Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cynllun Pensiwn

Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân:

Mae Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân yn gynllun pensiwn galwedigaethol â buddion wedi eu diffinio a’i gymeradwy gan dreth. Mae’r trefniadau dan Gynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân 1992 (FPS 1992), Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (FPS 2007) ac o Ebrill 1 2015, y Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân (Cymru) newydd 2015 (FPS 2015) yn cynnig ystod o fuddion sy’n rhoi diogelwch ariannol yn unol â’r amser tuag at ymddeoliad a thu hwnt.

Am fwy o wybodaeth ar y Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân, ewch i:

https://www.dyfedpensionfund.org.uk/fire-pension-scheme/

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol:

Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn gynllun buddion wedi eu diffinio. Golyga hyn nad yw gwerth eich pensiwn CPLlL pan fyddwch yn ymddeol wedi ei gyfrifo’n seiliedig ar fuddsoddiadau, y marchnadoedd stoc a chost blwydd-dal. Yn hytrach, mae gwerth eich pensiwn yn cael ei gyfrifo’n seiliedig ar fanylion megis: pa mor hir ydych yr ydych wedi bod yn talu cyfraniadau pensiwn, swm eich cyflog pensiynadwy, a graddfa bensiwn gynyddol o 1 rhan o 49 o’r cyflog yr ydych wedi talu cyfraniadau pensiwn arno.

Hefyd, mae’n gynllun wedi ei ariannu sy’n golygu ei fod yn cael ei fuddsoddi mewn nifer o ffyrdd er mwyn cynyddu gwerth y Gronfa ac i sicrhau fod gwarant y bydd eich buddiannau yn cael eu talu ar eich ymddeoliad.

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yw’r cynllun pensiwn sector gyhoeddus fwyaf yn y DU. Mae’n gynllun pensiwn cenedlaethol ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn llywodraeth leol neu’n gweithio i gyflogwyr eraill sy’n cymryd rhan yn y CPLlL. Gweinyddir y CPLlL yng Nghymru a Lloegr yn lleol drwy 89 cronfa bensiwn lleol ac un o’r rheini yw Cronfa Bensiwn Clwyd. Yn 2021, roedd oddeutu 6.1 miliwn o aelodau CPLlL yn genedlaethol gan fod yn rhan werthfawr o’r pecyn tal a gwobrwyo ar gyfer gweithwyr a weithiai i gyflogwyr a gymerai ran yn y cynllun.

Unwaith y byddwch yn dechrau cyfrannu tuag at y cynllun byddwch yn dechrau adeiladu eich budd pensiwn fydd yn cynnig incwm rheolaidd i chi pan fyddwch wedi ymddeol. Mae’r pensiwn hwn yn swm blynyddol a delir i chi’n fisol am weddill eich oes. Bydd chwyddiant yn cael ei ychwanegu at eich pensiwn bob blwyddyn felly bydd yn cynyddu gyda chostau byw.

Am fwy o wybodaeth am y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ewch i:

Clwyd Pension Fund - Clwyd Pension Fund

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen