Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn Kronospan – diweddariad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Postiwyd

Mewn ymateb i’r tân yn Kronospan, hoffai’r Cyngor gynghori trigolion lleol ynglŷn â’r canlynol:
Fe aeth boncyffion a defnyddiau sglodion coed yn iard goed Kronospan ar dân oddeutu 02.00 o’r gloch Dydd Llun 13eg Ionawr 2020.

Mae’r Gwasanaeth Tân wedi bod yn bresennol ers ymateb i’r digwyddiad ac mae wedi cadarnhau bod y tân dan reolaeth. Bydd y tân yn llosgi dan realaeth am gyfnod. Caiff y tân ei ddiffodd cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol gan ddibynnu ar yr amodau tywydd.

Yn y cyfamser mae’r Cyngor yn cynghori’r gymuned leol i ddilyn y cyngor isod a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Os ydych chi mewn lle sydd yn cael ei effeithio gan y mwg, arhoswch y tu mewn a chadwch ddrysau a ffenestri ynghau pan fydd y mwg yn pasio ond ar ôl hynny agorwch hwy i awyru’ch cartref. Os oes raid i chi fynd allan, osgowch ardaloedd lle mae mwg a lludw, a pheidiwch ag aros yn yr ardaloedd hyn am gyfnod hir. Fe ddylai modurwyr sydd yn teithio drwy’r mwg gadw eu ffenestri ar gau a diffodd system awyru a fentiau’r car.

Fe all mwg effeithio ar lwybrau anadlu, y croen a’r llygaid ac achosi peswch a gwich, diffyg anadl a phoen yn y frest. Fe all hyn hefyd ddwysau problemau megis asthma; ac fe ddylai pobl gydag asthma gario eu hanadlydd gyda hwy bob amser.

Fe all arogleuon yn gysylltiedig â thân fod yn boen ac achosi straen a phryder, cyfog, cur pen a phendro. Dyma ymateb cyffredin i arogleuon ac nid y sylwedd sydd yn achosi’r arogl. Rydym ni’n gallu arogli arogleuon ar lefelau llawer iawn is na all achosi niwed i’n hiechyd.

Os ydych chi’n poeni am eich symptomau ewch i weld eich Meddyg Teulu neu ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47. Fel arfer mae’r symptomau’n diflannu’n gyflym ac nid ddylent arwain at broblemau iechyd tymor hir.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen