Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y diweddaraf am y tân ysgubor yn yr Hob

Postiwyd

Credir bod y tân ysgubor a ddigwyddodd yn yr Hob, lle bu diffoddwyr tân wrthi am oriau yn ceisio ei ddiffodd, wedi cynnau o ganlyniad i nam trydanol ar dractor neu oherwydd bod gwair a oedd yn cael ei gadw yn yr ysgubor wedi mynd ar dân yn ddigymell.

 

Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i'r digwyddiad ar fferm yn yr Hob am 23.22o'r gloch Ddydd Llun, 5ed Awst.  Bu criwiau o Wrecsam ac o Fwcle'n ceisio diffodd tân a oedd yn cynnwys 500 tunnell o wair, tractor ac offer fferm a oedd yn cael eu cadw yn yr ysgubor.

 

Fe anfonwyd yr Uned Cefnogi Digwyddiadau o'r Wyddgrug a chriwiau llanw o Ruthun a Glannau Dyfrdwy i'r digwyddiad, ac fe ddefnyddiwyd pedair prif bibell a dwy bibell ddŵr i ddiffodd y tân.  Roedd y tân dan reolaeth erbyn 15.18 o'r gloch ar y 6ed o Awst.

 

Y mae Chris Nott o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn egluro: " Fe adawn y gwellt i fudlosgi ar y caeau a chadw llygaid ar y sefyllfa.

 

"Fe weithiodd y criwiau yn dda dan amgylchiadau anodd er mwyn dod â'r tân dan reolaeth.  Rydym yn cydweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a'r tirfeddiannwr i leihau'r effaith ar yr amgylchedd a rheoli'r tân."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen