Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwr Tân Rhan Amser (RDS)

Enw: Kim Rôl: Diffoddwr Tân Rhan Amser (RDS)

Ychydig bach am fy rôl…

Fel diffoddwr tân RDS rydw i ar alwad gyda’r nos ac ar benwythnosau, mae fy rôl yn golygu troi allan i danau mewn eiddo, gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd, ac unrhyw beth sydd yn ofynnol gan y gwasanaeth tân. Fel rhan o fy rôl rydw i’n mynychu nosweithiau ymarfer bob nos Lun, ac mae hyn yn gyfle i gynnal cymhwysedd a datblygu sgiliau newydd. Fel rhan o fy rôl rydw i’n addysgu’r gymuned ar ddiogelwch tân trwy ganolbwyntio ar atal tanau a cynnal archwiliadau diogelwch cartref.

Beth ydi’ch gweithgareddau ar ddiwrnod arferol?

Mae pob diwrnod yn wahanol!

Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?

Mae’n wahanol, mae’n gorfforol ac mae’n rhaid i chi fod yn heini iach a chryf. Rydw i hefyd yn cael llawer iawn o foddhad o helpu eraill.

Pam wnaethoch chi ddewis hyn fel gyrfa?

Ro’n i eisiau her newydd! Roeddwn i’n edrych am rywbeth mwy, rhywbeth a fyddai’n rhoi pwrpas i mi. Roeddwn i hefyd eisiau cadw’n heini a chael gyrfa a fyddai’n golygu fy mod yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc.

Pa gymwysterau neu brofiad sydd ei angen i wneud y gwaith?

Mae profiad o weithio gyda phob math o bobl a’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol gyda’r cyhoedd a chydweithwyr yn hanfodol. Mae’n rhaid i chi fod yn barod i weithio fel tîm a gweithio’n galed. Mae angen diddordeb hefyd mewn cadw’n heini ac iach, ac rydw i’n berson penderfynol iawn ac yn mwynhau heriau. Dydw i ddim yn un i roi’r ffidil yn y to a ni ddylech chithau wneud hynny ychwaith!

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd yn awyddus i ddilyn hyn fel gyrfa?

Gweithiwch yn galed a byddwch yn falch o’ch ffitrwydd, dylech dyfalbarhau a wynebu’r her.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen