Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Digwyddiad yn Bolingbroke Heights, y Fflint

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wrthi’n darparu cefnogaeth yn Bolingbroke Heights, y Fflint, wedi i bibell ddŵr rwygo ac effeithio ar nifer o fflatiau.

Roedd diffoddwyr tân wedi bod yn delio gyda digwyddiad arall gerllaw yn Richard Heights ond am 3.11 o’r gloch (Dydd Sul 20 Hydref), cawsant eu dargyfeirio’n gyflym i Bolingbroke Heights lle’r oedd dŵr yn byrlymu drwy’r adeilad o’r tanc dŵr yn y to.

Mae un injan o Lannau Dyfrdwy yn dal i fod yn bresennol y bore yma.

Meddai Paul Scott o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Gan ein bod ni gerllaw llwyddom i ddargyfeirio’n hadnoddau i’r digwyddiad yn Bolingbroke Heights a dod o hyd i darddiad y llif dŵr yn gyflym er mwyn ei reoli.

“Effeithiodd y dŵr ar nifer o fflatiau yn yr adeilad ac rydym yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir y Fflint a staff o Scottish Power i wneud yn siŵr bod trigolion yn derbyn gofal.

“Yn anffodus, mae’r dŵr wedi effeithio ar brif larwm tân yr adeilad ac felly rydym wedi aros ar y safle i wneud yn siŵr bod trigolion yn ddiogel.

“Rydym yn gweithio gyda nifer o asiantaethau i adfer y system larwm ac i sicrhau bod trigolion yn ddiogelu rhag tân.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen