Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd diogelwch canhwyllau – pedwar o drigolion yn ffodus i ddianc rhag tân ym Malpas

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân yn rhybuddio trigolion o beryglon tanau cannwyll ar ôl tân ger Malpas yn oriau mân y bore (dydd Iau 28ain Medi).

Mynychodd dau griw Gogledd Cymru o Wrecsam a Chaer y digwyddiad yn Threapwood ar ôl cael gwybod am y tân am 00.58 o’r gloch.

Roedd dyn a dynes yn eu tridegau, ynghyd â dwy ferch 8 a 4 oed, yn sownd ar y llawr cyntaf ar ôl i gannwyll roi’r llawr gwaelod ar dân ac aeth yr eiddo’n llawn mwg.

Rhoddodd gweithredwyr rheoli tân Gogledd Cymru gyngor goroesi hollbwysig dros y ffôn tra’r anfonwyd peiriannau  i’r digwyddiad. Roedd cymydog yn medru helpu’r teulu i ddianc o ffenestr llawr cyntaf gydag ysgol. Aethpwyd â’r pedwar i’r ysbyty yn dioddef o anadlu mwg.

Defnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu a dwy bibell ddŵr i ddelio â’r tân.

Meddai Tony Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Roedd y deiliaid yn hynod ffodus i ddianc o’r tân hwn, yn enwedig gan nad oedd larymau mwg yn gweithio yn y tŷ – nid oes amheuaeth bod y cyngor goroesi a roddwyd dros y ffôn wedi achub eu bywydau.

“Gall canhwyllau ddatblygu’n dân yn hawdd iawn a bob blwyddyn rydym yn gweld digwyddiadau dirifedi lle mae fflam agored yn medru gadael llanastr.

“Cyfyngwyd y tân i’r ystafell lle dechreuodd, gan achosi 20% difrod tân ac 80% difrod gwres trwm – ond roedd yr eiddo cyfan yn llawn mwg a oedd yn rhwystro’r deiliaid rhag dianc i lawr y grisiau. Heb larwm mwg gallai hyn fod wedi bod yn drasiedi, yn hawdd iawn, ond yn ffodus bu iddynt arogli’r mwg a medru dianc gyda chymorth cymdogion.”

Cynghorir pobl sy’n defnyddio canhwyllau i ddilyn y cyngor diogelwch isod:

  • Sicrhau bod canhwyllau mewn cynhwysydd priodol, ar wyneb gwastad ac i ffwrdd o bethau a allai fynd ar dân – megis llenni
  • Ni ddylid gadael plant ac anifeiliaid anwes ar eu pennau eu hunain gyda chanhwyllau wedi eu goleuo
  • Peidiwch byth â gadael cannwyll wedi ei goleuo. Diffoddwch nhw os byddwch yn gadael ystafell, a gwnewch yn siwr eu bod allan yn iawn cyn mynd i’r gwely

 

  • Cadwch y pwll gwer yn rhydd rhag darnau o wic cannwyll, matsys a phethau eraill bob amser

 

  • Llosgwch ganhwyllau mewn ystafell gydag awyriad da, ond dylid osgoi ddrafftiau neu gerrynt awyr – bydd hyn yn achosi i’r gannwyll losgi yn anwastad, achosi huddygl a diferu gormodol

 

  • Dylid torri’r wic i ¼ modfedd bob amser cyn llosgi. Gall wiciau hir losgi’n anwastad, gan ddiferu neu fflachio

 

 

  • Peidiwch â symud canhwyllau unwaith y maent wedi eu goleuo

 

  • Dilynwch argymhellion y gwneuthurwr o ran amser llosgi a defnydd priodol

 

  • Dodwch ganhwyllau gydag arogl mewn cynhwysydd sy’n dal gwres bob amser gan fod y canhwyllau hyn wedi eu dylunio i droi’r hylif wrth losgi, i wneud y mwyaf o’r arogl

 

 

  • Peidiwch â llosgi nifer o ganhwyllau yn agos at ei gilydd gan y gall achosi i’r fflam fflachio

 

  • Defnyddiwch declyn pwrpasol neu lwy i ddiffodd canhwyllau. Mae’n fwy diogel na chwythu sy’n medru achosi sbarcio.

 

Ychwanegodd Tony: “Hyd yn oed gyda’r rhagofalon hyn, mae’n hanfodol bod yn barod rhag ofn i’r gwaethaf ddigwydd. Gall larwm mwg sy’n gweithio roddi’r amser hollbwysig sydd ei angen arnoch i fynd allan, aros allan a ffonio 999. Sicrhewch eich bod chi a’ch anwyliaid yn ddiogel trwy brofi eich larwm yn rheolaidd a chynllunio ac ymarfer llwybr dianc.”

 

I gael ymweliad diogelwch â’ch cartref, ffoniwch linell 24 awr am ddim Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk .

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen