Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwybodaeth i bobl sydd yn cyflogi Diffoddwyr Tân Ar-Alwad

Gwybodaeth i bobl sydd yn cyflogi Diffoddwyr Tân Ar-Alwad

Rydym yn apelio ar gyflogwyr lleol sydd yn dymuno helpu eu cymuned i gefnogi eu staff i ddod yn Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad (RDS).

Daw ein Diffoddwyr Tân ar alwad o bob math o gefndiroedd a galwedigaethau - nid oes y fath beth â diffoddwr tân ‘arferol’.

Er enghraifft fe allant fod yn weithwyr â sgiliau, athrawon, gweithwyr cynhyrchu, rheolwyr, gweithwyr swyddfa neu rieni sy’n aros yn y cartref.

Fel cyflogwr, fe welwch chi fod llawer o fuddion ynghlwm â chael Diffoddwr Tân ar alwad yn aelod o’ch tîm.

Beth allwch chi ei wneud i ni:

  • Rhannu gwybodaeth am rôl y Diffoddwr Tân ar alwad gyda’ch gweithwyr.
  • Rhoi amser i ffwrdd o’r gwaith i’ch gweithwyr i’w caniatáu i hyfforddi fel Diffoddwyr Tân ar alwad.
  • Cytuno i ryddhau staff ar adegau penodol i ymateb i achosion brys.

 

Beth allwn ni ei wneud i chi:

  • Hyfforddi’ch staff i safon uchel mewn meysydd megis diogelwch tân, codi a chario a chymorth cyntaf
  • Gwella sgiliau eich gweithwyr mewn sawl ffordd, gan gynnwys datblygu gwaith tîm, datrys problemau a sgiliau cyfathrebu
  • Rhoi cyfle iddynt ennill cymwysterau rheoli
  • Sicrhau bod eich cymuned a’ch gweithle mor ddiogel â phosib
  • Codi proffil eich cwmni ledled Gogledd Cymru

Mae nifer o gyflogwyr wedi dweud wrthym ni fod cyflogi Diffoddwyr Tân ar alwad wedi eu helpu i godi proffil y cwmni. Mae papurau lleol a chyhoeddiadau masnachu yn aml iawn yn dangos diddordeb mewn cwmnïau sydd yn cefnogi cymunedau lleol.

Mae parch mawr tuag at ddiffoddwyr tân yn y gymuned, ac felly trwy gefnogi diffoddwyr tân RDS bydd pobl yn gweld eich bod yn gwmni mawr eich gofal.

Os ydych chi’n gyflogwr sydd gan weithiwr sydd â diddordeb mewn gyrfa fel Diffoddwr Tân ar alwad, cysylltwch â ni am fwy o fanylion.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gymryd rhan a’n helpu ni i’ch helpu chi a’ch cymuned ffoniwch yr Adran Adnoddau Dynol ar 01745 535 250.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen