Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Nam ar y Golwg

Cymorth ychwanegol i'r rhai sydd â nam ar eu golwg

Gall deall colli golwg unigolyn a gwybod ble i fynd am gymorth ychwanegol sicrhau bod eich perthynas, ffrind neu gymydog yn ddiogel rhag tân yn eu cartref ac y byddai'n gwybod beth i'w wneud os bydd tân, o ddianc o'i gartref i ffonio 999.

Eich larymau mwg

Mae larymau mwg confensiynol yn gweithio drwy ollwng sŵn uchel pan fydd mwg yn cael ei ganfod gan roi rhybudd cynnar hanfodol o dân, ac felly helpu i ddianc.

  • Os ydych chi’n ddall neu os oes gennych lai o olwg, mae ffyrdd ychwanegol o sicrhau y byddech yn ymwybodol o dân yn eich cartref. Ystyriwch osod sticer lliwgar ar eich larwm mwg fel ei fod yn sefyll allan yn erbyn nenfwd gwyn.
  • Ystyriwch osod system golau strôb a pad sy’n dirgrynu. Mae'r systemau larwm hyn yn gweithredu yn yr un modd â larymau mwg eraill ond mae'r golau a'r dirgryniadau yn helpu i rybuddio'r preswylydd.

Rydym yn argymell eich bod yn ffitio larwm mwg ar bob lefel o'ch cartref (gan osgoi'r gegin a'r ystafell ymolchi) a gofyn i ffrind, aelod o'r teulu neu gymydog brofi eich larwm mwg bob wythnos.

Byddwch yn barod - Ewch allan, arhoswch allan, ffoniwch 999

  • Efallai y byddwch hefyd am ystyried gosod dangosydd cyffyrddol ar hyd eich llwybr dianc i'w gwneud yn haws dod o hyd i'r allanfa, gwnewch yn siŵr eich bod yn teimlo'n gyfforddus yn eu dilyn hyd yn oed os ydych yn teimlo'n flinedig yng nghanol y nos.
  • Sicrhewch bod yr holl ddrysau a choridorau'n cael eu cadw'n glir.
  • ael cynllun B. Y drws ffrynt fel arfer yw eich dewis cyntaf, ond dylech gael cynllun B os yw cynllun A wedi'i rwystro.
  • Cadwch allweddi drysau a ffenestri ger yr allanfa ac o fewn cyrraedd hawdd.

Codwch y larwm

  • Sicrhewch eich bod yn gallu deialu 999 ar eich llinell dir neu ffôn symudol, gall marcwyr fod yn ddefnyddiol.
  • Gwnewch yn siŵr bod cloch eich drws ffrynt yn gweithio a'i bod yn gloch drws wedi’i mwyhau neu’n un sy’n dirgrynu. Felly, gall cymydog neu ddiffoddwr tân eich hysbysu.
  • Gwiriwch ceblau trydanol yn rheolaidd drwy gyffwrdd pan nad ydynt yn y plwg. Os ydynt wedi treulio neu'n ddiffygiol peidiwch â'u plygio i mewn na'u newid.
  • Os yw offer trydan yn rhoi arogl llosgi, diffoddwch nhw a'u tynnu allan o’r plwg ar unwaith.

Offer a chyngor arbenigol i bobl ddall a rhannol ddall RNIB 0303 123 9999

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen