Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Disgybl Ym Mangor Yn Llewyrchu Yng Nghystadleuaeth Lliwio’r Gwasanaeth Tân

Postiwyd

Yn ddiweddar fe aeth Swyddog Tân o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i Ysgol Hirael, Bangor i gyflwyno gwobr i ddisgybl  a ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth i liwio poster tân gwyllt.

Enillodd Jake Jennion y drydedd wobr ac fe'i cyflwynwyd â thalebau Argos a chopi o'i boster buddugol.

Roedd dros 300 o blant o bob cwr o'r Gogledd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Roedd gofyn i'r plant liwio poster tân gwyllt, a gynhyrchiwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a oedd yn cynnwys y neges 'Peidiwch byth â chwarae â thân'.

Celfyn Evans o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a gyflwynodd y talebau, ac meddai: "Rydym yn falch bod Ysgol Hirael yn ogystal  ag ysgolion eraill ar draws y rhanbarth wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.  Pwrpas y gystadleuaeth yw addysgu plant am ddiogelwch tân mewn ffordd hwyliog  - rydym yn mawr obeithio y bydd y plant yn cofio'r neges ddiogelwch yn y dyfodol."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen