Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi arwyddo i Gyfamod y Lluoedd Arfog i nodi ein hymrwymiad fel sefydliad i aelodau o’r Lluoedd Arfog Prydeinig a’u teuluoedd. Ni ddylai aelodau o gymuned y lluoedd arfog wynebu’r un anfantais o’u cymharu â dinasyddion eraill yn y ddarpariaeth o wasanaethau ac mae ystyriaethau arbennig yn addas mewn rhai achosion, yn arbennig i’r rhai sydd wedi cyfrannu llawer.

Rydym yn cydnabod y gwerth y mae Personél sy’n Gwasanaethu, y rhai Rheolaidd a’r Milwyr wrth Gefn, Cyn-filwyr a theuluoedd milwrol yn ei gyfrannu at ein sefydliad a’n gwlad. Bydd cyfweliad yn cael ei warantu, felly, i Gyn-filwyr a’u Priod/Partneriaid, aelodau Rheolaidd o’r Llu Arfog sy’n gwasanaethu ond yn dod at ddiwedd eu gwasanaeth, a Phriod/Partneriaid aelodau o’r Lluoedd Arfog sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd. Mae hyn yn amodol i’r ffaith fod meini prawf hanfodol y rôl yn cael eu cyfarfod ac nad oes cyfnod o fwy na 5 mlynedd wedi bod ers gadael y Lluoedd Arfog (yn ddibynnol ar wybodaeth gefnogol yn cael ei gyflwyno ar gais).

Dylai ymgeiswyr sicrhau eu bod yn cwblhau’r datganiad sy’n ymwneud â gwasanaeth y Lluoedd Arfog ar y ffurflen gais er mwyn sicrhau fod cyfweliad yn cael ei gynnig, cyhyd â bod y meini prawf hanfodol yn cael eu cyfarfod.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen