Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lleihau Tanau Bwriadol yn parhau'n ffocws allweddol ar gyfer Tasglu Amlasiantaeth

Postiwyd

Mae tanau bwriadol yng Nghymru yn berygl amlwg a chyfredol i'n hamgylchedd, ein heconomi a'n cymunedau. Gan adeiladu ar yr wybodaeth a'r profiad yr ydym wedi'u meithrin yn ystod y degawd diwethaf, mae'r Bwrdd Strategol ar gyfer Lleihau Tanau Bwriadol, sy'n cynnwys partneriaid o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent, Heddlu Gogledd Cymru, y Swyddfa Dywydd, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi cyhoeddi'r bedwaredd genhedlaeth ar gyfer Strategaeth Lleihau Tanau Bwriadol Cymru.

Roedd nifer y tanau glaswellt a gafodd eu cynnau yn fwriadol yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol er 2015; gyda Bwrdd Lleihau Tanau Bwriadol Cymru yn cydnabod mai dull cydweithredol ei dasglu amlasiantaeth, Ymgyrch Dawns Glaw, a oedd yn gyfrifol am y gostyngiad hwnnw.

Yn ystod 2017-18, bu 1,627 o danau glaswellt bwriadol ledled Cymru. O gymharu’r ffigur hwn â 2,612 o ddigwyddiadau cyn sefydlu Ymgyrch Dawns Glaw yn 2015-16, mae hwn yn ostyngiad syfrdanol o 38%. Gellir priodoli hyn, yn rhannol, i amrywiaeth eang o ymyraethau ymgysylltu a chynllun cyfathrebu'r tasglu.

Fodd bynnag, roedd y ffigur hwn wedi cynyddu 75% yn 2018-19 o gymharu ag ystadegau 2017-18, a hynny i gyfanswm o 2,850 o danau glaswellt bwriadol ledled Cymru.

Dywedodd Mydrian Harries, Cadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw a Phennaeth Atal ac Amddiffyn Corfforaethol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

“Yn anffodus, mae'r ffigurau ar gyfer 2018-19 yn amlygu cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o danau glaswellt bwriadol yr ymatebwyd iddynt ledled Cymru gyfan, a hynny o gymharu â'n llwyddiannau yn ystod 2017-18.

"O ganlyniad i gryn dipyn yn llai o lawiad yn ystod misoedd cynnar y flwyddyn, ynghyd â haf sychach o lawer, roedd ffactorau a oedd y tu hwnt i'n rheolaeth wedi effeithio'n negyddol ar yr ystadegau. O gymharu 2017-18 â 2018-19, roeddem wedi ymateb i 230% yn fwy o danau glaswellt bwriadol ledled Cymru ym mis Mehefin, 739% yn fwy ym mis Gorffennaf, 198% yn fwy ym mis Awst, 167% yn fwy ym mis Medi, a 114% yn fwy ym mis Hydref.

"Er bod yr ystadegau hyn yn siomedig iawn, ni ddylent dynnu oddi ar lwyddiant cyffredinol Ymgyrch Dawns Glaw. At hynny, ni ddylai chwaith dynnu oddi ar ymdrechion ein partneriaid dros y 12 mis diwethaf wrth iddynt gyfrannu at y gwaith o'n helpu i ddatblygu ar lwyddiannau blaenorol. Mae enghreifftiau blaenorol yn dangos bod ymgysylltu â phobl ifanc trwy ymyraethau targededig, patrolau tra gweledol mewn ardaloedd sy'n agored i niwed, ac addysgu a marchnata cyngor diogelwch, yn gweithio. Mae'r ffigurau hyn yn amlygu'n glir y gall ffactorau na ellir eu rheoli effeithio ar ein llwyddiant, a hynny er bod pob ewyllys a phenderfyniad ar waith, ynghyd â thasglu cydweithredol llwyddiannus iawn.

Er gwaethaf yr ystadegau hyn, mae'r tasglu yn benderfynol o barhau â'i ymdrechion i leihau tanau glaswellt bwriadol yng Nghymru. Mae yna gynllunio wedi bod ar waith er mis Ionawr, a hynny er mwyn paratoi ar gyfer haf sych a phoeth arall. Mae'r tasglu yn atgoffa aelodau o'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus wrth iddynt fwynhau yng nghefn gwlad, ac i gofio am y peryglon y gallai tanau bach sy'n ymledu eu hachosi, boed hynny i gnydau amaethyddol, bywyd gwyllt neu eiddo.

Cofiwch – mae cynnau tanau glaswellt bwriadol yn drosedd ddifrifol, a byddwch yn wynebu holl rym y gyfraith. Os byddwch yn gweld rhywun yn cynnau tân yn fwriadol, ffoniwch yr Heddlu ar 101, neu cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555 111.

I gael rhagor o wybodaeth, arweiniad a chyngor, ewch i ymweld â chyfrifon eich gwasanaeth tân ac achub lleol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen