Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad ar y tân ym Mae Cinmel

Postiwyd

 

 

 

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw at dân yn Rhodfa Llanelwy ym Mae Cinmel yn gynharach heno am 17.44 o’r gloch.

 

Erbyn hyn mae diffoddwyr tân wedi llwyddo i ddod â’r tân dan reolaeth ond byddant yn aros ar y safle am beth amser heno i ddelio gyda mannau poeth a thampio’r safle.

 

Mae chwe injan tân o’r Rhyl, Prestatyn, Abergele a Bae Colwyn yn dal i ddelio gyda’r digwyddiad.

 

Mae’r ffordd yn dal i fod ar gau rhwng Cylch Dinbych, Parc Clwyd a Rhodfa Llanelwy.

 

Nid yw’r cyngor i wagio adeiladau bellach mewn grym ac y mae pobl yn cael dychwelyd i’w cartrefi erbyn hyn.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen