Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Sbarc yn dod â diogelwch tân yn fyw yn Eisteddfod yr Urdd

Postiwyd

Yn Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych yr wythnos yma, mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru wedi lansio eu cymeriad newydd ar gyfer diogelwch tân, sef Sbarc.

Bydd Sbarc yn helpu i ledaenu’r neges i blant ifanc am beryglon chwarae gyda thân a sut i aros yn ddiogel yn eich cartref ac yn eich cymuned.

Yn haf 2019, daeth y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru at ei gilydd i ddylunio cymeriad a fyddai’n helpu i ledaenu negeseuon y gwasanaethau tân ac achub am ddiogelwch cymunedol. Y nod oedd datblygu cymeriad a fyddai’n tanio’r dychymyg ac addysgu plant a’r cyhoedd am negeseuon allweddol, sef Atal, Canfod a Dianc a Lleihau Llosgi Bwriadol. 

Cafwyd enw i’r cymeriad drwy ymgynghori â’r cyhoedd mewn gwahanol ddigwyddiadau cyhoeddus yn 2019, pan ofynnwyd i 250 o blant ddewis rhwng Fflach, Fflam neu Sbarc.  “Sbarc” oedd y ffefryn amlwg, a chafodd 142 o bleidleisiau.

Dyma ragor o esboniad gan Dave Hughes, Cadeirydd Grŵp Plant a Phobl Ifanc Cymru gyfan:

“Mae Sbarc wedi ymddangos yn ein deunyddiau addysgol a chyhoeddusrwydd ers 2020, ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn ymysg plant ysgol ledled Cymru.

“Fodd bynnag, mae’r pandemig wedi golygu nad ydym wedi cael cyfle i lansio ein cymeriad annwyl yn swyddogol.

“Rydym yn falch iawn o gael cyfle o’r diwedd i gyflwyno Sbarc yn swyddogol, fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Urdd.

“Cadwch lygad allan am Sbarc mewn gwahanol ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd yn rhoi cyngor am ddiogelwch i’n cymunedau. Gobeithio y bydd Sbarc yn helpu plant a’u rheini drwy ein helpu ni i hyrwyddo’r rheolau tân gwyllt, diogelwch yn y cartref, diogelwch ar y ffyrdd, diogelwch dŵr, a llawer mwy.” 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen