Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dathlu gorsaf ambiwlans a thân newydd Wrecsam yn ystod diwrnod agored i’r gymuned

Postiwyd

Dathlu gorsaf ambiwlans a thân newydd Wrecsam yn ystod diwrnod agored i’r gymuned

 

Mae gwasanaethau brys yn Wrecsam yn gwahodd y cyhoedd i’w helpu i ddathlu Canolfan Adnoddau Ambiwlans a Thân (AFSRC) newydd y dref.


Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal diwrnod agored ddydd Sadwrn 1 Hydref rhwng 11am a 3pm yn yr AFSRC ar Ffordd Croesnewydd.

 

Bydd modd i ymwelwyr gael mynd i mewn i ambiwlans ac injan dân a gweld sut mae’r criwiau’n cydweithio i achub anafusion yn ystod damwain traffig ffug.

 

Bydd hefyd arddangosfeydd cymorth cyntaf, gweithgareddau a gemau ar gael yn ogystal â chyfle i gefnogi Ymatebwyr Cyntaf Wrecsam, Cadetiaid Tân ac Ambiwlans Awyr Cymru.

 

Bydd cydweithwyr o Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn dangos sut y maent yn mynd ati i gadw’r gymdogaeth yn ddiogel.

 

Bydd modd i ymwelwyr barcio y tu ôl i Ysbyty Maelor, Wrecsam yn y maes parcio ar yr hen reilffordd.

 

I gyrraedd y maes parcio ewch trwy dir yr ysbyty drwy Giât 1 (wrth brif fynedfa’r ysbyty) a gyrrwch yn syth ymlaen hyd nes i ’r dramwyfa eich harwain i’r chwith i fynd y tu ôl i’r ysbyty.  

 

Dylai gyrwyr droi i’r dde yma tuag at fynedfa’r maes parcio, sydd yn agos at safle’r AFSRC. Mae llwybr yn arwain o’r maes parcio at yr AFSRC. 

 

Bydd arwyddion a threfnwyr wrth law i helpu gyrwyr barcio yn y maes parcio cywir.

 

Mae dros £15 miliwn wedi cael ei fuddsoddi yn y cyfleuster newydd hwn a gafodd ei agor yn swyddogol ddoe (Dydd Iau 22 Medi 2016) gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon, Vaughan Gething AC, a’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant,  Carl Sargeant AC.

 

Mae’r ganolfan bwrpasol hon, y cyntaf o’i bath yng Nghymru, yn cynnwys gorsaf dân wyth bae, gorsaf ambiwlans chwe bae, ystafell ymbaratoi a gweithdy ar gyfer y fflyd yn ogystal â chyfleusterau hyfforddi.

Mae’r AFSRC yn cymryd lle’r hen orsaf dân ar Ffordd Bradley yn Wrecsam a’r hen orsafoedd ambiwlans yn y Waun a Wrecsam.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen