Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd yn dilyn tân mewn cegin yn y Rhyl

Postiwyd

Roedd yn rhaid i deulu o bump ddianc o dŷ yn Ffordd Ffynnongroyw yn y Rhyl am 9.16am heddiw, Dydd Sadwrn 1af Ebrill, wedi i blentyn droi nobiau popty ymlaen a oedd gan eitemau ar yr hob.   

Meddai’r Dirprwy Bennaeth Diogelwch Cymunedol Jane Honey: “Cafodd y teulu eu rhybuddio am y tân gyda diolch i’w larwm mwg, a llwyddodd pawb i fynd allan ar unwaith.”

Meddai: “Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg a pheidio â gadael eitemau hylosg ar y hob.”

Roedd y tân wedi mynd allan erbyn i’r criwiau tân gyrraedd, ond fe achosodd y  mwg ddifrod sylweddol i’r gegin.

Cafodd y teulu eu cludo i Ysbyty Glan Clwyd rhag ofn, oherwydd eu bod wedi anadlu mwg. 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn argymell eich bod yn profi’ch larwm mwg yn rheolaidd. 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen