Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhew a phibellau wedi byrstio

Rhew a phibellau wedi byrstio

Delio gyda phibellau sydd wedi byrstio

Cynghorir trigolion sydd gan bibellau wedi byrstio neu broblemau trydanol oherwydd y tywydd oer i ynysu'r cyflenwad ddwr neu drydan os yw hynny'n bosibl a chysylltu â gweithiwr medrus i drwsio'r bibell - nid y gwasanaeth tân ac achub.

Os digwydd i bibellau fyrstio:

  • Diffoddwch y prif gyflenwad ddwr a gwagiwch y system drwy adael y tapiau dwr oer i redeg.
  • Diffoddwch y system gwresogi dwr a gwagiwch y system drwy adael y tapiau dwr poeth i redeg.
  • Diffoddwch y trydan.
  • Galwch weithiwr proffesiynol i drwsio'r difrod.

 

I atal pibellau rhag achosi difrod yn eich cartref y gaeaf hwn:

  • Insiwleiddiwch eich atig a'ch tanciau dwr.
  • Insiwleiddiwch yr holl bibellau.
  • Agorwch drapddor yr atig i adael gwres i mewn ar ddiwrnodau oer.
  • Os byddwch yn mynd i ffwrdd am gyfnod, gofynnwch i ffrind neu berthynas gadw llygaid ar eich cartref a gwneud yn siwr nad ydy'r pibellau wedi byrstio neu rewi.
  • Rhowch wasieri newydd ar dapiau sy'n gollwn rhag ofn iddynt rewi a blocio'r bibell.
  • Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod lle mae'r stop tap ac edrychwch yn rheolaidd i weld os oes modd i chi ei gau mewn argyfwng.
  • Pan fydd hi'n oer iawn, cadwch y gwres ymlaen yn isel iawn drwy gydol y dydd, neu gofalwch ei fod yn dod ymlaen ambell waith y dydd, yn enwedig os ydych yn mynd i ffwrdd.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen