Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Prif Swyddog Tân newydd i Ogledd Cymru

Postiwyd

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn croesawu Prif Swyddog Tân newydd yr haf hwn.

Bydd Dawn Docx, sydd yn Ddirprwy Brif Swyddog Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Manceinion Fwyaf ar hyn o bryd, yn cymryd yr awenau fel Prif Swyddog Tân yng Ngogledd Cymru pan fydd Simon Smith yn ymddeol yn hwyrach eleni.

Ymunodd Mrs Docx â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ym Mehefin 2006 fel Prif Swyddog Cynorthwyol  ar gyfer cyllid a chaffael. Cafodd ei dyrchafu’n Ddirprwy Brif Swyddog Tân yn 2009 a gadawodd y Gwasanaeth yn 2017 ar ôl cael ei phenodi’n Ddirprwy Brif Swyddog Tân yng Ngwasanaeth Tân Manceinion Fwyaf.

Meddai’r Cynghorydd Peter Lewis, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rwyf yn falch o gael croesawu Dawn yn ôl i Ogledd Cymru. Bydd gennym nifer o heriau yn dilyn COVID ac rwyf yn hyderus y bydd Dawn yn gallu mynd i’r afael â hwy a chynnal y safonau uchel sy’n rhoi enw da i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at gael gweithio gyda hi yn y dyfodol agos.”

Meddai Mrs Docx: “Rwyf yn hynod falch o gael dychwelyd i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac edrychaf ymlaen at gael parhau â’r gwaith rhagorol sy’n cael ei gyflawni i wneud Gogledd Cymru’n ardal fwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi. Ein rôl yw atal, amddiffyn ac ymateb ac yn fy rôl newydd byddaf yn ymdrechu i wneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud hynny mor effeithiol â phosibl.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen