Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Swyddog tân Jane yn barod i amddiffyn yn y Gemau Olympaidd

Postiwyd

Bydd Jane Honey, sy'n swyddog gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn cychwyn am Lundain yr wythnos nesaf i helpu i amddiffyn athletwyr a gwylwyr fel ymatebwr cymorth cyntaf.

 

Mae Jane, o Borthaethwy, yn chwarae rôl allweddol yn y Gwasanaeth, fel Rheolwr Ymateb sy'n trefnu adnoddau bryd a diffoddwyr tân ar Ynys Môn.

 

Ond, bydd Jane yn cymryd seibiant o'i gwaith bob dydd ac yn mynd i'r Stadiwm Olympaidd er mwyn cynnig gwasanaeth meddygol yn y stadiwm pêl fasged.

 

Mae Jane wedi gwneud gwaith tebyg mewn digwyddiadau a gwyliau megis Glastonbury yn y blynyddoedd diwethaf - ac roedd yn awyddus i wirfoddoli ei gwasanaeth ar gyfer y gemau Olympaidd.

 

Meddai: "Mae'r Gemau Olympaidd yn ddigwyddiad mor fawr ac roeddwn i'n awyddus i gymryd rhan a gwirfoddoli fy ngwasanaethau.

 

"Yn fy amser rhydd, rwy'n gwirfoddoli gydag elusen o'r enw Gwasanaethau Meddygol mewn Gwyliau sy'n cynnig gwasanaeth meddygol mewn amrywiol ddigwyddiadau fel Glastonbury a Gŵyl Reading, gan godi arian at brosiectau yn y Gambia ac India.  Defnyddir yr arian i dalu cyflog meddyg, darparu ambiwlans, hyfforddiant meddygol ac offer achub bywyd.

 

"Rwy'n teimlo fy mod i'n lwcus fod gen i wybodaeth a phrofiad cymorth cyntaf drwy fy hyfforddiant fel diffoddwr tân a gwirfoddoli gyda Gwasanaethau Meddygol mewn Gwyliau, felly rwy'n falch o allu rhoi rhywbeth yn ôl a helpu mewn digwyddiadau fel Llundain 2012.

 

Ychwanegodd: "Rwy'n edrych ymlaen at gael cyfarfod y cystadleuwyr a bod yn rhan o fwrlwm y gemau - rwy'n wynebu her newydd yn fy ngwaith bob dydd felly rwy'n gobeithio y byddaf yn barod i wynebu unrhyw beth!"

 

Dywedodd Paul Claydon, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae hwn yn gyfle cyffrous sy'n dod unwaith mewn oes, ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn falch o allu cefnogi un o aelodau ei staff sy'n rhan o'r agwedd holl bwysig hon ar y gemau.

 

"Mae rôl Jane yn y Gwasanaeth yn helpu i amddiffyn ein cymunedau bob dydd a bydd ei rôl yn y Gemau Olympaidd yn golygu ei bod yn helpu i amddiffyn iechyd a diogelwch cystadleuwyr a gwylwyr.

 

"Mae Jane yn edrych ymlaen at ddefnyddio ei gwybodaeth a'i sgiliau ar ôl y Gemau i gefnogi strategaeth diogelwch iechyd a lles Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen