Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Diogelwch Busnes

Postiwyd

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'n rhannu cyngor a gwybodaeth am ddiogelwch tân i fusnesau er mwyn eu hannog i beidio ag anwybyddu diogelwch tân.

Daw'r neges fel rhan o Wythnos Ddiogelwch Busnes Cyngor y Prif Swyddogion Tân (NFCC) sy'n cael ei gynnal o'r 5ed - 11eg Medi. Nod yr ymgyrch yw gwneud busnesau'n ymwybodol o'u cyfrifoldebau ynglyn â diogelwch tân a rhoi gwybodaeth i staff er mwyn helpu i atal ac ymateb i danau yn y gweithle.

Mae modd atal llawer o danau yn y gweithle, ac nid oes llawer o fusnesau yn adfer ar ôl digwyddiad tân. Gellir cymryd camau syml i leihau risgiau a sicrhau bod staff yn gwybod sut i ymateb petai tân, ac mae hyn yn cadw pobl yn ddiogel ac yn gwneud synnwyr busnes.

Yr adeg hon o'r flwyddyn bydd llawer o fusnesau yn paratoi ar gyfer cyfnod y Nadolig, ac mae'n bosib y bydd yr argyfwng costau byw presennol yn effeithio arnyn nhw hefyd. Gall unrhyw newidiadau i'r ffordd y mae busnesau'n gweithredu effeithio ar ddiogelwch tân, felly rydym yn eu hannog i sicrhau eu bod wedi adolygu Asesiadau Risg Tân i adlewyrchu unrhyw newidiadau.

Gallai nifer o fusnesau llai fod â llety uwchben neu'n gyfagos iddynt a bydd yr wythnos hefyd yn tynnu sylw at ddiogelwch tân ar gyfer y safleoedd hyn.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog trigolion sy'n byw uwchben busnes i sicrhau eu bod wedi eu diogelu rhag unrhyw risgiau tân a busnesau i sicrhau nad ydyn nhw'n peryglu cartrefi pobl. Gall preswylwyr a pherchnogion busnes fynd at y gwasanaeth tân am gyngor.

Mae digon o gyngor a chefnogaeth i fusnesau ar gael gan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru felly rydym yn annog unrhyw un sydd â chwestiynau neu sydd efallai ddim yn siŵr am ddiogelwch tân i gysylltu â ni fel y gallwn helpu.

Dywedodd Bob Mason, Rheolwr Atal a Diogelu o Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru “Yn ystod Wythnos Diogelwch Tân i Fusnesau bydd ein tîm yn ymweld ac yn rhoi cyngor i fusnesau ar draws y rhanbarth sydd hefyd â llety preswyl uwchben neu o fewn eu heiddo masnachol. Gallai unrhyw dân yn yr eiddo masnachol effeithio ar y rhannau preswyl, a gyda’r nos mae’n bosibl na fydd neb yn sylwi ar y tân tan ei bod hi’n rhy hwyr.

“Heb barwydydd tân digonol rhwng y safle masnachol a phreswyl fe all tân mewn siop olygu colli’ch cartref. Heb drefniadau addas i rybuddio a llwybrau dianc diogel, fe all tân mewn busnes eich lladd. Rhaid i breswylwyr gael rhybudd o dân ac mae’n rhaid iddynt allu dianc o’r adeilad yn ddiogel.

 “Rydyn ni yma i helpu ein busnesau lleol ac amddiffyn trigolion ar draws y rhanbarth - cysylltwch â ni am gymorth a chyngor.”

Dywedodd Gavin Tomlinson, Cadeirydd yr NFCC ar gyfer diogelu a diogelwch busnes "Mae’r gwasanaethau tân ac achub wedi ymrwymo i helpu pob mathau o fusnesau i leihau'r risg o dân yn y gweithle a chydymffurfio â'r gyfraith diogelwch tân. Dydyn ni ddim yn disgwyl i fusnesau fod yn arbenigwyr - dyna pam ry'n ni yma i roi cymorth a chyngor.

"Ry’n ni’n annog unrhyw fusnes i weithio gyda'u gwasanaeth tân i helpu i atal tanau ac i’w cynorthwyo i barhau i fod yn  gynhyrchiol, yn ddiogel ac yn gyfreithlon."

Mae manylion cyswllt Timau Diogelwch Rhag Tân i Fusnesau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar draws y rhanbarth ar gael yma -  Yn eich busnes - Eich Cadw Chi'n Ddiogel - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (gov.wales)

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen