Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Bwytai, mannau gwerthu bwyd sydyn, siopau tecawê neu eiddo preswyl a masnachol cymysg

Ydych chi, eich teulu neu’ch gweithwyr yn cysgu ar y safle?

Beth fydd yn digwydd os nad ydw i’n cwblhau asesiad risgiau tân?

Mae’r Gyfraith Diogelwch Tân yn berthnasol i chi ac mae’n rhaid i chi weithredu!

Rydych chi’n torri'r gyfraith os ydych chi’n rhoi bywydau mewn perygl. Fe allwn ni archwilio'ch safle fel rhan o'n cyfrifoldeb i orfodi'r gyfraith, neu os bydd cwsmer neu un o'ch gweithwyr yn rhoi gwybod i ni eu bod yn credu eu bod mewn perygl. Os credwn eich bod angen gwella diogelwch tân ar eich safle, byddwn yn rhoi cyngor i chi yn rhad ac AM DDIM ar y math o fesurau y dylech chi eu cymryd a chytuno ar y gwelliannau y dylech chi eu cyflawni o fewn cyfnod penodol.

Gallwn hefyd gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn os na fyddwch yn cydymffurfio. Os canfyddwn eich bod methu rheoli risgiau tân difrifol gallwn eich atal rhag defnyddio rhan o'ch safle ac efallai y bydd yn rhaid i chi gau'ch busnes o ganlyniad. Os ydych chi'n byw ar y safle bydd yn rhaid i chi ddod o hyd i rywle arall i fyw yn ogystal.

Ers i'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) gael ei gyflwyno yn 2005 rydym wedi cau nifer o siopau tecawê a bwytai. Gallwch hefyd yn wynebu dirwy sylweddol a/neu garchar oherwydd eich bod wedi torri'r gyfraith diogelwch tân.

Rydym yma i’ch helpu chi

Cysylltwch â’ch swyddfa ddiogelwch leol:

Sir y Fflint a Wrecsam ar 01978 367 870

Conwy a Sir Ddinbych ar 01745 355 450

Ynys Môn a Gwynedd ar 01286 662 999

Yng Ngogledd Cymru mae nifer o danau wedi digwydd mewn busnesau lle’r oedd y lloriau uchaf yn cael eu defnyddio fel llety cysgu.

Yn aml iawn mae’r math yma o danau yn arwain at golledion ariannol sylweddol, ac mae’r risg o anafiadau neu hyd yn oed farwolaethau yn uchel iawn.

Mae'n hynod bwysig eich bod chi'n meddwl am ddiogelwch tân ac yn rhoi'r rhagofalon diogelwch tân cywir yn eu lle er mwyn amddiffyn nid yn unig eich bywyd chi a'ch teulu, eich gweithwyr a'ch cwsmeriaid, ond hefyd eich eiddo a'ch busnes.

Mewn nifer o achosion gwelwn fod pobl wedi bod yn cysgu mewn ystafelloedd neu fflatiau uwch ben busnesau, ac yn aml iawn maent yn cael mynediad i'r mannau hyn drwy risiau heb eu hamddiffyn o fan cyhoeddus neu gegin, fel yn achos yr enghraifft isod:

 

Yn aml iawn mae’r llwybrau hyn wedi cael eu blocio gan ddefnyddiau hylosg. Gwyddwn o brofiad fod pobl sydd yn byw ar loriau uwch yn ei chael hi’n anodd dianc yn gyflym a diogel mewn argyfwng oni nai bod llwybrau dianc diogel ar gael.

Lleihau’r Peryglon

Gosodwch larwm i roi rhybudd cynnar o dân i bawb yn yr adeilad.

Dylech amddiffyn/gwahanu’r grisiau gyda defnyddiau sydd yn gallu gwrthsefyll tân i wneud yn siŵr bod eich llwybrau dianc yn ddiogel.

Cadwch lwybrau dianc yn glir rhag defnyddiau hylosg a rhwystrau eraill.

Peidiwch â rhoi dim byd o dan neu yn erbyn drysau i’w dal ar agor na thynnu dyfeisiadau cau oddi ar ddrysau (fe all drysau tân eich amddiffyn dim ond os ydynt yn cael eu cadw ar gau).

 

Gwnewch yn siŵr bod eich teulu a’ch gweithwyr yn gwybod sut i:

Fynd allan o’r adeilad mewn achos o dân

Alw’r Gwasanaeth Tân ac Achub.

 

Beth sy’n rhaid i mi ei wneud? ?

Mae’n rhaid i chi

  • Gwblhau asesiad risgiau tân
  • Gwella’ch mesurau diogelwch tân, os oes angen
  • Cadw llygaid ar y risgiau a’ch mesurau diogelwch tân

Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 - dan y ddeddf CHI sy'n gyfrifol am gymryd camau i amddiffyn y bobl ar eich safle rhag tân.

 

5 cam allweddol i’w dilyn

1 Nodi’r peryglon tân

2 Nodi’r bobl sydd mewn perygl

3 Gwerthuso’r risgiau, cael gwared arnynt neu eu lleihau ac amddiffyn rhagddynt

4 Cofnodi, cynllunio, rhoi gwybod, cyfarwyddo a hyfforddi

5 Adolygu’ch asesiad risgiau tân.

 

Crynodeb o’r Peryglon posibl

  • Mynediad i’r fflat(iau) drwy’r siop.
  • Storio pethau ar hyd llwybrau dianc/blocio llwybrau dianc gyda biniau neu wastraff.
  • Dim larwm mwg
  • Drysau wedi cloi
  • Tyllau mewn waliau, lloriau a nenfydau sydd gallu hwyluso lledaeniad mwg a thân
  • Peidio â glanhau a chynnal a chadw dwythellau echdynnu aer mewn cegin yn iawn neu ddim o gwbl
  • Dim offer diffodd tân
  • Peidio ag archwilio a chynnal a chadw gosodiadau trydanol yn iawn neu ddim o gwbl

 

Os gwelwch fod yr uchod yn wir ar gyfer eich safle chi neu of hoffech ragor o wybodaeth yna cysylltwch ag un o’r swyddfeydd isod am gyfarwyddyd.

Eich swyddfa ddiogelwch leol:

Sir y Fflint a Wrecsam ar 01978 367 870

Conwy a Sir Ddinbych ar 01745 355 450

Ynys Môn a Gwynedd ar 01286 662 999

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen