Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i helpu i atal Tanau Gwyllt

Postiwyd

Yn dilyn penwythnos prysur i ddiffoddwyr tân yn taclo tanau glaswellt ac eithin ar draws y rhanbarth, mae Pennaeth Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio ar y cyhoedd i helpu i atal tanau gwyllt.

Dywedodd Dave Hughes, Pennaeth Diogelwch Tân ac Ardal y Gorllewin yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

"Bob blwyddyn, mae tanau yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o ardaloedd cefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt. Gellir atal y rhan fwyaf o'r tanau hyn fodd bynnag, a achosir trwy ein hymddygiad esgeulus ni.

“Hoffwn atgoffa ffermwyr a tirfeddianwyr er y gallant losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth mewn ardaloedd tir uchel), mae'n rhaid bod ganddynt Gynllun Llosgi ar waith i sicrhau eu bod yn llosgi'n ddiogel. Mae'n anghyfreithlon llosgi y tu allan i'r tymor llosgi, a gall arwain at gosbau o hyd at £1000.

“Hoffwn hefyd i atgyfnerthu ein neges: er y gall damweiniau ddigwydd, mae yna rai yn ein cymunedau sy'n rhoi ein cefn gwlad ar dân yn fwriadol – nid yn unig y mae hyn yn drosedd y byddant yn cael eu herlyn amdani, ond mae hefyd yn gosod pwysau diangen ar wasanaethau rheng flaen ac yn peryglu ein cymunedau.

“Cofiwch – os ydych allan yn mwynhau yng nghefn gwlad ac yn dod ar draws unrhyw weithgarwch amheus, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.”

Rhagor o gyngor ar gael fan hyn.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen