Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn byngalo ger Caernarfon

Postiwyd

Cafodd criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i dân mewn tŷ ym Mhontrug ger Caernarfon y prynhawn yma, Dydd Gwener  25ain Mai.  

Cafodd pum peiriant - dau o Gaernarfon, un o Fangor, un o Lanberis ac un o Borthaethwy - eu hanfon i'r digwyddiad am 12.27 o'r gloch.

Pan gyrhaeddodd y diffoddwyr tân roedd y tân yn y llawr gwaelod a'r gwagle rhwng y nenfwd a'r to yn llosgi'n ffyrnig yn y tŷ sengl.

Nid oedd neb yn yr eiddo ar y pryd.  

Oherwydd bod pedwar silindr LPG yn agos at yr eiddo, bu'n rhaid i bobl yn y tri tŷ cyfagos adael eu cartrefi rhag ofn.  

Defnyddiodd y criwiau bedwar set o offer anadlu, un pibell ddŵr a phedair prif bibell i ddiffodd y tân.

Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen