Sut i wneud cwyn
Ein prif nod yw darparu gwasanaeth o'r safon uchaf, sy'n gost-effeithiol ac yn effeithlon. Fodd bynnag, rydym ni'n derbyn bod pethau'n mynd o'i le o dro i dro a bod yn rhaid cymryd camau i adfer y sefyllfa pan fyddwn yn gweld diffygion.
Mae pob gwyn yn gyfle i unrhyw un sy'n defnyddio neu'n derbyn gwasanaethau'r Awdurdod Tân gywiro pethau.
Mae ein gweithdrefn gwyno yn ei lle er mwyn cyflwyno gwelliannau parhaus ar draws y Gwasanaeth. Rydym ni'n ymdrechu'n barhaus i wella hyder a boddhad y cwsmer ynom ni.
Gellir gwneud cwyn dros y ffôn, yn bersonol, yn ysgrifenedig, trwy e-bost, ffacs neu'r wefan a byddwn yn ymdrin â hi heb flaenoriaethu.
Fe'ch cynghorir pwy fydd yn delio gyda'r gwyn, eu manylion cyswllt a byddwch chi'n derbyn rhif y gwyn. Ymatebir i'r gwyn o fewn 10 diwrnod gwaith.
Os ydych chi'n dymuno gwneud cwyn neu os hoffech ragor o wybodaeth neu gymorth am unrhyw ran o'r weithdrefn gwynion, cysylltwch â:
Rheolwr Dyletswydd yr Ystafell Reoli
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Canolfan Cyfathrebiadau ar y Cyd
Crud y Dderwen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JG
Ffôn: 01931 522 006
Ffacs: 01745 536412
Gallwn eich sicrhau bydd cyfrinachedd yn cael ei gynnal bob amser. Mae croeso ichi gysylltu â'r Gwasanaeth yn Gymraeg neu Saesneg.