Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Adborth gan Fyfyrwyr

“Helpodd prosiect y Ffenics fi i sylweddoli sut y gall cynnau tanau bwriadol effeithio ar fywydau pobl eraill. Y mae hefyd wedi fy helpu i wybod beth yr hoffwn ei wneud gyda'm bywyd.” – Rich Povey, a gymrodd ran yn Y Ffenics

Mae prosiect y Ffenics wedi fy helpu mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Cyn dod i wybod am y cwrs, nid oeddwn yn sicr pa fath o yrfa i'w chanlyn. Rŵan, rydw i'n teimlo fod cael gyrfa yn rhywbeth sydd yn rhaid i mi ei wneud, ond doeddwn i erioed wedi meddwl fel hyn o'r blaen. Dion Taylor, a gymrodd ran yn Y Ffenics

Roedd prosiect y Ffenics yn agoriad llygaid ac yn un o brofiadau gorau fy mywyd. Mae wedi newid fy mywyd yn llwyr. Roeddwn yn arfer bod yn swil ac yn ddihyder. Bellach, mae gen i ddigon o hyder ac mae hyn wedi bod o fantais i mi ers cwblhau'r cwrs.

Mae'r cwrs wedi fy helpu gyda phethau fel disgyblaeth, parch, hunan hydera gwaith tîm ac mae gennyf griw o ffrindiau newydd. Mae'r hyfforddwyr sydd wedi gweithio gyda mi wedi bod yn wych, bob amser yn barod i roi help llaw i mi pan oedd angen ac mor ofalgar. Mae hi wedi bod yn braf iawn cael gweithio gyda hwy.

Os caiff unrhyw un y cyfle i fynychu'r cwrs hwn, byddwn yn argymell eu bod yn mynychu gan y byddant yn siŵr o fwyhau a dysgu llawer - Loren Woolley, a gymrodd ran yn Y Ffenics

"Mae cwrs y Ffenics wedi bod yn help mawr i mi ac wedi rhoi hyder a hunan barch i mi a fy ngalluogi i ddangos parch at eraill. Rydw i'n meddwl fod hwn yn brosiect gwych ac y dylai pawb gael cyfle i fod yn rhan ohono. Roeddwn yn arfer bod mewn trwbl gyda'r Heddlu fyth a hefyd ac yn agos iawn at gael fy anfon i garchar. Rydw i mor ffodus fy mod wedi cael cyfle arall, a hoffwn ddiolch i brosiect y Ffenics am fy helpu i ddechrau bywyd newydd.” - Louise Clifford a gymrodd ran yn Y Ffenics

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen