Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ysgol leol yw’r gyntaf yng Ngogledd Cymru i gael gosod systemau chwistrellu drwyddi draw

Postiwyd

 

Mae Ysgol Rhuthun, Sir Ddinbych yn arwain y ffordd ar ôl adeiladu’r cyfleuster preswyl cyntaf yng Ngogledd Cymru sydd gan systemau chwistrellu ar gyfer yr adeilad cyfan.

 

Mae’r adeilad newydd, sydd gan 40 ystafell wely en-suite i ddisgyblion preswyl, yn enghraifft o’r modd y gellir gosod systemau chwistrellu yn dilyn y mesur newydd sydd yn ei gwneud hi’n orfodol gosod systemau llethu tân awtomatig mewn safleoedd preswyl sy’n cael eu codi o’r newydd neu eu trosi.

 

Ar y 1af o Ionawr 2016 Cymru oedd yr unig wlad yn y byd a oedd yn ei gwneud hi’n orfodol gosod systemau chwistrellu mewn eiddo domestig newydd, sy’n golygu bod yn rhaid gosod systemau chwistrellu wrth godi eiddo o’r newydd neu drosi adeiladau. Mae hyn yn cynnwys tai, fflatiau, cartrefi preswyl, neuaddau preswyl a lletyai preswyl eraill sy’n brif gartref i unigolion.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’n braf gweld bod Ysgol Rhuthun yn arwain y ffordd er mwyn helpu i amddiffyn ei disgyblion drwy osod systemau chwistrellu yn yr adeilad cyfan. Hi yw’r ysgol gyntaf i wneud hyn yng Ngogledd Cymru.

 

“Yn dilyn cyflwyno’r ddeddf newydd hon, bydd gan adeiladau newydd o’r math hwn systemau llethu tân awtomatig.

 

“Nod y ddeddfwriaeth yw gostwng nifer y marwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i dân, diogelu diffoddwyr tân yn well a chyfrannu tuag at gynaladwyedd datblygiadau newydd.

 

"Rydym ni fel Gwasanaeth yn croesawu’r ddeddfwriaeth gan ei fod yn gam pwysig ymlaen tuag at ddarparu amgylchedd mwy diogel mewn lletyai preswyl newydd yng Nghymru.

 

“Os ydych chi’n byw mewn eiddo sydd gan system chwistrellu ddomestig rydych wedi eich amddiffyn yn well rhag tân oherwydd bod unrhyw danau damweiniol yn fwy tebygol o gael eu rheoli neu eu diffodd yn gyflym."

 

Meddai Ian Welsby, Dirprwy Bennaeth Ysgol Rhuthun: “Diogelwch a lles ein disgyblion yw’n blaenoriaeth ni - mae ein disgyblion yn dod gyntaf ac felly rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w hamddiffyn.

 

“Rydym yn falch o gael gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a symud ymlaen i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd.”

 

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â systemau chwistrellu a sut i wneud yn siŵr eu bod yn effeithiol darllenwch y cyfarwyddyd sydd wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.  Mae ar gael yma /keeping-you-safe/at-home/sprinklers-(1)?lang=en

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen