Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dynes mewn cyflwr difrifol yn dilyn tân mewn tŷ yn Wrecsam

Postiwyd

 

Mae uwch swyddog tân yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg ac annog trigolion i gadw llygaid ar gymdogion wedi i ddynes gael ei hachub yn dilyn tân yn ei chartref yn Wrecsam neithiwr.

Cafodd dau griw o Wrecsam eu galw i’r eiddo ar Moorland Avenue, Wrecsam am 22.28 o’r gloch neithiwr (Dydd Gwener Medi 23).

Cafodd cymdogion eu rhybuddio gan sŵn larwm mwg yn seinio a galwasant 999 ar ôl edrych i weld beth oedd yn mynd ymlaen a gweld bod y ffenestri’n ddu.

Bu i’r criwiau achub dynes yn ei hugeiniau o’r ystafell fyw. Cafodd ei chludo i’r ysbyty gan barafeddygon ac mae mewn cyflwr difrifol.

Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu, dwy bibell dro a chamera delweddu thermol i daclo’r tân yn y gegin.

Credir bod y tân wedi ei achosi gan fwyd a oedd wedi cael ei adael yn coginio heb neb i gadw llygaid arno.

Meddai Paul Scott, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Wrecsam a Sir y Fflint:  “Mae’r digwyddiad hwn unwaith eto’n amlygu pwysigrwydd larymau mwg a phwysigrwydd gofalu am ein cymdogion.  Cafodd cymydog ei rybuddio ac o’r herwydd llwyddom i fynd at yr eiddo ac achub y ddynes ifanc cyn i’r tân ledaenu drwy’r adeilad cyfan.

“Hoffwn  ganmol y cymydog ar gysylltu â’r gwasanaeth tân ac achub ar unwaith ac am amddiffyn y cymydog yn y modd hwn.

"Rydym yn annog pobl i beidio â gadael bwyd heb neb i gadw llygaid arno, hyd yn oed am eiliad – fe all tân mawr ddatblygu’n dân mawr mewn eiliadau. Os ydych yn gadael y gegin, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres.

“Mae larymau mwg yn arbed bywydau - gwnewch yn siŵr eich bod yn profi’ch larwm chi’n rheolaidd. Fe all  rhybudd cynnar gan eich larwm mwg roi cyfle i chi ddianc yn ddianaf.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen