Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Deunydd ysmygu yn ysgogi rhybudd diogelwch  

Postiwyd

 

 

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn pwysleisio peryglon taflu deunydd ysmygu yn ddi-feddwl ar ôl tân ym Mwcle neithiwr.

Galwyd criwiau i dân yn Nant View Court, Bwcle am 9.32pm, nos Lun 14eg Awst.

Credir mai achos y tân oedd deunydd ysmygu a oedd wedi ei daflu, ac a ledaenodd wedyn i’r eiddo.

Meddai Jâmi Jennings, Rheolwr Diogelwch Cymunedol ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam: "Mae’r digwyddiad hwn yn amlygu peryglon peidio â diffodd sigaréts yn iawn mewn cynhwysydd priodol.

"Mae’n hanfodol gwneud yn siŵr bod holl ddeunydd ysmygu wedi eu diffodd yn ddiogel, yn enwedig cyn mynd i’r gwely.

"Os oes gennych berthnasau oedrannus neu ffrindiau sy’n smygu, gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod am y peryglon posibl – trwy ddilyn y camau isod medrent leihau’r risg o achosi tân cysylltiedig ag ysmygu yn y cartref:

- Cymerwch ofal arbennig pa fyddwch wedi blino, yn cymryd unrhyw fath o gyffuriau neu wedi bod yn yfed alcohol. Mae’n hawdd iawn syrthio i gysgu heb sylweddoli tra bo’r sigarét yn dal i losgi

- Peidiwch byth â smygu yn y gwely – os oes angen i chi orwedd i lawr, peidiwch â thanio sigarét. Medrech bendwmpian a rhoi’r gwely ar dân

- Peidiwch â gadael sigarét, sigar neu bibell wedi eu tanio – medrent syrthio drosodd wrth losgi i lawr

- Prynwch daniwr a blychau matsys sy’n anodd i blant eu defnyddio – bob blwyddyn mae plant yn marw ar ôl cychwyn tân gyda matsys a thanwyr. Cadwch nhw lle na fedr plant eu cyrraedd

- Defnyddiwch flwch llwch cadarn, trwm na fedr droi drosodd yn hawdd, ac o ddeunydd na fydd yn llosgi. Gwnewch yn siŵr nad yw eich sigarét yn dal i losgi pan fyddwch wedi gorffen – rhowch hi allan, yn iawn

- Rhowch y llwch yn y blwch llwch, byth mewn bin gwastraff gyda sbwriel arall ynddo – a pheidiwch â gadael i lwch neu stympiau sigarét hel yn y blwch llwch

- Gosodwch larwm mwg a gwnewch yn siŵr ei fod yn gweithio – pan fydd tân yn cychwyn, dim ond ychydig funudau sydd gennych i ddianc. Bydd larwm mwg sy’n gweithio yn rhoi amser gwerthfawr i chi i adael y tŷ, aros allan a ffonio 999. Mae larwm mwg sylfaen ar gael am bris paced o sigaréts. Yn well fyth yw larymau mwg gyda batris oes hir neu sy’n gweithio ar y prif gyflenwd trydan.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen