Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Blaenau Ffestiniog

Blaenau

Gorsaf Dân Blaenau Ffestiniog

Cyfeiriad:

Ystâd Ddiwydiannol Llwyn y Gell
Blaenau Ffestiniog
LL41 3NE  

Ffôn: 01745 535250

Manylion Criw:

Mae Gorsaf Dân Blaenau Ffestiniog yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.

Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod  y dydd ac/neu ar benwythnosau.

Safleoedd o Risg:

Rehau Plastics, Trawsfynnydd  a phwerdy  Tanygrisiau, Chwarel Lechi Llechwedd . Cartrefi preswyl - Bryn Blodau a Bryn Llywelyn, Llan Ffestiniog, Ysbyty Goffa Blaenau ac Ysgol y Moelwyn.

Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:

Mae Gorsaf Dân Blaenau Ffestiniog wedi ei lleoli'n ganolog ac y mae'r ffyrdd oddi yno yn arwain tuag at  Fetws-y-coed, Ffestiniog, Trawsfynydd, Dolgellau, Harlech a Phorthmadog.

Hanes yr Orsaf:

Fe agorwyd yr orsaf ym mis Gorffennaf 1981.Roedd yr hen orasaf wed ei lleoli dan fynydd Bwlch y Gwynt, ond bu'n rhaid cau'r orsaf gan ei bod yn anniogel oherwydd bod cerrig yn disgyn i lawr o'r mynydd . Roedd yr orsaf newydd wedi ei chynllunio'n wreiddiol i gadw dau bwmp  a chael dau lawr, ond fe newidiwyd y cynllun.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen