Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Larymau mwg yn rhybuddio preswylydd yn y Rhyl

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn amlygu peryglon peidio â chael gwared ar ddefnyddiau ysmygu yn gyfrifol wedi tân mewn eiddo yn y Rhyl y bore yma.

Galwyd criwiau i'r eiddo ar Kearsley Drive, y Rhyl am 00:59 o'r gloch y bore yma (Dydd Iau 4ydd Mawrth) wedi i'r preswylydd gael ei rybuddio gan larwm mwg. Defnyddiodd y criwiau bibell ddŵr i ddiffodd y tân a achosodd ddifrod mwg yn yr ystafell fyw.

MeddaiGary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Mae'r digwyddiad yn dwyn i'r amlwg pa mor beryglus yw defnyddiau ysmygu yn ogystal â manteision larymau mwg.

 

"Roedd y larymau mwg a rybuddiodd y preswylydd wedi eu gosod gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ystod archwiliad diogelwch tân yn y cartref.  Mae hyn yn profi ei bod yn hanfodol i bawb osod larymau mwg yn eu cartrefi er mwyn cael rhybudd cynnar os bydd tân yn cynnau.  Mae'n rhaid eu cynnal a'u cadw'n rheolaidd drwy brofi'r batri unwaith yr wythnos a'i newid yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.  Mae'n ddigon posibl bod y larwm mwg yma wedi achub bywyd y preswylydd heddiw.

"Mae'n bwysig eich bod yn cael gwared â defnyddiau ysmygu yn ddiogel, yn enwedig cyn i chi fynd i'r gwely.  Y ffordd orau i leihau'r risg yw peidio ag ysmygu yn y tŷ.  Mae nifer o danau sydd yn gysylltiedig ag ysmygu yn digwydd gyda'r nos pan fo pobl yn syrthio i  gysgu neu'n ysmygu yn y gwely ac yna'n rhoi'r dodrefn neu'r ffabrig ar dân.

"Os oes gennych chi ffrindiau neu berthnasau oedrannus sydd yn ysmygu, gwnewch yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r peryglon - drwy ddilyn y canllawiau isod gallant leihau'r perygl o ddioddef tân yn y cartref:


-Cymrwch ofal os ydych wedi blino, yn cymryd meddyginiaeth neu wedi bod yn yfed alcohol.  Mae'n hawdd iawn syrthio i gysgu gyda sigarét yn llosgi yn eich llaw

- Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely - os oes rhaid i chi orffwys, peidiwch â thanio.  Gallwch syrthio i gysgu a rhoi'ch gwely ar dân

- Peidiwch byth â gadael sigarét, sigâr neu getyn yn llosgi heb neb i gadw llygaid arnynt - gallant syrthio i'r llawr wrth iddynt losgi.

- Prynwch danwyr a matsis na all plant ei defnyddio - pob blwyddyn mae plant yn marw oherwydd eu bod wedi cynnau tân gyda thanwyr neu fatsis.  Cadwch hwy ymhell o gyrraedd plant.

- defnyddiwch flwch llwch pwrpasol a thrwm nad oes peryg iddo gael ei daro drosodd yn hawdd iawn.  Gwnewch yn siŵr ei fod wedi ei wneud o ddefnydd anhylosg  a'ch bod wedi diffodd eich sigarét yn llwyr ar ôl i chi orffen  - diffoddwch hi, yn llwyr.

- Rhowch eich lludw yn y blwch llwch ac nid mewn  bin sbwriel - gwagiwch y blwch llwch yn rheolaidd fel nad oes gormod o ludw a bonion sigaréts yn y blwch llwch

- Gosodwch larwm mwg a'i chynnal a'i chadw - os bydd tân yn cynnau, dim ond ychydig funudau fydd gennych chi i ddianc.  Gall larwm mwg gweithredol roi cyfle i chi fynd allan a galw 999.  Galwch brynu larwm mwg am bris paced o sigaréts.  Mae larymau mwg sydd gan oes deg mlynedd neu rhai sydd wedi eu cysylltu i'r prif gyflenwad trydan yn well fyth.

"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliad diogelwch tân yn y cartref i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. Yn ystod yr archwiliad bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref i'ch helpu i lunio cynllun dianc, rhannu cynghorion diogelwch a gosod larymau mwg newydd yn rhad ac am ddim.  Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref galwch ein llinell gymorth 24 awr ar 0800 169 1234, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen