Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Prif Swyddog Tân newydd wrth y llyw yng Ngogledd Cymru

Postiwyd

Heddiw, Gorffennaf 1af, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi croesawu ein Prif Swyddog Tân newydd sydd wedi ymgymryd â’i swydd flaenllaw yn swyddogol.

Mae Dawn Docx yn derbyn yr awenau gan Simon Smith, y Prif Swyddog Tân sy’n ymddeol.

Mae hi’n dychwelyd i Ogledd Cymru ar ôl tair blynedd fel Dirprwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Manceinion Fwyaf, ar ôl ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel Prif Swyddog Tân Cynorthwyol yn 2006 cyn cael ei dyrchafu i swydd Dirprwy yn 2009.

Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd yn dod yn ôl yng Ngogledd Cymru ac rwy’n hynod falch o gymryd yr awenau fel Prif Swyddog Tân.

“Rwy’n edrych ymlaen at ailgysylltu â’r staff, rwy’n adnabod llawer ohonynt yn barod, ac at y cyfle i gysylltu â’r criwiau sy’n gweithio bob awr o’r dydd a’r nos yn cadw’r trigolion yn ddiogel.

“Mae wedi bod yn gyfnod heriol i bawb ers dechrau’r pandemig wrth gwrs, ond rwy’n ffodus o gael arwain gwasanaeth tân ac achub sy’n wir wedi camu ymlaen i wynebu’r her o ddiwallu anghenion cymunedau yng Ngogledd Cymru yn ystod y cyfnod mwyaf eithriadol.

“Rwy’n falch iawn hefyd o fod y ddynes gyntaf i ymgymryd â’r swydd yma yng Ngogledd Cymru, ac rwyf wedi ymrwymo i hyrwyddo gwasanaeth tân ac achub sy’n gynhwysol ac yn flaengar.

“Rwy’n teimlo’n freintiedig yn cael gofalu am sefydliad rhagorol sy’n llawn o bobl ymroddgar sy’n falch o’r rhan maen nhw’n ei chwarae i gadw pobl yn ddiogel.

“Rwy’n edrych ymlaen at y bennod nesaf i’n gwasanaeth tân ac achub, ac rwy’n arbennig o falch o gael dechrau ar y daith honno heddiw.”

Dywedodd Mr Smith: “Mae’r Gwasanaeth wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd, ac mae wedi bod yn fraint aruthrol i gael gwasanaethu fel ei Brif Swyddog Tân ers yr 20 mlynedd ddiwethaf.

“Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r staff a’r trigolion am eu cefnogaeth a’u hymroddiad parhaus i helpu i ddiogelu ein cymunedau. Dymunaf bob llwyddiant i Dawn yn ei swydd newydd, a’r dymuniadau gorau i’r Gwasanaeth a’i staff ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd y Cyng. Peter Lewis, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rwy’n falch o groesawu Dawn yn ôl i Ogledd Cymru – mae ganddi brofiad helaeth ac mae hi’n dod â’i harweinyddiaeth gadarn a chyfoeth o wybodaeth yn dilyn ei hamser ym Manceinion Fwyaf.

“Fe fydd heriau o’n blaenau wrth i ni symud i fyd ar ôl Covid, ac rydym yn hyderus y bydd Dawn yn mynd i’r afael â’r heriau hynny ac yn cynnal y safonau uchel y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn adnabyddus amdanynt.

“Hoffwn i ddiolch i Simon am ei wasanaeth ymroddgar wrth lywio’r Gwasanaeth drwy’r cyfnod heriol diweddar. Dymunwn yn dda iddo yn ei ymddeoliad.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen