Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ffitrwydd

Tîm Iechyd a Ffitrwydd

Mae ein cynghorwyr iechyd a ffitrwydd yn monitro lefelau ffitrwydd yr holl staff gweithredol. Yn ogystal, gall y tîm gynnig y buddion canlynol i’r holl weithwyr.

  • Cefnogaeth hyfforddi ymarfer proffesiynol
  • Canllawiau maethol addysgiadol
  • Gosod amcanion ac atgyfnerthu cymhelliant
  • Hyfforddiant ar ffordd o fyw
  • Monitro iechyd – yn cynnwys asesiad pwysau gwaed a dadansoddiad o gyfansoddiad y corff
  • Hybu meddylfryd cadarnhaol

Mynediad gym am ddim

Gallwch fwynhau mynediad am ddim yn unrhyw un o’r adnoddau gym yn ein gorsafoedd. Gellir archebu sesiwn anwytho gydag aelod o’r tîm Iechyd, Ffitrwydd a Lles.

45 munud yr wythnos o hawliant ffitrwydd

Fel gweithiwr, gallwch fanteisio ar hawliant ffitrwydd o 45 munud gyda thâl. Digon o amser i godi chwys ac ymarfer y corff.

Ymarferion Ar-lein

Beth am ymarfer gyda ffrind? Ydych chi angen arweiniad? Gall gweithwyr ymuno ag ymarferion ar-lein gyda chynghorydd Iechyd a Ffitrwydd bob amser cinio dydd Mercher a Gwener.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen