Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Achub mam a merch o dân yn Llandudno

Postiwyd

Mae mam a merch yn ddiogel y bore yma (Dydd Gwener 27ain Gorffennaf) gyda diolch i'w larymau mwg gweithredol a chyngor achub bywyd gan staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Mae swyddogion tân yn annog trigolion i osod synwyryddion mwg wedi i'r ddwy gael eu deffro gan eu larwm mwg a'u hachub o'r eiddo gan ddiffoddwyr tân yn ystod oriau mân y bore .

Fe dderbyniodd trinwyr galwadau yn ystafell reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yr alwad 999 gan y ferch 25 mlwydd oed am 04.21 o'r gloch ac fe arhosodd ar y ffôn i dderbyn cyngor hanfodol.

Yn y cyfamser, fe anfonwyd dau beiriant o Landudno ac un o Gonwy i'r eiddo ar  Bridge Road, Llandudno.

Meddai Darren Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: " Roeddem wedi bod yn yr eiddo yn darparu archwiliad diogelwch tân yn y cartref ac wedi gosod y larwm mwg a rybuddiodd y merched.  Heb y larwm mwg a'r ffaith bod y merched wedi gwrando ar ein cyngor, gallem fod wedi bod yn delio gyda digwyddiad llawer mwy difrifol.

"Rhannodd y trinwyr galwadau gyngor dros y ffôn ac fe roddodd hyn gyfle i'r diffoddwyr tân gyrraedd yr eiddo, diffodd y tân ac achub y merched.

"Roedd y merched wedi dod wyneb yn wyneb â thân ger y drws ffrynt a oedd yn eu hatal rhag gadael yr eiddo.  Fe arhosodd y ddwy i fyny'r grisiau ac fe'u cynghorwyd i fynd i un o'r llofftydd yng nghefn yr adeilad, cau'r drws a rhoi blanced ar hyd gwaelod y drws i atal y mwg rhag dod i mewn i'r ystafell.

Fe gyrhaeddodd y criw a mynd i mewn i'r eiddo drwy'r ffenest yn yr ystafell lle'r oedd y merched i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel  a rhoi cyfle iddynt anadlu ychydig awyr iach, tra'r oedd diffoddwyr tân yn mynd ati i ddiffodd y tân gan ddefnyddio offer diffodd tân carbon monocsid ac offer anadlu, cyn achub y merched drwy ddrws y ffrynt."

Derbyniodd y ddwy driniaeth ragofalol gan barafeddygon  yn y fan a'r lle.

Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill ond gredir ei fod wedi ei achosi gan nam trydanol.

Ni achosodd y tân lawer o ddifrod ond cafwyd difrod mwg drwy'r tŷ.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn darpar archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim lle bydd aelod o'r gwasanaeth yn dod i'ch cartref, yn rhannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd os oes angen - a'r cyfan am ddim.  I gofrestru galwch 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk. Cewch gofrestru drwy ddefnyddio eich ffôn clyfar drwy fynd i www.larwmmwgamddim.co.uk  

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen