Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cadwch yn ddiogel – peidiwch â mentro ar ddŵr sydd wedi rhewi

Mae cerdded ar lynnoedd neu ddyfrffyrdd sydd wedi rhewi yn beryglus iawn - cymrwch bwyll arbennig a pheidiwch â mynd yn agos at ddŵr sydd wedi rhewi.

Er bod llynnoedd a chronfeydd dŵr yn edrych fel mannau delfrydol i sglefrio arnynt pan fyddant wedi rhewi, maent yn beryglus iawn.

Dylai perchnogion cŵn fod yn ofalus ger dŵr sydd wedi rhewi a pheidio â thaflu ffyn neu beli ar y rhew. Pe byddai ci yn mynd i drafferthion ar y rhew peidiwch â cheisio’i achub.

Mae gan y rhan fwyaf o gronfeydd dŵr lethrau ysgafellog cyn cyrraedd y dŵr dwfn ac mae’n hynod bwysig nad ydi pobl yn mentro ar rew heb wybod pa mor ddwfn ydi’r dŵr oddi tanynt ac yn benodol pa mor dew, neu, yn y rhan fwyaf o achosion, pa mor denau ydi’r rhew y maent yn sefyll arno. 

Cyngor diogelwch – beth i’w wneud os gwelwch rywun yn syrthio drwy rew

Peidiwch byth â mentro ar byllau neu lynnoedd wedi rhewi, waeth pa mor ddiogel y maent yn edrych.

Os gwelwch rywun yn syrthio drwy’r rhew:

  • Gwaeddwch am help a galwch y gwasanaethau brys – ffoniwch 999 neu 112 – mae’n rhad ac am ddim o unrhyw ffôn 
  • Cadwch oddi ar y rhew
  • Gwaeddwch ar y claf a dweud wrtho aros yn llonydd 
  • Ceisiwch gyrraedd y claf o’r lan gyda rhaff, bolyn, cangen coeden, dillad wedi eu clymu gyda'i gilydd neu unrhyw beth arall sydd wrth law
  • Wrth geisio cyrraedd y claf o’r lan, gorweddwch i lawr rhag ofn i chi cael eich tynnu ar y rhew
  • Os na allwch gyrraedd y claf o’r lan, llithrwch rywbeth sydd yn gallu arnofio ato  megis  bwi achub i helpu i’w gadw uwch ben y dŵr 
  • Os nad oes modd cyrraedd y claf o gwbl, arhoswch am y gwasanaethau brys a cheisiwch dawelu meddwl a chysuro’r claf

Ar ôl achub y claf o’r dŵr:

  • Gwnewch yn siŵr bod ambiwlans ar y ffordd
  • Gorweddwch y claf yn fflat ac edrych i weld a ydi o’n anadlu a chwilio am bwls. Dechreuwch adfywio’r claf os oes angen
  • Ceisiwch atal y claf rhag mynd yn oerach drwy ei roi mewn sach gysgu neu ei orchuddio,  gyda blancedi neu ddillad sbâr, gan gynnwys y pen.
  • Ewch â’r claf i fan cysgodol allan o’r oerfel
  • Peidiwch â thynnu dillad y claf tan y byddwch mewn man cynnes
  • Peidiwch â rhwbio’r croen, rhoi dŵr poeth ar y corff na rhoi diod alcoholig i’r claf
  • Cadwch y claf wedi ei lapio er mwyn iddo gynhesu’n raddol

    Os gwnewch chi syrthio drwy rew:
  • Peidiwch â chynhyrfu a galwch am help
  • Os nad oes help ar gael lledaenwch ei breichiau ar hyd arwynebedd y rhew
  • Os ydi’r rhew yn ddigon cryf ciciwch eich coesau a llithrwch ar y rhew
  • Gorweddwch yn fflat a thynnu’ch hun i’r lan
  • Os ydi’r rhew yn denau iawn, torrwch ef o’ch blaen a mynd at y lan
  • Os na allwch ddringo allan, arhoswch am help a chadwch mor llonydd â phosibl 
  • Rhowch eich breichiau wrth eich ochr a chadwch eich coesau gyda’ch gilydd
  • Unwaith yr ydych yn ddiogel, ewch i’r ysbyty ar unwaith am archwiliad
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen