Prentisiaeth Diogelwch Tân i Fusnesau
CADWCH LYGAD AR EIN HADRAN SWYDDI GWAG DIWEDDARAF AM GYFLEOEDD PRENTISIAETH
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig Prentisiaeth Ymgynghorydd Diogelwch Tân i Fusnesau yn y Tîm Addysg i Fusnesau.
Yn ystod rhaglen dwy flynedd, bydd y prentis yn cael cyfle i ddatblygu’n bersonol a datblygu gyrfa trwy weithio tuag at ennill cymhwyster diogelwch tân achrededig, Prentisiaeth Uwch Lefel 4.
Rôl y tîm Addysg i Fusnesau yw darparu cyngor a gwybodaeth i fusnesau a’r sector fasnachol yng Ngogledd Cymru ynglŷn ag atal tanau ar safleoedd, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o ofynion statudol mewn perthynas â diogelwch tân.
Mae’r Ymgynghorwyr Diogelwch Tân i Fusnesau dan Brentisiaeth yn cefnogi’r Tîm trwy weithio gyda busnesau i’w helpu i gadw eu safleoedd yn ddiogel rhag tân trwy gynnig cyngor ac addysg i leihau’r perygl i breswylwyr, gyda’r bwriad o gydnabod a chymryd camau gweithredu addas pan fydd angen.
Mae’r rôl yn golygu gwaith hanfodol amrywiol megis ymweld â busnesau ar sbectrwm eang yn ogystal â chynnal ymweliadau ar y cyd gydag asiantaethau allanol i gefnogi a hybu busnesau diogel.
Mae’r Ymgynghorwyr Diogelwch Tân i Fusnesau dan Brentisiaeth yn cynrychioli’r gwasanaeth tân ac achub ac felly mae’n rhaid iddynt arddangos sgiliau gwasanaeth cwsmer rhagorol i fusnesau yn eu cymunedau.
Cymwyseddau a sgiliau i’w harddangos
- O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch.
- Ymwybyddiaeth o weithgareddau a swyddogaethau craidd y gwasanaeth tân ac achub yn lleol ac yn genedlaethol.
- Trwydded yrru lawn a chyfredol y DU neu’r gallu i gael trwydded yrru lawn a chyfredol yn ystod y cyfnod prawf.
- Y gallu i ddarllen ac ysgrifennu Saesneg i safon sydd gyfystyr â sgiliau allweddol lefel 2
- Sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Sgiliau TGCh canolraddol.
- Y gallu i gwblhau’r hyfforddiant a’r rhaglen ddatblygu ar gyfer Ymgynghorwyr Diogelwch Tân i Fusnesau. Bydd hyn yn cynnwys llwyddo i ennill Tystysgrif Lefel 3 mewn Diogelwch Tân neu Dystysgrif Diogelwch Tân Lefel 4 ar gyfer ymgeiswyr addas.
- Cymraeg Lefel 2 Siarad a Gwrando - Mynnir eich bod yn gallu deall hanfodion sgwrs yn y gweithle. Ymateb i ofynion syml yn ymwneud â’r swydd a cheisiadau am wybodaeth ffeithiol. Gofyn cwestiynau syml a deall ymatebiadau syml. Mynegi rhywfaint o’ch barn cyn belled bod y pwnc yn gyfarwydd. Deall cyfarwyddiadau pan ddefnyddir iaith syml.
Bydd y brentisiaeth yn arwain at gymhwyster sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol – un ai Prentisiaeth Uwch Lefel 3 neu bydd ymgeiswyr addas yn gallu gweithio tuag at ennill tystysgrif Prentisiaeth Uwch Lefel 4.