Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Arestio dau yn dilyn tân yn Nhanygrisiau

Postiwyd

Mae un llanc ac un dyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol yn Nhanygrisiau, Gwynedd ar ddydd Sul, 27 Mawrth.

Arestiwyd y ddau sy'n 14 a 20 oed yn agos i leoliad y digwyddiad ar ôl ffoi oddi wrth swyddogion ar y safle.

Mae'r ddau wedi cael eu rhyddhau o dan ymchwiliad, gydag ymholiadau yn parhau i'r tân a achosodd ddifrod mawr i'r tir.

Dywedodd yr Arolygydd Darren Kane: “Mae cynnau gwair yn fwriadol yn beryglus a gall ledu allan o reolaeth yn gyflym.

"Mae’r tanau hyn yn peryglu bywydau’r diffoddwyr tân a’r cyhoedd. Mae digwyddiadau fel hyn yn faich ar y Gwasanaethau Achub pan fo angen eu gwasanaeth mewn llefydd eraill.

“Wrth weithio gyda’n gilydd gyda’r GTAGC â’r Tîm Lleihau Cynnau Tanau Bwriadol rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a all gynorthwyo yn yr ymchwiliad i gysylltu â ni cyn gynted â phosib.

“Os gallwch helpu gyda’r ymchwiliad cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddyfynnu B042648, neu riportio yn ddi-enw drwy CrimeStoppers ar 0800 555 111.”

Defnyddiwyd 10 uned y Gwasanaeth Tân ac Achub yn ogystal ag un uned mynedfa gul a un uned orchymyn.

Llwyddodd criwiau i ddiffodd y tân yn y pen draw, ar adeg prysur iawn i'r gwasanaeth.

Mae GTAGC hefyd wedi mynychu tanau gwyllt difrifol ar draws Gwynedd a Chonwy – yn Rhiw, Mynydd Nefyn, Trawsfynydd, Llyn Celyn,  Betws y Coed, Maentwrog  ac Aberdeunant.

Ar hyn o bryd mae criwiau yn dal i fynd i'r afael â'r tanau hyn ym Maentwrog ac Aberdeunant.

Dywedodd Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru,: “Fe wnes i weld â’m llygaid fy hun broffesiynoldeb, ymrwymiad a gwydnwch ein staff wrth i mi fynychu’r tanau gwyllt dinistriol hyn ar draws De Gwynedd ac i Gonwy.

“Tra bod damweiniau’n gallu digwydd, mae yna rai o fewn ein cymunedau sy’n rhoi ein cefn gwlad ar dân yn fwriadol.

“Mae cynnau tanau’n fwriadol yn gwbl annerbyniol –  mae hon yn drosedd y byddan nhw’n cael eu herlyn amdani.

“Os ydych allan yn mwynhau cefn gwlad ac yn dod ar draws unrhyw weithgaredd amheus, ffoniwch CrimeStoppers yn ddienw, neu ffoniwch 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen