Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Digwyddiad ym Mwcle

Postiwyd

Galwyd diffoddwyr tân i ddigwyddiad mewn eiddo ar Southfields Close, Bwcle am 9.54am fore heddiw (dydd Mercher 3ydd Ionawr).

Wrth iddynt gyrraedd, rodd arogl llosgi yn y tŷ, a darganfu’r criwiau bod eitem wedi ei gadael ar y cwcer a oedd yn creu’r arogl.

Meddai Tim Owen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Dro ar ôl tro rydym yn mynd i dân mewn tŷ sydd wedi cychwyn yn y gegin – yn y digwyddiad hwn roedd y deiliad wedi gadael darn o bren ar yr hob a oedd wedi cynhesu dros gyfnod o amser a chreu arogl o losgi yn y tŷ.

"Roedd y deiliad yn lwcus ei bod wedi arogli’r llosgi a’n galw ni allan cyn i hwn ddatblygu’r dân difrifol. Ein cyngor yw peidiwch byth â gadael unrhyw beth ar neu’n agos at yr hob hyd yn oed os ydych chi wedi eu diffodd.

"Mae larymau mwg yn achub bywydau. Mae’r rhybudd cynnar a roddir gan larwm mwg yn medru rhoi munudau hanfodol i helpu pobl i ddianc yn ddi-anaf. Gwnewch yn siŵr bod gennych larymau mwg wedi eu gosod a’u cynnal trwy eu profi unwaith yr wythnos.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen