Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Un o Ddisgyblion Pen Barras Yn Llewyrchu Yng Nghystadleuaeth Lliwio’r Gwasanaeth Tân

Postiwyd

Yn ddiweddar fe aeth Swyddogion Tân o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i Ysgol Pen Barras, Rhuthun i gyflwyno gwobr i ddisgybl a ddaeth yn gydradd drydydd yn y gystadleuaeth i liwio poster tân gwyllt.

Sali Rees Hughes ddaeth yn gydradd drydydd wedi i'w phoster gael ei ddewis o dros 300  bosteri a oedd wedi eu hanfon i'r gystadleuaeth o bob cwr o'r Gogledd. Roedd gofyn i'r plant liwio poster tân gwyllt, a gynhyrchiwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a oedd yn cynnwys y neges 'Peidiwch byth â chwarae â thân'.

Cyflwynwyd talebau Argos i Sali a chafwyd sgwrs am ddiogelwch tân yn ystod gwasanaeth yr ysgol.

Tom Pye o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a gyflwynodd y talebau,ac meddai: "Rydym yn falch bod Ysgol Pen Barras, yn ogystal  ag ysgolion eraill ar draws y rhanbarth, wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.  Pwrpas y gystadleuaeth yw addysgu plant am ddiogelwch tân mewn ffordd hwyliog  - rydym yn mawr obeithio y bydd y plant yn cofio'r neges ddiogelwch yn y dyfodol."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen