Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Byw gyda dementia

Byw gyda dementia

Rhagwelir y bydd dwy filiwn o bobl â dementia erbyn 2051. Mae dementia ar y trywydd i fod yn lladdwr mwyaf yr 21ain ganrif, gyda rhywun yn ei ddatblygu bob tri munud, ac ar hyn o bryd nid oes iachâd iddo.

Nid oes ots gan ddementia faint yw eich oed. Mae dementia’n cael ei achosi gan glefydau cymhleth ar yr ymennydd felly nid rhan anochel o heneiddio ydyw. Yn wir, mae mwy na 40,000 o bobl â dementia yn y DU yn bobl dan 65 oed. O’r deg prif achos o farwolaeth, dementia ydy’r unig un rydym yn methu ei atal, ei iacháu na’i arafu, ond mae’r arian tuag at ymchwil i ddementia yn rhy isel o lawer.

Mae’n frwydr ddyddiol i bobl â dementia a’u teuluoedd gael y cymorth a’r gofal sydd eu hangen arnynt. Mae’r baich emosiynol, corfforol ac ariannol yn enfawr. Mae baich ariannol enfawr ar bobl sy’n byw â dementia, ac ar deuluoedd sy’n gwario popeth sydd ganddynt ar ofal i’w hanwyliaid.

Gan fod dealltwriaeth y cyhoedd mor isel, mae pobl â dementia yn aml yn teimlo eu bod – ac yn aml y maen nhw – yn cael eu camddeall, eu gwthio i’r cyrion a’u hynysu. Ac mae hynny’n golygu eu bod yn llai tebygol o fod yn gallu byw’n annibynnol yn eu cymunedau eu hunain.

Nid gwaith hawdd yw gofalu am rywun â dementia, ond does dim rhaid i chi wneud hynny ar eich pen eich hun. Peidiwch â gadael i’ch hun gael eich llethu, gofynnwch am help pan fo angen. Mae cymorth ar gael, gan gynnwys Llinell Gymorth y Gymdeithas Alzheimer's.

Bydd cadw eich hun yn iach yn eich helpu gyda’r gwaith gofalu, a bydd y person sydd â dementia yn elwa.

Diogelwch a Dementia

Mae dementia’n arwain at newidiadau yng ngalluoedd ac ymddygiad rhywun, ac mae angen i’r rhai o’u cwmpas fod yn effro i’r newidiadau hyn ac addasu fel y bo angen. Wrth gwrs, mae pob person â dementia yn wahanol, ac mae sefyllfa pob cartref yn amrywio. Fodd bynnag, mae damweiniau’n fwy tebygol o ddigwydd i bobl â dementia, a hynny am y rhesymau canlynol:

  • Mae synnwyr cydbwysedd a chyflymder adweithiau yn tueddu i ddirywio wrth i bobl fynd yn hŷn.
  • Mae anawsterau corfforol a phroblemau symudedd yn ei gwneud hi’n fwy anodd i wneud rhai gweithgareddau.
  • Mae dementia’n effeithio ar y cof a chrebwyll. Mae hefyd yn effeithio ar ddealltwriaeth felly mae’n bosibl na fydd person â dementia yn ymwybodol fod gwneud rhywbeth yn gallu bod yn beryglus iddyn nhw neu i bobl eraill.
  • Yn aml, bydd pobl sy’n gofalu â rhywun â dementia wedi blino ac yn teimlo dan bwysau.
  • Gall damweiniau fod yn fwy tebygol o ddigwydd pan fo pobl dan straen neu’n ddryslyd.

Does mo’r fath beth ag amgylchedd sy’n gyfan gwbl heb risg i neb ohonom, a phan fo rhywun yn byw â dementia gallai rhai mân ddamweiniau fod yn anochel. Mae’r daflen wybodaeth hon yn cyflwyno rhai rhagofalon synhwyrol i’w dilyn gan bobl sy’n agos at rywun â dementia er mwyn helpu i leihau’r risg.

Wrth ystyried anghenion rhywun â dementia, mae’n bwysig cael y cydbwysedd cywir rhwng annibyniaeth a’r angen i ddiogelu. Dylai’r person sydd â dementia fod yn rhan o’r penderfyniadau, a dylid cael eu cydsyniad pan fo modd. Pan nad yw hynny’n bosibl, mae’n hollbwysig fod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn gwneud pethau er lles y person.

Osgoi damweiniau

Mae nifer o ffyrdd o wneud cartref yn fwy diogel. Mae rhai ohonynt yn gamau syml ac ymarferol. Fodd bynnag, gall therapydd galwedigaethol roi cyngor i chi am yr holl amrywiaeth o ffyrdd o wneud eich cartref yn ddiogel, ac am y cyfarpar i gefnogi’r person sydd â dementia. Gallwch chi gysylltu â therapydd galwedigaethol drwy eich meddygfa neu drwy’r gwasanaethau cymdeithasol.

 

Goleuadau 

  • Gwnewch yn siŵr fod y golau yn eich cartref yn ddigon llachar i bawb allu gweld yn glir beth maen nhw’n wneud, ond dylech osgoi goleuadau sy’n goleuo’n syth i lygaid pobl.
  • Os bydd y person â dementia yn debygol o godi yn y nos, gadewch olau ymlaen yn y cyntedd pan fyddwch yn mynd i’r gwely a rhoi golau nos diogel yn yr ystafell wely.
  • Gwnewch yn siŵr fod golau ymlaen yn yr ystafell ymolchi neu’r tŷ bach er mwyn i’r person allu ffeindio ei ffordd yn y nos.

 Codwm

Mae rhai pobl hŷn yn ansicr ar eu traed ac maent yn fwy tebygol o gael codwm. Gall hyn fod yn beryglus. Gellir lleihau’r risg o godwm drwy dalu sylw i rygiau, carpedi rhydd (yn enwedig ar y grisiau) a lloriau llithrig. Symudwch geblau sy’n llusgo ar y llawr, dodrefn ansefydlog a blerwch neu bethau ar y llawr. Bydd canllaw yn y cyntedd ac ar y grisiau, canllaw gafael yn yr ystafell ymolchi a’r tŷ bach, a chanllaw codi wrth y toiled yn gymorth os yw person yn ansicr ar ei draed. A byddant yn helpu i leihau’r siawns o faglu neu syrthio.

  • Os yw’r person yn cael codwm sy’n edrych yn ddifrifol, peidiwch â cheisio ei symud na rhoi rhywbeth iddo ei fwyta neu ei yfed. Os yw wedi torri asgwrn, efallai y bydd angen iddo gael anesthetig yn nes ymlaen.
  • Hefyd, gellir trefnu i gael cyfarpar fel lifftiau bath, seddi bath ac addasiadau arbennig eraill, a’u gosod er mwyn gallu cael bath yn fwy diogel. Gofynnwch am gyngor gan therapydd galwedigaethol oherwydd rhaid bod yn ofalus wrth ystyried cyfarpar. Mae’n bosibl y bydd person â dementia yn ei chael yn anodd dysgu sut i ddefnyddio cyfarpar newydd ac addasiadau, a gallai hynny gynyddu’r risg. Bydd therapydd galwedigaethol yn cynnal asesiad trylwyr er mwyn sicrhau bod strategaethau’n cael eu teilwra er mwyn sicrhau’r lefel uchaf o ddiogelwch.

 

Sylweddau peryglus

  • Cadwch feddyginiaeth yn rhywle diogel bob amser. Os bydd y person yn methu rhoi meddyginiaeth iddo’i hun, dylid trefnu i rywun arall wneud hynny. Mae gan eich fferyllfa gynwysyddion sy’n eich galluogi i fesur meddyginiaeth ar gyfer yr wythnos gyfan. Gofynnwch yn eich meddygfa am gyngor os bydd yr anawsterau’n parhau.
  • Rhowch unrhyw sylweddau gwenwynig dan glo, megis tynnwr paent, cannydd (bleach) neu ddiheintydd, oherwydd mae’n bosibl na fydd person â dementia yn gwybod beth ydynt.
  • Os ydych yn credu bod y person wedi llyncu rhywbeth gwenwynig, ffoniwch am ambiwlans neu ewch â nhw i’r uned ddamweiniau ac achosion brys agosaf ar unwaith. Ewch â’r cynhwysydd gyda chi, ac unrhyw beth sy’n weddill o’r sylwedd fel bydd y meddyg yn gwybod pa driniaeth i’w rhoi.

Y gegin

  • Os yw’n ymddangos nad yw’r person yn adnabod perygl mwyach, symudwch unrhyw beth a allai fod yn beryglus, fel cyllyll miniog, ond cadwch bethau bob-dydd o fewn cyrraedd.
  • Os oes angen, ystyriwch osod falf ynysu ar gwcer nwy, fel nad oes modd troi’r cwcer ymlaen nac i ffwrdd, a gadewch y falf ymlaen os bydd y person gartref ar ei ben ei hun – gall eich cyflenwr nwy roi cyngor i chi am hyn. Darparwch degell trydan sy’n diffodd ei hun yn awtomatig. Bydd teclynnau synhwyro llifogydd yn ddefnyddiol hefyd rhag ofn i’r tapiau gael eu gadael ar agor.
  • Mae damweiniau yn digwydd. Os bydd y person yn llosgi neu’n sgaldio ei hun, rhowch ddŵr oer dros y rhan o’r corff am ddeg munud o leiaf er mwyn lleihau’r gwres a’r boen. Gall croen sydd wedi llosgi chwyddo felly tynnwch unrhyw beth tynn, fel watsh neu fodrwy. Peidiwch â rhoi eli na menyn ar y croen. Gorchuddiwch y croen â chadach glân sydd ddim yn fflyffiog, neu lapiwch mewn cling ffilm os oes gennych beth.
  • Cysylltwch â’r feddygfa a disgrifio’r anaf, neu ewch â’r person i’r uned ddamweiniau ac achosion brys agosaf. Cofiwch ddweud wrth y meddyg neu staff yr ysbyty fod dementia ar y person ac unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn gymorth iddynt allu cyfathrebu.

 

Gwresogi

 Gall tanau neu wresogyddion fod yn beryglus i rywun â nam ar ei gof ac ar ei ddealltwriaeth o beryglon.

 

  • Gosodwch giard o flaen y tân bob amser.

 

  • Peidiwch byth â sychu dillad dros dân neu wresogydd.

 

  • Peidiwch byth â mynd â gwresogydd cludadwy i mewn i ystafell ymolchi.

 

  • Gwnewch yn siŵr fod pob offer nwy a thrydan yn cael eu gwasanaethu’n rheolaidd.

 

  • Ystyriwch osod falf ynysu ar dân nwy fel ar gwcer nwy.

 

  • Ystyriwch osod gwres canolog neu dân trydan y gellir ei reoli â switsh amser.

 

Fire protection

 

  • Gwnewch yn siŵr fod larymau nwy a larymau mwg yn cael eu gosod. Hyd yn oed oes bydd y person â dementia yn byw ar ei ben ei hun ac yn methu ymateb i’r larwm, mae’n bosibl y bydd rhywun yn mynd heibio’r tŷ ac yn gallu cymryd camau priodol. Gellir trefnu bod larymau’n gwneud i ddyfeisiau rhybuddio roi gwybod i eraill am y sefyllfa.

 

  • Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar o dân drwy ganfod mwg a seinio larwm. Nid oes angen eu cael ymhob ystafell, a’r llefydd gorau yw mewn cyntedd ac ar ben y grisiau.

 

  • Ni ddylid gosod larymau mwg yn y gegin a’r ystafell ymolchi oherwydd bydd gwres ac anwedd sy’n cael eu creu wrth goginio a chael bath yn gwneud iddynt seinio’n ddiangen. Peidiwch â gosod gormod o larymau – gall llawer o sŵn achosi dryswch Gallai hyn ei gwneud yn anoddach i ddianc o dân.

 

  • Mae larymau’n rhedeg ar fatris neu ar y prif gyflenwad trydan. Dylech brofi’r batris yn eich larymau unwaith yr wythnos drwy bwyso’r botwm nes bydd y larwm yn canu.

 

  • Dylech gael larymau newydd bob deg mlynedd.

 

  • Gall gosod larymau mwg a larymau carbon monocsid leihau’r risg o dân yn y cartref. Hefyd, ystyriwch y canlynol wrth feddwl am ddiogelwch tân yn y cartref.

 

Ysmygu

 

  • Bydd person â dementia sy’n ysmygu yn achosi risg o gynnau tân oherwydd efallai y byddant yn anghofio eu bod wedi cynnau sigarét a byddant yn gallu ei gadael i losgi.

 

  • Os byddwch yn byw gydag ysmygwr sydd â dementia, efallai mai’r peth mwyaf diogel fyddai i chi gadw’r sigaréts, neu o leiaf y matsis. Cafwyd achosion pan fo’r person â dementia yn anghofio ei fod yn ysmygu os bydd yn gallu cael gafael ar sigaréts lai a llai dros amser. Dyma un o’r agweddau anodd, sef pan fo’n rhaid i ofalwr neu deulu’r person gael cydbwysedd rhwng annibyniaeth y person ac ansawdd ei fywyd.

 

  • Gwnewch yn siŵr fod blychau llwch ar gael o gwmpas y tŷ os ydych yn ysmygu.

 

  • Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely.

 

  • Ceisiwch gael, neu brynu, dodrefn sy’n gwrthsefyll tân.

 

Blancedi trydan

 

  • Gall blancedi trydan fod yn beryglus i bobl sydd â nam ar eu cof, oherwydd gallant achosi tân os byddant yn gorboethi. Os byddwch yn defnyddio blanced drydan, gwnewch yn siŵr fod nodweddion diogelwch arni, fel diffodd yn awtomatig os bydd yn cyrraedd rhyw dymheredd penodol.

 

  • Ni ddylai pobl sydd ag anymataliaeth ddefnyddio blancedi trydan.

 

Risg o Dân

 

Peidiwch byth â gadael canhwyllau heb gadw golwg arnynt

 

Os bydd tân:

 

  • Peidiwch â cheisio ei ddiffodd.
  • Ewch allan o’r tŷ ar unwaith.
  • Ffoniwch 999 oddi ar ffôn cymydog, ffôn symudol y tu allan neu o flwch ffôn.
  • Peidiwch â mynd yn ôl i mewn, ddim hyd yn oed i nôl anifeiliaid anwes.

 

Diogelwch wrth Goginio ac yn y Gegin

 

  • Mae’n bwysig gwirio bod eich cwcer yn ddiogel. O ran cwceri trydan, gofynnwch i drydanwr cymwys eu gwirio. O ran cwceri nwy, trefnwch ymweliad gan beiriannydd sydd ar gofrestr Gas Safe.

 

  • Os oes gennych broblemau â’ch cof, efallai y byddwch yn poeni y byddwch yn anghofio diffodd y popty neu’r hob. Mae dyfeisiau cau ar gael i stopio’r cyflenwad nwy os byddwch yn anghofio diffodd y cwcer.

 

  • Gallwch chi hefyd gael tap nwy arbennig er mwyn i’ch ffrindiau a’ch teulu allu ei ddiffodd pan fyddant yn gadael eich cartref. Yr enw ar hwn yw falf cwcer cloadwy (lockable cooker valve). Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu coginio oni bai fod rhywun gyda chi, ond fe allai eich cadw’n ddiogel. Trafodwch hyn gyda’ch ffrindiau a’ch teulu cyn cael un. Bydd eich cwmni dosbarthu nwy yn gosod un am ddim os byddwch yn gofyn iddynt – ewch i ‘Sefydliadau defnyddiol eraill’ i wybod â phwy i gysylltu.

 

  • Efallai y byddwch eisiau defnyddio popty meicrodon yn lle popty. Gall fod yn haws coginio, a’i defnyddio hefyd i aildwymo bwyd.

 

  • Byddwch yn arbennig o ofalus os byddwch yn y gegin, yn enwedig os byddwch yn coginio ag olew neu saim.

 

  • Ceisiwch gynllunio eich cegin fel bod y pethau y byddwch yn eu defnyddio’n aml o fewn cyrraedd. Hefyd, ceisiwch wneud yr un peth gyda phethau trwm, fel blawd a siwgr neu offer trwm.

 

  • Pan fo modd, ceisiwch beidio â dringo ar gadeiriau i gyrraedd cypyrddau. Os bydd angen i chi gyrraedd cypyrddau uchel, defnyddiwch stepiau bychain.

 

  • Taflwch fwyd sydd wedi mynd yn hen neu allan o ddyddiad. Gallwch roi nodyn ar ddrws yr oergell i’ch atgoffa.

 

  • Os ydych yn cael trafferth torri bwyd, beth am roi mat na fydd yn llithro o dan lestri neu fyrddau torri. Bydd hyn yn eu rhwystro rhag symud tra byddwch yn paratoi bwyd.

 

  • Gallwch brynu cyllyll sydd â handlenni â siâp arbennig sy’n hawdd eu rheoli. Cadwch y cyllyll yn finiog ac mewn cyflwr da. Gwnewch yn siŵr fod gennych rywbeth hawdd ei ddefnyddio i agor tuniau.

 

  • Mae tegell trydan yn well na thegell ar ben y stof oherwydd mae’n diffodd yn awtomatig pan fydd wedi berwi. Peidiwch â gorlenwi’r tegell, a pheidio â berwi mwy o ddŵr nag sydd angen.

 

  • Cymerwch ofal gyda dŵr berwedig, a defnyddiwch fygiau a chwpanau â gwaelod llydan arnynt.

 

  • Rhowch labeli lluniau a geiriau ar gypyrddau a phethau er mwyn gallu gweld yn hawdd beth ydynt.

 

  • Rhowch gyfarwyddiadau clir sy’n hawdd eu dilyn ar rywbeth amlwg fel yr oergell.

 

Camau ymarferol – Gofyn i’r cymdogion

 

  • Os bydd y person â dementia yn byw ar ei ben ei hun, neu os bydd person sy’n byw gydag ef/hi allan o’r tŷ am gyfnodau hir, efallai y bydd cymydog cyfeillgar yn barod i gadw llygad am arwyddion fod rhywbeth o’i le. Efallai y gallwch adael goriadau sbâr yno a rhif ffôn i gysylltu â chi os bydd angen.

 

Mynd i mewn

 

  • Os yw’r person yn byw ar ei ben ei hun, mae’n bwysig trefnu ffordd i eraill fynd i mewn i’r tŷ. Dyna pam nad yw’n syniad da i roi bolltau ar y drws ffrynt.

 

  • Mae’n bwysig meddwl am sefyllfa o’r fath ymlaen llaw, felly os bydd argyfwng byddwch chi’n dallu delio â’r mater heb boeni hefyd sut rydych am fynd i mewn i’r tŷ. Mae sêff goriadau’n ffordd ddiogel o ddarparu mynediad. Dim ond ffrindiau, aelodau o’r teulu neu ofalwyr penodol fyddai’n gwybod y cod, a gellid newid hwn yn rheolaidd.

 

Manylion defnyddiol

 

Mae’n syniad da i gadw rhestr o rifau ffôn defnyddiol mewn lle strategol neu rhowch nhw yn eich ffôn. Gallai’r rhain fod yn rhifau ar gyfer:

 

  • Nwy, Dŵr a Thrydan (yn enwedig mewn argyfwng).
  • Meddygfa ac Ysbyty.
  • Gweithiwr cymdeithasol ac asiantaeth gofal cartref, os oes rhai’n gysylltiedig â’r person.
  • Heddlu lleol.
  • Trydanwr, plymer, adeiladwr neu saer cloeon lleol.
  • Tacsi lleol.
  • Gofalwyr, ffrindiau neu aelodau o’r teulu.

 

Bydd hefyd yn gymorth os byddwch yn rhestru gwybodaeth fel:

 

  • Camau ymarferol ynglŷn â phwy i gysylltu a sut i ddelio ag argyfwng. Er enghraifft, sut i ddefnyddio system rybuddio.
  • Cyngor ar strategaethau addas ar gyfer y person â dementia, e.e. i helpu i gyfathrebu neu i reoli gofid.
  • Ble mae’r mesuryddion nwy a thrydan, y bocs ffiws a’r tap cau.
  • Ble i ddiffodd y prif gyflenwad nwy a dŵr.
  • Dywedwch wrth unrhyw un a allai fod angen gwybod ble i ffeindio’r rhestr.

 

Mae mwy o arweiniad ar fyw’n ddiogel ac annibynnol ar gael ar wefan y Gymdeithas Alzheimer's.

 

Os oes dementia arnoch chi neu ar rywun rydych chi’n ei adnabod, gallwn ni ddod draw i wneud eich cartref chi – neu eu cartref nhw – mor ddiogel â phosibl.

 

Gall ymweliad roi tawelwch meddwl a helpu pobl i aros yn annibynnol a byw yn eu cartrefi eu hunain am fwy o amser.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen