yn ceisio cyflwyno ymateb dydd llawn amser mewn rhannau o'r Gwasanaeth sy'n dibynnu ar argaeledd staff ar-alwad ar hyn o bryd. Mae opsiynau 1 a 2 yn cynyddu nifer y cartrefi y gallwn ddarparu ymateb brys iddyn nhw o fewn 20 munud, tra mae Opsiwn 3 yn gostwng nifer y cartrefi sy'n cael ymateb brys o fewn 20 munud. Mae'r holl opsiynau’n rhoi cyfle i ni wneud mwy o waith atal ac amddiffyn yn ein hardaloedd mwy gwledig.

Mae hyn yn cael ei grynhoi yn y tabl canlynol:

 

13. Sut bydd y cynigion yn effeithio ar waith amddiffyn ac atal?

Mae atal digwyddiadau yn y lle cyntaf yn well o lawer i bawb dan sylw.

Nid yn unig mae ein gwaith atal yn helpu i gadw cymunedau’n ddiogel ond mae hefyd yn golygu y gallwn reoli’r ffordd rydyn ni’n gweithio yn well – ac yn bwysicach, i rai cymunedau fel y rheini mewn ardaloedd mwy gwledig, mae’n rhan hanfodol o amddiffyn ein trigolion.

Yn 2008, yn ogystal â bod yn wasanaeth ymateb, sefydlodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei hun fel gwasanaeth atal hefyd. Ers hynny, rydyn ni wedi gweithio'n galed i ostwng nifer y tanau, yn ogystal â’r marwolaethau a’r anafiadau sy’n digwydd o ganlyniad.

Roedd y flwyddyn 2022/23 yn garreg filltir bwysig i ni – am y tro cyntaf ers i ni ddechrau cadw cofnod, ni fu unrhyw farwolaethau oherwydd tanau damweiniol mewn cartrefi yng Ngogledd Cymru.

Mae hyn yn newyddion gwych, ond rhaid i ni beidio â llaesu dwylo. Mae’n rhaid i ni weithio'n galetach byth i gynnal y lefel hon o ddiogelwch.

Tra gallwn ni ymdrechu i wella sut bydd ein darpariaeth a’n perfformiad arferol edrych o bosibl, bydd yna rai ardaloedd o hyd, yn enwedig ardaloedd gwledig, lle byddai’n rhaid i ni barhau i weithio'n galetach i wella ein gwasanaethau amddiffyn ac atal a pharhau i ganolbwyntio ar recriwtio staff ar-alwad a'u hargaeledd.

Bydd y tri opsiwn yn arwain at archwiliadau diogel ac iach preswyl ychwanegol yn cael eu cynnal yn ein cymunedau bob blwyddyn. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar ein gwefan.

14. Sut bydd y cynigion yn effeithio ar ein staff?

Rydyn ni’n cydnabod mai ein staff yw ein caffaeliad mwyaf ac rydyn ni’n gwerthfawrogi'r bobl sy'n gweithio i ni. Bydd y gwahanol opsiynau a gyflwynir yn effeithio ar ein staff mewn gwahanol ffyrdd. Gwnaethom gyfarfod â staff a chyrff cynrychioliadol yn ystod yr Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys i sicrhau bod buddiannau ein staff yn cael eu cynrychioli'n deg a'u hystyried yn ystod y broses hon. Mae ein staff yn ymwybodol o'r ymgynghoriad ac rydyn ni’n eu hannog i gymryd rhan er mwyn iddyn nhw roi eu hadborth. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda staff a chyrff cynrychioliadol yn ystod y broses ymgynghori ac ar y cam gweithredu.

Bydd effaith bosibl symud unrhyw staff sy'n deillio o'r cynigion yn cael ei lleihau drwy gynnal sesiwn dewis gyda'r gweithlu gweithredol. Byddai hyn yn ymwneud â’r holl staff gweithredol yr effeithir arnyn nhw’n nodi eu lleoliad gwaith dewisol a’r Gwasanaeth wedyn yn ceisio lleoli staff yn lle maen nhw’n dymuno cael eu lleoli lle bynnag y bo modd, gan ystyried ffactorau ychwanegol fel sgiliau, lleoliad y cartref, amgylchiadau personol a chymudo cysylltiedig. Byddai'r rhai na ellir eu paru â’u lleoliad dewisol ar unwaith yn cael eu rhoi ar restr drosglwyddo ar gyfer lleoliad unwaith y bydd swydd wag yn eu lleoliad dewisol yn codi.

Byddai'r sesiwn dewis hwn hefyd yn berthnasol i systemau dyletswydd lle gofynnir i staff y System Dyletswydd Amser Cyflawn nodi eu systemau dyletswydd dewisol.

Er na ellir gwarantu unrhyw beth o ran darparu ar gyfer dewisiadau’r staff, hoffem roi sicrwydd i’r staff y bydd y rhain yn cael eu hystyried yn briodol wrth wneud penderfyniadau.

Lle cynigir cau gorsafoedd ar-alwad mae diswyddiadau’n bosibl yn achos staff ar-alwad. Pan fydd diswyddiadau'n cael eu hystyried, byddwn yn dilyn proses diswyddo deg ac yn ystyried pob opsiwn i leihau neu osgoi diswyddiadau lle bo hynny'n bosibl.

Byddwn yn parhau i ddarparu cyfleoedd i staff gymryd rhan a chyfrannu at y broses ymgynghori a thu hwnt. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eu safbwyntiau a'u cefnogaeth wrth hwyluso unrhyw newidiadau o ganlyniad i'r ffordd rydyn ni’n ymdrin â darpariaeth frys yn y dyfodol.

Er mwyn cynorthwyo ag unrhyw newid sefydliadol, bydd asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cael ei gynnal i helpu i sicrhau bod y Gwasanaeth wedi rhoi ystyriaeth briodol i anghenion staff a’r effeithiau arnyn nhw mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig. 

Rydyn ni’n cydnabod bod newid posibl yn arwain ansicrwydd a gall hyn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae gan ein staff amrywiaeth eang o fecanweithiau cymorth ar gael iddyn nhw er mwyn eu cefnogi yn ystod y broses hon. Byddwn yn parhau i dynnu sylw at yr amrywiaeth o gymorth sydd ar gael drwy ein sianeli cyfathrebu mewnol i sicrhau bod staff yn gallu cael gafael ar unrhyw gymorth y gall fod ei angen arnyn nhw yn ystod y broses hon.

15. A fydd 'rôl' diffoddwr tân yn newid o ganlyniad i'r adolygiad?

Nid yw newidiadau i rôl y diffoddwr tân yn cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad hwn. Byddai angen cyfeirio unrhyw newidiadau i rôl diffoddwr tân at y Cydgyngor Cenedlaethol (NJC) i'w symud ymlaen i setliad wedi'i negodi er mwyn dod i gytundeb.

16. A fydda i’n derbyn lwfans tarfu os bydda i’n cael fy symud?

Mae lwfans tarfu yn daladwy i staff ar gyfer costau teithio ychwanegol pan fydd eu man gwaith wedi'i newid gan amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth ac na chyfeirir at y newidiadau hyn yn eu telerau ac amodau gwasanaeth.

Cydnabyddir bod ein gweithlu'n cynnwys staff sy'n cael eu cyflogi ar gontract lleoliad sefydlog a staff eraill sy'n cael eu cyflogi ar gontract lleoliad hyblyg. Felly, byddai hawl i lwfans tarfu yn dibynnu ar gontract cyflogaeth presennol cyflogai. Bydd y Gwasanaeth yn anrhydeddu'r telerau a nodir mewn contractau cyflogaeth unigol. Mae'r Polisi Lwfans Tarfu presennol yn berthnasol. 

17. Beth fydd yn digwydd cyflogau staff os bydd angen iddynt newid systemau dyletswydd?

Cydnabyddir bod ein gweithlu'n cynnwys staff sy'n cael eu cyflogi ar gontract lleoliad sefydlog a staff eraill sy'n cael eu cyflogi ar gontract lleoliad hyblyg. Felly, bydd unrhyw newid i’w lleoliad gwaith, systemau dyletswydd a hawl barhaus i unrhyw lwfansau cysylltiedig yn dibynnu ar gontract cyflogaeth presennol y cyflogai.

Bydd y Gwasanaeth yn anrhydeddu'r telerau a nodir mewn contractau cyflogaeth unigol. Cyfrifir tâl yn unol â’r orsaf a roddwyd iddyn nhw a'r math o ddyletswydd sy’n gysylltiedig â hynny.

18. A fydd system ddyletswydd newydd yn cael ei chyflwyno?

Bydd unrhyw systemau dyletswydd newydd eu cyflwyno sy'n gysylltiedig â'r Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys yn cael eu dyfeisio’n seiliedig ar yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 4 y Llyfr Llwyd ac yn amodol ar y lefel briodol o drafodaethau.

Bydd asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb yn cael ei gynnal i helpu i sicrhau bod y Gwasanaeth wedi rhoi ystyriaeth briodol i anghenion ac effeithiau staff mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig. 

19. Pam mae angen hyfforddiant ar gyfer diffoddwyr tân?

Rydyn ni am barhau i wella ein darpariaeth hyfforddi a gallu darparu'r cyfleusterau hyfforddi gorau posibl i'n diffoddwyr tân – a fydd yn ei dro’n sicrhau y gallwn ddarparu'r gwasanaethau ymateb ac amddiffyn gorau posibl i'n cymunedau ledled Gogledd Cymru a gallu ymateb yn broffesiynol ac yn ddiogel i amrywiaeth eang o wahanol fathau o ddigwyddiadau.

Mae'r ddarpariaeth hyfforddi orau hefyd yn golygu gallu sicrhau diogelwch ein diffoddwyr tân wrth fynychu digwyddiadau. Mae’n hollol deg bod ein staff yn disgwyl i ni eu hyfforddi a'u harfogi i ymgymryd â swydd sy'n dod â risgiau cynhenid, yn y modd mwyaf diogel bosib.

Wrth i'n cymdeithas barhau i esblygu, felly hefyd y mae'r risgiau sy'n wynebu'r gwasanaethau brys, ac ynghyd â'r risgiau newydd hyn daw technoleg fwy soffistigedig. Mae ymateb yn effeithiol i wahanol argyfyngau’n golygu bod hyfforddiant yn hanfodol ac mae’r angen am hyfforddiant realistig a throchol ar gyfer pob un o'r argyfyngau mae diffoddwyr tân yn debygol o fynd atynt yn fwy hanfodol nag erioed.

Yn dilyn adolygiad manwl o'n cyfleusterau hyfforddi gweithredol yng ngorsafoedd tân y Rhyl a Dolgellau, daeth i'r amlwg nad ydyn nhw’n darparu'r cyfleusterau safonol sy’n ofynnol er mwyn hyfforddi diffoddwyr tân sy'n gweithio o fewn gwasanaeth tân ac achub modern.

Er bod cyfleuster hyfforddi'r tŷ tân yng ngorsaf dân Dolgellau yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant gweithredol, mae angen gwneud buddsoddiad sylweddol ynddo i ymestyn ei oes yn y tymor canolig ar gyfer darparu hyfforddiant offer anadlu risg critigol a thactegau diffodd tân. Ni ellir ei ystyried fel opsiwn tymor hir. Mae hefyd mewn ardal sy'n gryn bellter i'r mwyafrif o'n staff deithio iddi er mwyn mynychu cyrsiau offer anadlu yno.

Yn gryno, nid yw cwmpas a realiti ein cyfleusterau hyfforddi cyfredol yn cyd-fynd â'n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a'n dyheadau am hyfforddiant trochol a realistig o ansawdd uchel.

Felly, aethon ni ati i gynnal gweithdai gyda staff i ddatblygu dyheadau, syniadau a gofynion ar gyfer canolfan hyfforddi newydd. Yna, buon ni’n ymgynghori ag adeiladwyr proffesiynol, arbenigwyr cynaliadwyedd a phensaer i ddatblygu dyluniad lefel uchel ar gyfer canolfan hyfforddi a datblygu sy'n bodloni ein nodau cynaliadwyedd.

Ym mis Mai 2023 cyflwynon ni syniadau a chynlluniau cychwynnol ar gyfer canolfan hyfforddi newydd i aelodau’r Awdurdod Tân ac Achub. Mae gweithgor, sy’n cynnwys chwe Aelod o'r Awdurdod, un o bob cyngor cyfansoddol, ac aelodau allweddol o staff y Gwasanaeth, bellach wedi’i sefydlu i ddatblygu a chraffu ar syniadau ar gyfer canolfan hyfforddi a datblygu newydd.

Aeth aelodau o’r gweithgor i ymweld â'n cyfleuster yn Nolgellau, yn ogystal â’r canolfannau hyfforddi sydd newydd eu hadeiladu yng Ngwasanaethau Tân ac Achub Swydd Caer a Manceinion i weld eu cyfleusterau modern o’r radd flaenaf.

Mae’r gweithgor bellach yn gweithio i lunio a llywio achos busnes manwl a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron aelodau'r Awdurdod Tân i graffu arno a'i gymeradwyo ym mis Hydref 2023.

Ar hyn o bryd, rydyn ni wedi nodi safle posibl ar gyfer Canolfan Hyfforddi yn Sir Ddinbych ar goridor yr A55, ac yn cynnal yr arolygon a’r asesiadau addasrwydd tir angenrheidiol.

Os caiff ei gymeradwyo, bydd amserlen yn cael ei datblygu, ond rhagwelir y gallai'r gwaith adeiladu gychwyn yn gynnar yn 2025 yn dilyn cais cynllunio, datblygu briff dylunio manwl a chaffael prif gontractwr.

Diogelwch ein staff yw ein prif flaenoriaeth, ac rydyn ni’n angerddol am ddarparu adnoddau a chyfleusterau o'r safon uchaf i alluogi hyfforddiant effeithiol a rhagorol.

20. Os oes angen i chi arbed arian, pam ymrwymo i adeiladu canolfan hyfforddi newydd?

Ynghyd â'r risgiau newydd sy’n ymddangos sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd a datblygiadau technolegol fel cerbydau trydan, mae’r dechnoleg y mae diffoddwyr tân yn ei defnyddio wedi dod yn fwy soffistigedig. Felly, mae hyfforddiant yn hollbwysig, ac oherwydd bod nifer y tanau wedi gostwng yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf diolch i’n gwaith atal, mae hyd yn oed yn fwy hanfodol bod hyfforddiant realistig a throchol yn cael ei roi ym mhob un o'r argyfyngau rydyn ni’n debygol o fynd atynt. 

Rhaid i ni hefyd fod yn ymwybodol o'r angen i hyfforddi diffoddwyr tân ar sut i gadw eu hunain a'r cyhoedd yn ddiogel a darparu ymateb o'r ansawdd uchaf.  

Felly, rydyn ni wrthi’n datblygu achos busnes unigol i adeiladu Canolfan Hyfforddi fodern o'r radd flaenaf.  Byddai wedi’i lleoli’n fwy canolog, fel bod llai o amser yn cael ei dreulio’n teithio a mwy o amser yn hyfforddi. Gallai’r Ganolfan baratoi ein diffoddwyr tân at ddelio â risgiau newydd a phresennol hefyd. Byddai modd ei rhannu â’n partneriaid yn y gwasanaethau brys ac eraill y down i gysylltiad â nhw mewn argyfyngau. Drwy gynnal hyfforddiant gwasanaethau brys ar y cyd a chydweithio, gallwn sicrhau bod gan ein pobl y sgiliau iawn.

21. Beth am grwpiau agored i niwed – a fyddan nhw'n cael dweud eu dweud am y cynigion?

Mae diogelwch a lles ein holl gymunedau yn bwysig i ni ac felly hefyd eu barn ar wasanaethau yn y dyfodol.

Rydyn ni felly wedi bod yn gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr o grwpiau agored i niwed drwy gydol y broses cyn-ymgynghori ac rydyn niwedi datblygu strategaeth gyfathrebu gynhwysfawr i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyflwyno gan ddefnyddio amrywiaeth o sianeli cyfathrebu er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol a sicrhau ymgysylltiad cynhwysol.

22. Pam ychwanegu gorsafoedd tân staff dydd ychwanegol?

Mae’r tri opsiwn sy’n cael eu hystyried i gyd yn ymwneud â newid y ffordd rydyn ni’n staffio rhai o’n gorsafoedd tân yn ystod y dydd, o system dyletswydd rhan amser wedi’i chriwio gan ddiffoddwyr tân ar-alwad i system dyletswydd staff dydd wedi’i chriwio gan ddiffoddwyr tân amser cyflawn, a fyddai’n system dyletswydd newydd ar gyfer Gogledd Cymru. 

Mae staffio dydd yn golygu y byddai gorsafoedd tân yn cael eu criwio gan ddiffoddwyr tân amser llawn yn ystod 12 awr y dydd (8yb tan 8yh), gyda chefnogaeth diffoddwyr tân ar-alwad, ac yn dychwelyd i fod yn orsafoedd tân ar-alwad llawn yn ystod nos.

Byddai angen cytuno ar staffio dydd yn lleol gyda staff pe bai penderfyniad i wneud hyn wrth symud ymlaen. Mae gwasanaethau tân ac achub eraill yn y DU eisoes yn gweithredu’r math hwn o staffio.

Mae’r lleoliadau a gynigir ar gyfer staffio dydd, a rhai o’r rhesymau dros hyn, fel a ganlyn:

Porthmadog: Mwy o welliant o ran ymateb o gymharu â gorsafoedd lleol eraill. Cefnogaeth o ran argaeledd gan orsafoedd tân ar-alwad cyfagos. Bydd cyfleusterau’r orsaf yn cefnogi newid gydag isafswm buddsoddiad (Opsiynau 1, 2 a 3).

Dolgellau: Lleoliad strategol yn Ne Gwynedd gyda gwell rhwydweithiau trafnidiaeth fydd yn cael effaith well ar yr amser ymateb. Cefnogaeth o ran argaeledd gan orsafoedd ar-alwad cyfagos. Bydd cyfleusterau’r orsaf yn cefnogi newid gyda’r buddsoddiad lleiaf (Opsiynau 1, 2 a 3). 

Corwen: Lleoliad strategol ar gyfer De Sir Ddinbych gyda rhwydweithiau i ardaloedd eraill ar-alwad ar draws sawl awdurdod unedol lleol. Cefnogaeth o ran argaeledd gan orsafoedd ar-alwad cyfagos. Bydd cyfleusterau’r orsaf yn cefnogi newid gyda’r buddsoddiad lleiaf (Opsiynau 1 a 2). 

Mae rhagor o wybodaeth am y modelu a’r amseroedd ymateb ar gyfer y gorsafoedd hyn ar gael ar ein gwefan yn www.northwalesfire.gov.wales.

23. Sut gallwch chi gyfiawnhau Opsiwn 3 a fydd yn arwain at gau gorsafoedd?

Nid ar chwarae bach yr ystyrir Opsiwn 3 gan ei fod yn ymwneud ag ystyried cau pum gorsaf dân ar-alwad yn barhaol.

Mae hefyd yn golygu llai o ddiffoddwyr tân ac felly gostyngiad mewn cyfleoedd gwaith lleol, gan effeithio ar werth cymdeithasol yn y cymunedau hynny.

Yn gyffredinol, rhagwelir y byddai angen 74 yn llai o ddiffoddwyr tân (amser cyflawn ac ar-alwad) pe bai'r opsiwn hwn yn cael ei fabwysiadu – sy'n cyfateb i 11.5% o gyfanswm ein diffoddwyr tân yn y Gwasanaeth.

Byddai felly yn lleihau ein hymateb gweithredol ac yn arwain at fwy o risg i'n cymunedau.

Fodd bynnag, mae'r opsiwn hwn yn helpu i leihau’r pwysau ar y gyllideb ar adeg pan fo’r heriau ariannol yn fwy nag erioed.

Bydd yr holl opsiynau’n arwain at ofyn i gartrefi Gogledd Cymru dalu mwy am ein gwasanaethau yn y dyfodol er mwyn cwrdd â’r heriau hyn – ond byddai Opsiwn 3 yn golygu y byddai gofyn i gartrefi dalu llai na’r opsiynau eraill (£4.41 y flwyddyn yn llai fesul cartref nag Opsiwn 2, a £8.14 y flwyddyn yn llai fesul cartref nag Opsiwn 1). 

Er y byddai Opsiwn 3 yn amlwg yn effeithio ar staff a'n cymunedau mewn rhai lleoliadau, byddem yn gweithio'n galed i gyfyngu ar hyn a byddem yn ymrwymo i gydweithio'n agos i gefnogi unrhyw staff a allai gael eu heffeithio gan y newidiadau hyn.

Mae’r ffactorau a gafodd eu hystyried ar gyfer nodi gorsafoedd tân ar-alwad i’w cau yn Opsiwn 3 yn cynnwys:

  • Nifer y digwyddiadau
  • Yr effaith ar amseroedd ymateb cyfartalog sydd wedi'i modelu pe bai'r orsaf yn cael ei chau
  • Yr effaith ar amseroedd ymateb cyfartalog sydd wedi'i modelu pe bai'r orsaf ar gael 100%
  • Capasiti gorsafoedd cyfagos i ddelio â nifer y galwadau
  • Cyfraddau defnyddio peiriannau tân
  • Sefydliad presennol – arbedion ariannol
  • Arbedion ariannol tymor hwy – ardrethi, cyfleustodau, offer a chostau hyfforddi.

 Byddai'r holl opsiynau sy'n cael eu hystyried yn golygu gwella ein gweithgareddau atal ac amddiffyn mewn ardaloedd gwledig.

24. Sut bydd yr adolygiad yn effeithio ar ddiogelwch ar y ffyrdd neu'r gallu i ymateb i ddigwyddiadau sy'n cynyddu oherwydd newid yn yr hinsawdd fel tanau yn yr awyr agored neu lifogydd?

Mae ystod eang o ffactorau yn dod i rym wrth ystyried sut y gallwn ddarparu'r gwasanaeth tecaf posibl ar draws holl gymunedau Gogledd Cymru a'r her i ni fel Gwasanaeth yw dod o hyd i'r cydbwysedd cywir wrth gwrdd â'n holl amcanion.

Mae pob un o'r tri opsiwn yn gwella amser ymateb cyfartalog y Gwasanaeth i wrthdrawiadau traffig ffyrdd ac yn ceisio cyflwyno ymateb llawn amser yn ystod y dydd mewn llefydd lle mae'r Gwasanaeth yn dibynnu ar argaeledd ar alwad ar hyn o bryd.

Mae opsiynau 1 a 2 yn cynyddu nifer y cartrefi y gallwn ddarparu ymateb brys iddynt o fewn 20 munud, tra bod Opsiwn 3 yn gweld gostyngiad yn nifer yr aelwydydd sy'n derbyn ymateb brys o fewn 20 munud.

25. Sut bydd penderfyniad yr adolygiad yn cael ei weithredu?

Nid ydyn ni wedi gwneud unrhyw benderfyniadau eto a byddwn yn parhau i fod â meddwl agored am y ateb nes bydd yr holl adborth, tystiolaeth a gwybodaeth wedi’u casglu a’u hystyried. 

Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben ddydd Gwener 22 Medi, bydd yr holl adborth a gasglwyd yn cael ei ddadansoddi i gynhyrchu adroddiad yn nodi’r hyn mae pobl wedi’i ddweud am ein hopsiynau arfaethedig.

Bydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ystyried yr adborth, ynghyd ag ystod eang o wybodaeth a thystiolaeth arall, megis data digwyddiadau, data gweithlu a data ariannol. Bydd yr Awdurdod yn defnyddio'r holl adborth, tystiolaeth a gwybodaeth i benderfynu sut i symud ymlaen. 

Bydd cyfarfod penderfynu terfynol yr Awdurdod Tân yn cael ei recordio a bydd ar gael ar ein gwefan i ganiatáu i'r rhai sydd â diddordeb glywed y drafodaeth a sut y gwneir y penderfyniad. 

Ar ôl i’r penderfyniad terfynol gael ei wneud, byddai unrhyw newidiadau i’n darpariaeth frys yn digwydd fesul cam, fel rhan o’n Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2024/28. 

  1. Beth yw'r costau a ragwelir ar gyfer yr Adolygiad ‘r Ddarpariaeth Brys?

Cydnabyddir bod ymgynghori yn fecanwaith allweddol ar gyfer gwella darpariaeth gwasanaethau ar draws y sector cyhoeddus a phreifat ac mae’n thema allweddol ym mholisi’r llywodraeth.

Mae’n ddyletswydd statudol ar Awdurdodau Tân ac Achub (FRAs) yng Nghymru i ymgynghori â’r cyhoedd ar feysydd penodol o ddarparu gwasanaethau, yn unol â Mesur Llywodraeth Leol Cymru 2011 a Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru.

Rhaid i bob Awdurdod ymgynghori â chymunedau lleol, defnyddwyr gwasanaeth, busnesau, partneriaid a rhanddeiliaid eraill wrth osod safonau gwasanaeth a thargedau perfformiad, i ddatblygu dull sy'n canolbwyntio mwy ar y dinesydd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n effeithiol.

Mae’r Awdurdod yn ystyried bod atebolrwydd cyhoeddus a thryloywder yn hollbwysig ym mhob agwedd ar ei berthynas â chymunedau lleol, partneriaid a sefydliadau a bob blwyddyn mae’n ofynnol iddo gyhoeddi asesiad o’i berfformiad yn erbyn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, lle mae ymgysylltu ac ymgynghori â’r cyhoedd hefyd yn elfen allweddol o’r gofynion hyn.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cadw at ein cyfrifoldebau cyfreithiol ac yn mabwysiadu arfer gorau cydnabyddedig wrth gynnal ein Hadolygiad o Sicrwydd Argyfwng, rydym wedi ymgysylltu ag arbenigwyr annibynnol o’r diwydiant i ddatblygu opsiynau cadarn i’w cyflwyno ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Y costau cynllunio dangosol ar gyfer yr Adolygiad o Sicrwydd Argyfwng yw:

Y gyllideb

Ar beth rydym wedi gwario hyn?

Pam?

£61,000

Mae ORH Ltd yn arbenigwyr ac yn darparu dadansoddi data I llawer o sefydliadau yn y sector brys.

Mae ORH Ltd wedi darparu cefnogaeth technegol annibynnol mewn perthynas a dadansoddi data a modelu ar gyfer barnu’r darpariaeth brys
presennol ac i adnabod lleoliadau delfrydol am orsafoedd staff dydd.

£39,000

Y Sefydliad Ymgynghori (tCI), sefydliad di-elw, sydd wedi hen ennill ei blwyf, sy’n hyrwyddo ymgynghori o ansawdd uchel â’r cyhoedd a rhanddeiliaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Mae'r Sefydliad yn gweithio ar draws y sector gan gynnwys Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae'r Sefydliad yn darparu adolygiad cymheiriaid cymwys a Thystysgrif Parodrwydd Ymgynghori i sicrhau bod yr Awdurdod yn mabwysiadu arfer gorau yn unol â Siarter Ymgynghori, a bod unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn cael ei gyflawni i'r safon ofynnol.

 

£10,000

Mae Sarah Barnett yn Ymchwilydd gyda phrofiad eang mewn ymchwil marchnad a chymdeithasol a dadansoddi data ansoddol.

 

Coladu a dadansoddiad annibynnol, arbenigol o'r ystod eang o adborth ymgynghori i gynhyrchu adroddiad i'r Awdurdod Tân i gynorthwyo'r broses o wneud penderfyniadau.

 

£2,000

Cyfieithu

 

Statudol o dan rheoliadau y Safonau Iaith Gymraeg (No.5) 2016)

 

£7,000

Cadeirydd annibynnol ar gyfer y Digwyddiadau cymunedol (15 I gyd)

 

Cadeirydd Annibynnol i hwyluso'r digwyddiadau cymunedol yn unol â'r arfer gorau a argymhellir.

 

£8,000

Printio

 

Gofyniad cyfreithiol i ddarparu ystod o wybodaeth hygyrch.

 

£10,000

Digwyddiadau Cymunedol x 15

 

Llogi Ystafell, systemau Cyfeiriad Cyhoeddus a chymorth technegol a lluniaeth.

 

£2,500

Deunyddiau Hyrwyddo a hysbysebion

 

Hyrwyddo ymgynghori i gael yr ystod ehangaf o ymgysylltu â'r cyhoedd

 

27. Beth yw'r polisi mewn perthynas â deisebau?

Gan fod deiseb yn cynrychioli mynegiant o farn y bobl sy'n ei harwyddo, barn Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (yr Awdurdod) a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (y Gwasanaeth) yw bod dogfennau o'r fath yn gyfystyr â mecanwaith pwysig sy'n grymuso pobl leol i gael llais ar faterion tân ac achub lleol.

Fodd bynnag, ni fydd deisebau’n cael eu hystyried ar eu pen eu hunain, ond fel un darn o dystiolaeth a gwybodaeth sy’n cyfrannu at ddarlun cyffredinol o farn y cyhoedd. Y bwriad yw sicrhau bod:

• lleisiau'n cael eu clywed yn briodol;
• mae'r perygl o wrando ar grwpiau lobïo gweithredol yn unig yn cael ei osgoi.

Gellir codi deisebau naill ai fel datganiad ar wahân gan y llofnodwyr, neu fel ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus neu gynnig sy'n cael ei wneud gan yr Awdurdod / Gwasanaeth. Yn yr achos olaf, dylai deisebwyr fod yn ymwybodol na ddylai deisebau gael eu hystyried yn ddeisebau. Er mwyn cael eu derbyn i'w hystyried, dylai deisebau fodloni'r meini prawf a ddisgrifir isod.

Bydd deiseb yn cynnwys unrhyw nifer o lofnodion yn cael ei hystyried gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (yr Awdurdod) neu Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (y Gwasanaeth) yn ei broses o wneud penderfyniadau. Os derbynnir deiseb gyda chefnogaeth sylweddol o leiaf 1000 o lofnodion:
• gan yr Awdurdod, bydd Cadeirydd yr Awdurdod yn cynnwys y ddeiseb fel eitem benodol ar agenda cyfarfod nesaf yr Awdurdod;
• gan y Gwasanaeth, bydd y Prif Swyddog Tân yn cynnwys y ddeiseb fel eitem benodol ar agenda cyfarfod ffurfiol nesaf Tîm Arwain y Gwasanaeth.

Gellir derbyn deisebau ar un o dair ffurf:
• fel copi caled traddodiadol;
• yn electronig, er enghraifft trwy e-bost, fel e-ddeiseb, neu ar fformat y we neu gyfryngau cymdeithasol;
• mewn cyfuniad o ffurflenni copi caled ac electronig. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ddwy ran y ddeiseb fod wedi dod i law'r Awdurdod / Gwasanaeth cyn y gellir eu hystyried yn eu cyfanrwydd.

Dylid darparu enw a chyfeiriad trefnydd y ddeiseb, y mae'n rhaid iddo fod yn byw yn yr ardal y mae'r ddeiseb yn ymwneud â hi, ar dudalen gyntaf y ddeiseb. Dylai cyflwyniadau gynnwys Datganiad o Ddeiseb a ddylai gynnwys:
• y sefydliad y mae'r ddeiseb yn cael ei chyfeirio ato, sef Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru neu Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru;
• y cynnig sy'n cael ei hyrwyddo gan y ddeiseb;
• yr amserlen ar gyfer casglu'r llofnodion.

Dylid cynnwys y wybodaeth ganlynol am bob llofnodwr:
• enw;
• cod post;
• llofnodion gwreiddiol, mewn llawysgrifen (yn achos deiseb ysgrifenedig);
• cyfeiriad e-bost (yn achos deiseb electronig). Os na chaiff y data hwn ei gasglu o ganlyniad i’r ffaith nad yw’r rheolwr data yn rhannu’r data, fel sy’n wir am gyfryngau cymdeithasol (fel Facebook) neu ‘38 Degrees’, dim ond fel dangosydd o farn y cyhoedd y bydd y ddeiseb yn cael ei chydnabod.

Dylid cymryd gofal i beidio â chynnwys unrhyw wybodaeth neu lofnodion na ddylid eu gwneud yn gyhoeddus.

Gellir llunio deisebau naill ai ar ffurf copi caled neu electronig yn y Gymraeg neu'r Saesneg, neu yn wir mewn cyfuniad o'r ddwy iaith.

Dylid rhoi sylw i ddeisebau ysgrifenedig fel a ganlyn;
• y tu allan i gyfnod ymgynghori ffurfiol, naill ai i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru neu Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru;
• yn ystod cyfnod ymgynghori ffurfiol, naill ai i Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru neu i Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Ym mhob achos, mae'r cyfeiriad fel a ganlyn:
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru,
Ffordd Salesbury,
Parc Busnes Llanelwy,
Llanelwy,
Sir Ddinbych, LL17 0JJ.

Pe bai trefnydd y ddeiseb yn dymuno cael y ddogfen yn ffurfiol, dylai wneud apwyntiad drwy ffonio 01745 535250 neu drwy e-bostio
CorporateCommsDept@northwalesfire.gov.wales.

Dylid dwyn cyflwyniadau electronig i sylw’r Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol drwy anfon dolen ymlaen at CorporateCommsDept@northwalesfire.gov.wales.

Bydd cydnabyddiaeth o dderbyn y ddeiseb yn cael ei anfon at drefnydd y ddeiseb o fewn pum diwrnod gwaith o dderbyn y ddogfen, ynghyd ag esboniad clir o beth fydd yn digwydd wedyn.

Ni fydd deisebau a dderbynnir yn ystod cyfnod ymgynghori ffurfiol yn cael eu hystyried ar eu pen eu hunain ond yn hytrach fel un darn o dystiolaeth a gwybodaeth sy’n cyfrannu at ddarlun cyffredinol o farn y cyhoedd. Y bwriad yw sicrhau bod:
• y lleisiau'n cael eu clywed yn briodol;
• mae'r perygl o wrando ar grwpiau lobïo gweithredol yn unig yn cael ei osgoi.

Felly, bydd deisebau’n cael eu hystyried fel eitem o ohebiaeth yn yr un modd ag y byddai unrhyw ymateb arall yn cael ei ystyried, cyn belled â’u bod yn bodloni’r amodau a ganlyn:

• eu bod yn ymwneud â phwnc, cynnig neu fater y mae'r Awdurdod / Gwasanaeth wrthi'n chwilio amdano.

28. Pam nad yw'r adolygiad yn edrych ar ostyngiadau/arbedion yn ei bersonél anweithredol?

Dengys ffigurau Stats Cymru fod GTA Gogledd Cymru wedi cyflawni arbedion sylweddol mewn personél anweithredol.

Dros y tair blynedd 2018-19 i 2021-22, cyflawnodd GTAGC arbedion o 13.4%. Mae egwyddorion rheoli cyllideb y Gwasanaeth yn sicrhau y ceisir arbedion effeithlonrwydd parhaus yn rhagweithiol yn y dyfodol.

Cliciwch yma i lawrlwytho PDF o'r Cwestiynau Cyffredin

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen