Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Pwy Fyddech Chi’n ei Alw?

Postiwyd

Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru wedi lansio menter newydd diogelwch dŵr, gan fod ffigurau’n dangos bod 400 o bobl yn boddi’n ddamweiniol bob blwyddyn yn y DU.

Yn 2016 roedd 24 o farwolaethau damweiniol cysylltiedig â dŵr yng Nghymru – ond a fuasech chi’n gwybod pwy i’w alw pe byddech yn mynd i drafferthion?

Mae ymgyrch “Pwy Fyddech Chi’n ei Alw?” (WWYC) yn cynyddu ymwybyddiaeth o ba wasanaeth argyfwng i’w alw os byddwch angen help yn y môr, ar yr arfordir neu ar y tir.

Meddai Dave Ansell, Cadeirydd Grŵp Diogelwch Dŵr Cymru Gyfan a Chomander Gorsaf gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Yn ystod misoedd yr haf, rydym yn gweld nifer o ddigwyddiadau cysylltiedig â’r dŵr wrth i’r ysgolion gau a phobl yn cymryd amser i ffwrdd i fwynhau’r tywydd cynhesach.

“Mae’n hanfodol bod y cyhoedd yn deall pwy ddylent ei alw os ydynt mewn trybini; gall gwybod hyn wneud y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.

“Mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru yno i helpu gyda dyfroedd mewndirol lle mae pobl yn colli eu bywydau bob blwyddyn. Felly, os gwelwch rywun sydd angen help mewn afon, llyn, cronfa neu chwarel, ffoniwch 999 a gofyn am y Gwasanaeth Tân.”

Anogir pobl i fwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, yn ac o gwmpas y dŵr, ond i fod yn wyliadwrus a bod yn ymwybodol o’r risgiau a’r peryglon posibl.

Beth i’w wneud os yw rhywun yn syrthio i’r dŵr:

  • Ffoniwch 999 am help – gofynnwch am Wylwyr y Glannau os ydych ar yr arfordir neu’r môr; os ydych ar y tir, gofynnwch am y Gwasanaeth Tân
  • Gwaeddwch ar y person i ymlacio ac arnofio
  • Chwiliwch am offer achub bywyd neu rywbeth a allai eu cadw uwchben yr wyneb
  • Peidiwch byth â mynd i’r dŵr eich hun
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen