Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dynes yn marw mewn tân mewn eiddo yn Burntwood, Sir y Fflint

Postiwyd

Bu farw dynes yn dilyn tân mewn tŷ yn Burntwood.

Cafodd Gwasanaethau Tân ac Achub Gogled Cymru alwad i fynd i’r eiddo oedd ar dân yn Ffordd Burntwood, Bwcle am 2.59 a.m. y bore yma (dydd Mercher, 29 Mai).

Gyrrwyd pedwar peiriant tân i’r digwyddiad – un o Fwcle, un o’r Wyddgrug a dau o Lannau Dyfrdwy. Defnyddiodd y criw offer anadlu, prif jetiau a pheipiau dŵr i daclo’r tân.

Daeth y diffoddwyr tân o hyd i'r ddynes, a gredir i fod yn ei 60au, yn yr eiddo. Aethpwyd â hi i’r ysbyty mewn ambiwlans ond yn anffodus, bu farw. Aethpwyd â merch arall yn ei 40au i’r ysbyty mewn ambiwlans ond ni chredir fod ei chyflwr hi’n ddifrifol.

Bydd ymchwil ar y cyd i achos y tân gan Wasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

Nid oes yna fanylion pellach ar hyn o bryd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen