Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd tân wrth goginio yn dilyn dihangfa lwcus gan gwpl o Fangor

Postiwyd

Mae Uwch Swyddog Tan yn tynnu sylw at y ffaith mai coginio yw prif achos tannau mewn cartrefi wedi iddo fynychu tân mewn cegin ar Ffordd Garth Uchaf, Bangor lle bu i larymau mwg helpu i achub cwpl oedrannus rhag tân yn eu cartref.

 

Mynychodd criwiau o Fangor, Caernarfon a Phorthaethwy’r tân ar Ffordd Garth Uchaf, Bangor neithiwr (dydd Sul Tachwedd 21) wedi derbyn yr alwad am 20.37 o’r gloch. Digwyddodd hyn wythnos yn union wedi i dri pherson orfod mynd i’r ysbyty, a’u tŷ wedi ei ddinistrio’n dilyn tân wrth goginio ym Mhandy ger Llangollen.

 

Mynychodd Mike Owen, Rheolwr Ymateb Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, y digwyddiad ac meddai:

 

“Rydym ni i gyd mor falch fod y cwpl wedi gallu dianc yn ddiogel. Roedd y larymau mwg wedi gweithio’n effeithiol, ac roedd y ddau wedi gallu mynd allan o’r tŷ’n ddiogel. Mae cael larymau mwg sy’n gweithio ac ymarfer sut i ddianc o’r tŷ’n hynod o bwysig i’ch cadw chi a’ch anwyliaid yn ddiogel.

 

“Mae ein diffoddwyr tân wedi gweithio’n hynod o galed i gael y tân dan reolaeth cyn gynted ag sy’n bosibl – rwyf yn ddiolchgar iawn iddynt oll.

 

“Peidiwch â chael eich temtio i adael bwyd yn coginio heb eich sylw a chymerwch ofal yn y gegin – mae mor hawdd i rywbeth arall gymryd eich sylw.

 

“Byddwn yn gofyn i bawb ystyried aelodau hŷn neu fregus o’r teulu neu’r gymdogaeth, gan sicrhau eu bod hwythau’n ddiogel hefyd, gyda larymau mwg sy’n gweithio wedi eu gosod ar bob llawr o’r cartref.

“Am wiriad diogel ac iach rhad ac am ddim i chi neu i rywun o’ch cydnabod, ffoniwch ein rhif rhadffôn 0800 169 1234, e-bostiwch cfs@nwales-fireservice.org.uk  neu ewch i’n gwefan  www.northwalesfire.gov.wales.”

 Awgrymiadau pwysig am ddiogelwch yn y gegin:

  • Os ydych yn gadael yr ystafell, symudwch y bwyd oddi ar y gwres
  • Peidiwch â defnyddio matsis neu daniwr i oleuo cwcer nwy. Mae dyfeisiau gwreichion yn fwy diogel
  • Gwnewch yn siŵr fod unrhyw handlenni wedi eu troi oddi wrth ymyl y cwcer
  • Cadwch y popty, hob a’r gril yn lân – mae braster a saim sy’n ymgasglu’n gallu mynd ar dân yn hawdd
  • Peidiwch byth â hongian dim i sychu uwchben y cwcer
  • Byddwch yn ofalus os ydych yn gwisgo dillad llac gan y gallant fynd ar dân yn hawdd
  • Pan fyddwch wedi gorffen coginio gwnewch yn siŵr eich bod wedi diffodd popeth
  • Diffoddwch beiriannau trydan pan nad ydych y eu defnyddio
  • Peidiwch byth â defnyddio sosban sglodion – defnyddiwch ffriwr saim dwfn wedi ei reoli â thermostat
  • Peidiwch byth â choginio ar ôl yfed – ewch i nôl bwyd tecawê
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych larymau mwg – maen nhw’n rhad ac am ddim ac fe allent achub eich bywyd.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen