Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Partneriaeth newydd gyda Thîm Achub Mynydd i ddiogelu cymunedau

Postiwyd

Yn dilyn cynnydd yn nifer y galwadau i Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen yn nyffryn Conwy, mae partneriaeth newydd wedi golygu bod y tîm achub yn defnyddio hen adeilad yng Ngorsaf Dân Conwy fel canolfan iddynt.

Digwyddodd y bartneriaeth ar ôl trafodaethau lleol rhwng Dave Brown, aelod o Dîm Achub Mynydd Ogwen yng Nghonwy ac Andy Lambert, Rheolwr Gwylfa yng Nghonwy.

Fel yr esbonia Dave: “Mae Tîm Achub Mynydd Ogwen yn gofalu am ardal fawr o ogledd Eryri, ac mae’r rhan fwyaf o’r galwadau’n dod o ardal Dyffryn Ogwen. Fodd bynnag, rydym yn cael nifer gynyddol o alwadau ar ein ffin ogleddol.

“Mae gennym nifer o aelodau’n byw yng ngwaelod Dyffryn Conwy, sydd ar gael i helpu yn y digwyddiadau hyn. Fodd bynnag, cyn y bartneriaeth hon bydden nhw’n gorfod aros am gerbyd llwythog i ddod o’n canolfan yn Nyffryn Ogwen.

“Mae’r storfa offer newydd yn helpu i anfon ein hadnoddau allan yn gyflym i ddigwyddiadau lleol, gan ein galluogi i gyrraedd digwyddiadau critigol mor gyflym â phosibl. Gwirfoddolwyr di-dâl yw pob un ohonom, ac mae Tîm Achub Mynydd Ogwen bron yn gwbl ddibynnol ar gyfraniadau gwirfoddol – felly rydym yn ddiolchgar iawn am y cymorth hwn.”

Ychwanegodd Andy: “Dyma enghraifft wych o’r modd y mae rhannu adnoddau a gweithio mewn partneriaeth yn gallu helpu i amddiffyn ein cymunedau.

“Nid oeddem yn defnyddio’r storfa yma yn yr orsaf, ac fel mae’n digwydd roedd yn lle perffaith i Dîm Achub Mynydd storio eu cyfarpar er mwyn eu galluogi i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau yn yr ardal.

“Rydym yn falch o gefnogi, cydweithio a rhannu ein hadnoddau gyda’n partneriaid yn Nhîm Achub Mynydd Ogwen, ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi a hyfforddi gyda’n gilydd yn y dyfodol.

“Gwych yw gweld gwaith partneriaethol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddiogelwch ein cymunedau.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen