Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Erfyn ar drigolion i gymryd pwyll wedi tân trydanol ym Modelwyddan

Postiwyd

Unwaith eto mae swyddogion tân yn erfyn ar drigolion i fod yn ymwybodol o beryglon eitemau trydanol yn dilyn tân ym Modelwyddan ddoe (Dydd Mercher 21ain Tachwedd), lle bu farw dynes.

Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i adroddiad o dân mewn eiddo yn Coronation Close am 13.02 o’r gloch (Dydd Mercher 21ain Tachwedd). Daeth y diffoddwyr tân o hyd i ddynes, y credir ei bod yn ei 60au, yn yr eiddo ond yn anffodus cadarnhawyd ei bod wedi marw yn y fan a’r lle.

Daeth yr ymchwiliad ar y cyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru i’r casgliad bod y tân wedi ei achosi gan lid estyn tro yn yr ystafell wely a oedd wedi gorboethi.

Mae hyn yn dilyn tân trasig arall yn Acrefair, ger Wrecsam yn ystod oriau mân y bore ddydd Sul (18fed Tachwedd) lle bu farw dynes yn dilyn tân a achoswyd gan nam trydanol yn agos at yr oergell.

Mae’r rhybuddion a gyhoeddwyd yn dilyn y tanau yn cyd-fynd ag Wythnos Diogelwch Trydanol (19-25 Tachwedd), lle mae’r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru wedi ymuno i hybu ymgyrch sydd yn canolbwyntio ar ddiogelwch cyfarpar trydanol yn y cartref.

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Roedd yn drist iawn clywed y newyddion bod marwolaeth tân arall wedi digwydd yma yng Ngogledd Cymru mewn cyfnod byr o amser – rwyf yn cydymdeimlo’n ddwys gyda theulu a ffrindiau’r ymadawedig.  

“Credir bod y ddau dân yn danau trydanol – a bod y tân diweddaraf wedi ei achosi gan lid estyn tro a oedd wedi gorbethi.  Rwyf yn annog trigolion  i ddatod y lidiau hyn yn llawn, ac i brynu lidiau o’r maint cywir ar gyfer y defnydd y maent yn bwriadu ei wneud ohonynt.

“Ein cyngor ydi byddwch mor barod  â phosibl rhag tân, drwy sicrhau bod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a sicrhau bod gennych lwybrau dianc clir er mwyn eich galluogi chi a’ch teulu i fynd allan o’ch cartref mor gyflym â phosib.”

"Dyma gamau syml y gallwch chi eu cymryd i’ch helpu i atal tân trydanol yn eich cartref. Maent yn cynnwys:

- PEIDIO â gorlwytho socedi
- GWIRIO gwifrau yn rheolaidd rhag ofn eu bod wedi gwisgo neu dreulio

- TYNNU Plygiau cyfarpar pan nad ydych yn eu defnyddio 
- CADW Cyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da

- DATOD lidiau estyn yn llawn cyn eu defnyddio.

- DILYN cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar ddefnyddio ac edrych ar ôl eich cyfarpar.  Cofrestrwch eich cyfarpar yn www.registermyappliance.org.uk, er mwyn i wneuthurwyr allu cysylltu gyda chi os oes nam ar y cyfarpar, neu os caiff y cyfarpar ei alw’n ôl. Mae cyngor pellach gan wneuthurwyr ar ddiffygion, neu gyfarpar sydd wedi cael eu galw’n ôl, ar gael ar wefan Electrical Safety First  www.electricalsafetyfirst.org.uk

“I gael gwybod mwy am ein hymgyrch Diogelwch Nwyddau Gwyn ac i roi cynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampau’ ar ein gwefan ac ar ein tudalen Facebook – ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk am ragor o wybodaeth.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen