Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dewis yr Offer Diffodd Tân Cywir

Dewis y nifer cywir a'r math cywir o Offer Diffodd Tân Cludadwy

Y sefyllfa Gyfreithiol

O dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (Y Gorchymyn Diogelwch Tân) mae gan y Person Cyfrifol ddyletswydd gyffredinol i ymgymryd â'r rhagofalon tân cyffredinol (Erthygl 8) fel y diffinnir yn Erthygl 4 (1) (d) 'mesurau mewn perthynas â'r gallu i ddiffodd tanau ar y safle;'

Ceir diffiniad pellach yn Erthygl 13;

'(1)... Mae'n rhaid i'r person cyfrifol wneud yn siwr-

(a) Bod gan y safle, i'r fath raddau sy'n briodol, offer diffodd tân priodol.........ac

(b) Offer diffodd tân anawtomatig sy'n hawdd i'w cyrraedd, hawdd i'w defnyddio gydag arwyddion clir.

(2) at ddibenion Paragraff (1) yr hyn sydd yn addas yw rhoi ystyriaeth i ddimensiynau'r safle, priodoleddau corfforol a chemegol y sylweddau sydd yn debygol o fod yn bresennol a phwy fydd yn y safle ar unrhyw adeg.'

Mae'r nifer a'r math o offer diffodd tân cludadwy y dylai fod yn bresennol ar y safle yn ddibynnol ar faint y safle,  natur a'r math o weithgareddau sydd yn cael eu cynnal ar y safle a natur y sylweddau sydd yn bresennol. Felly mae gosod rheolau cyffredinol yn anodd. Ceir gwybodaeth benodol yn Safonau Prydeinig 5306, 7937 a EN 3.

Dosbarthau a Graddfeydd Tân

Pennir graddfa dân ar yr  offer diffodd tân cludadwy (Safon Brydeinig EN 3) sydd yn gysylltiedig â phrofion, i weld pa mor effeithiol ydynt o safbwynt diffodd tanau gwahanol a phenodol.  

Caiff tanau eu dynodi a'u diffinio 'i ddiben rhoi mathau gwahanol o danau mewn gwahanol ddosbarthau ac er mwyn symleiddio'r cyfeiriad llafar ac ysgrifenedig tuag atynt:  

Dosbarth A: Tân yn ymwneud â defnyddiau solid, gan amlaf yn organig o ran natur, lle bydd colsion yn  llosgi.

                                                                                                                                                                                       Dosbarth B: Tân yn ymwneud â hylifau neu solidau hylifadwy.

Dosbarth C: Tân yn ymwneud â nwyon.

Dosbarth D: Tân yn ymwneud â metelau.

Dosbarth F: Tân yn ymwneud â saim (olew a saim llysiau neu anifeiliaid) wedi casglu mewn cyfarpar coginio.(Safon Brydeinig EN 2)

Tanau trydanol:  tanau yn ymwneud â chyflenwad trydanol fyw

Mae'r raddfa, sy'n seiliedig ar allu'r offer i ddiffodd tanau sydd yn wahanol o ran maint a dosbarth, yn cael ei phennu o dan amodau rheoledig.  Mae'r indecsau ar gyfer y niferoedd yn amrywio ar gyfer y gwahanol ddosbarthau, ac felly nid yw'r graddau ar gyfer un dosbarth yn berthnasol i unrhyw ddosbarth arall.  Nid yw'r broses o bennu graddfa, i ddiben y nodyn hwn, yn berthnasol.  Fodd bynnag, mae'r broses o bennu nifer a maint yr offer diffodd tân cludadwy yn ddibynnol ar y raddfa.

Tanau Dosbarth A

Ar gyfer tanau dosbarth A yr offer diffodd tân mwyaf cyffredin yw diffoddyddion dwr , ac y mae'r raddfa 13A wedi ei phennu ar ddiffoddyddion  dwr 9litr.

Gan mai tanau Dosbarth A yw'r rhai mwyaf cyffredin yn unrhyw safle mae'n angenrheidiol bod nifer benodol o ddiffoddyddion Dosbarth A ar gael.  Mae fformiwla wedi ei chreu ar gyfer pennu'r nifer angenrheidiol.

Mewn termau syml;

  • Y fformwla yw 0.065 x arwynebedd y llawr = graddfa'r llawr. E.e.  0.065 x 500 medr sgwâr = 32.5A

(Felly byddai 3 x Diffoddydd Tân Cludadwy Dwr 9litr sydd gan raddfa 13A yn ddigonol).

  • Ar wahân i'r fformwla hwn, mae'n rhaid cael o leiaf 2 ar gyfer pob llawr os yw arwynebedd y llawr rhwng 100 a 400 medr sgwâr
  • Ni ddylai'r pellter rhwng yr Offer Diffodd Tân Cludadwy a lleoliad unrhyw dân fod yn fwy na 30 medr . Felly dylid gosod diffoddyddion Dosbarth A pob 30 medr ar y safle.

Mae mwyafrif y diffoddyddion dosbarth A yn cynnwys dwr a gallant fod yn beryglus os cedwir hwy yn agos at gyflenwad trydan, neu os defnyddir hwy i ddiffodd tanau trydanol. Mae hyn oherwydd bod dwr yn dargludo trydan, ac felly mae perygl o ddioddef sioc drydanol.  Dylid cadw hyn mewn cof a thynnu sylw'r staff at hyn wrth eu hyfforddi ar sut i ddefnyddio'r offer.

Tanau trydanol.

Ym mha le mae potensial o dân trydanol, dylid defnyddio'r Offer Diffodd Tân sydd gan y pictogram diogelwch tân (gweler y symbylau uchod).

Tanau Dosbarth B,C,D ac F

Mae'r tanau sydd yn perthyn i ddosbarthau gwahanol (B,C,D ac F), yn ddibynnol ar achos y tân.  Dylid gosod diffoddydd sydd gan raddfa addas gerllaw'r perygl.  Ceir arweiniad pellach ar faint a'r mathau gwahanol o ddiffoddyddion B, C a D yn Safon Brydeinig EN 3 (pob rhan) a Safon Brydeinig 5306, Safon Brydeinig  7937 ar gyfer tanau dosbarth F.

Nodyn: Fel rheol, ni ddylid diffodd tanau Dosbarth C â diffoddydd tân gan nad yw diffodd y fflam nwy yn atal llif y nwy fflamadwy, a gall y cyfuniad ffrwydrol hyn fod yn fwy peryglus na'r tân gwreiddiol.

Bydd yr asesiad risgiau tân yn adnabod yr angen am offer diffodd tân penodol mewn perthynas â'r peryglon ar y safle.  Felly mae gofyn i'r person cymwys sydd yn cwblhau'r asesiad gael gwybodaeth dryllwyr o nodweddion yr offer diffodd tân sydd ar gael.

Hyfforddiant

Mae Offer Diffodd Tân Cludadwy yn hynod bwysig yn ystod cyfnod cynnar y tân oherwydd bod modd cludo'r offer o le i le a bod yr offer ar gael i'w ddefnyddio gan yr unigolyn er mwyn ddiffodd y tân ar unwaith.  Nid yw'r offer hyn wedi cael eu cynllunio i ddiffodd tanau mawrion gan mai offer i  ddiffodd tanau yn eu cyfnod cychwynnol ydynt yn unig ac mae eu gallu i ddiffodd tanau yn gyfyngedig.  Mae felly'n bwysig bod unrhyw un fydd yn defnyddio'r offer diffodd tân wedi cael hyfforddiant digonol  gyda'r offer perthnasol, a'u bod yn ymwybodol o gyfyngiadau'r offer yn ogystal â'u gallu i ddiffodd tanau.

Cynnal a chadw.

Mae'n bwysig bod yr offer yn gweithio, felly mae'n rhaid cael cynllun cynnal a chadw ar waith.   Mae Safon Brydeinig 5306 - 3 yn rhoi cyngor ar gomisiynu a chynnal a chadw Offer Diffodd Tân Cludadwy.  Mae offer diffodd tân diffygiol yn peryglu bwyd y sawl sy'n ei ddefnyddio, ac felly mae'n bwysig archwilio'r offer bob wythnos i sicrhau;

  • bod yr offer diffodd tân wedi ei osod ar fraced
  • nad oes dim rhwystrau o'i flaen a'i fod yn weladwy
  • bod y cyfarwyddiadau defnyddio yn lân, darllenadwy ac yn wynebu tuag allan
  • bod y ddyfais gwrth ymyrryd yn bresennol a chyflawn
  • nad yw wedi ei ddifrodi
  • bod y medrydd gwasgedd (os oes un) yn dangos bod y gwasgedd yn dderbyniol

Dylid llunio contract gyda pherson addas a chymwys i gynnal a chadw'r offer o leiaf unwaith y flwyddyn a chynnal archwiliad manylach bod 5 mlynedd.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen