Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Hybu diogelwch tân ar Ddiwrnod Pobl Hŷn

Postiwyd

 

 

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i bobl gadw llygaid ar berthnasau a chymdogion hŷn ar Ddiwrnod Pobl Hŷn 2016 sydd yn digwydd fory (Dydd Sadwrn1af Hydref).

 

Mae Diwrnod Pobl Hŷn yn ddiwrnod rhyngwladol sydd yn cydnabod a  dathlu llwyddiant a chyfraniad pobl hŷn yn ein cymdeithas.

 

Dengys ystadegau bod pobl dros 65 mlwydd oed ddwywaith yn fwy tebygol o farw mewn tân yn y cartref. A chyda poblogaeth sydd yn mynd yn hŷn – mae’n debygol y bydd 23% o boblogaeth y DU dros 65 mlwydd oed erbyn 2035.   

 

Er mai pobl hŷn sydd fwyaf mewn perygl o dân y mae rhai rhagofalon syml y gallant eu dilyn er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cadw mor ddiogel â phosibl. 

 

Meddai Stuart Millington Uwch reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. "Mae larymau mwg yn arbed bywydau, felly gwnewch yn siŵr bod gan ffrindiau a chymdogion hŷn larymau mwg, a cofiwch eu cynnal a’u cadw a’u profi’n rheolaidd.

“Os ydych yn ymweld â pherthnasau neu ffrindiau hŷn neu os oes gennych chi funud i alw i weld eich cymdogion profwch eu larymau mwg tra’r ydych chi yno.  Mae larymau mwg gweithredol yn rhoi cyfle i bobl ddianc o’r cartref os bydd tân.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen