Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwr Tân Dan ar daith epig i Gambia

Postiwyd

Mae Daniel McNulty sy’n Ddiffoddwr Tân o Wrecsam ar daith epig i Gambia yn cludo peiriannau tân sydd wedi eu roi gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drwy Operation Zephyr. Taith elusennol i helpu ffurfio gwasanaeth ambiwlans a thân yng nghefn gwlad Gambia yw hon.

Dechreuodd Dan, sydd hefyd yn Arolygydd Arbennig i Heddlu Gogledd Cymru ar ei daith gyda Darren Armour, Prif Arolygydd Arbennig Dros Dro, ddydd Mawrth Medi 13 gan gludo'r peiriant yn ogystal â chychod achub ac offer diogelu personol a roddwyd gan y Gwasanaeth.

Maent yn ymuno â phersonél y gwasanaethau brys o bob cwr o'r DG ac Ewrop i deithio trwy Ffrainc a Sbaen, trwy Ogledd-orllewin cyfandir Affrica ac yr holl ffordd i brifddinas Y Gambia, Banjul, taith o 4000 milltir, er mwyn cyflenwi pum ambiwlans ar hugain, peiriannau tân a cherbydau cymorth.

Byddant hefyd yn treulio amser yn darparu hyfforddiant ac ymgyfarwyddo i ddefnyddio’r offer.

Dywedodd Dan: "Mae hwn yn gyfle unigryw i helpu ein teulu gwasanaethau brys yn rhan arall o'r byd. Maen nhw eisiau helpu eu cymunedau lleol yn union fel rydyn ni'n helpu ein cymunedau ni. Roeddwn i'n gwybod yn syth bod angen i mi gymryd rhan a chyfrannu. Rydwi  wedi bod ar daith anhygoel hyd yn hyn, yn dangos haelioni pobl, hyd yn oed yn ystod rhai o'r cyfnodau anoddaf rydym wedi eu gwynebu.

"Mae'r Gwasanaeth wedi gallu rhoi un o'u hen beiriannau tân drwy Fire Aid, ac mi ydw i wedi ei yrru'r holl ffordd. Er bod gyrru injan dân ar draws Anialwch y Sahara yn sialens, mi oedd hi werth yr holl waith!"

Mae lefelau marwolaethau babanod yn Y Gambia yn annerbyniol o uchel; maent yn un o'r rhai uchaf yn y byd ac maent bellach yr uchaf yn Affrica. Yn ôl UNICEF mae dros 1 ymhob 20 o blant rhwng mis a phum mlwydd oed yn marw, a bydd 1 ymhob 5 o fabanod newydd-anedig yn marw o fewn 4 wythnos gyntaf eu bywyd. Mae'r ffigyrau yma hyd yn oed yn uwch mewn ardaloedd gwledig. Mae lefelau haint drwy glwyfau neu orfod torri braich neu goes i ffwrdd ymysg y rhai uchaf yn y byd, ac mae llawer o bobl yn byw gyda chlwyfau agored ac esgyrn wedi torri ac mae’r heintiau sy'n deillio o hynny wedyn yn achosi marwolaeth.

Bwriad Operation Zephyr yw darparu cerbydau argyfwng gweithredol sydd wedi'u datgomisiynu, radios, offer, gwisgoedd a hyfforddiant i'r genedl Affricanaidd hon ar arfordir gorllewinol Affrica sydd yn datblygu ond sydd yn dlawd iawn. Trefnwyd y daith gan Elusen Cymorth Gwasanaethau Brys y DG, gan weithio gyda Chymdeithas Ryngwladol yr Heddlu. Nod yr ymgyrch yw gwneud newid cadarnhaol i Gambia, a helpu ein cyd-staff yn y gwasanaethau brys i roi'r gwasanaeth gorau y gallant.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Stuart Millington: "Mae hwn yn brosiect cyffrous a gwerth chweil, ac rydym mor falch o holl waith Dan. Rydym wrth ein boddau ein bod wedi gallu rhoi offer trwy Fire Aid sydd yn ei dro wedi gallu cefnogi Dan i helpu i ddiogelu'r rhai mewn angen."

Er eu bod eisoes wedi codi swm anghygoel o £2,500 mae Dan a Darren yn gofyn am unrhyw gefnogaeth neu roddion y gallwch eu rhoi i'w helpu i gyrraedd y targed o £5000 sydd ei angen i helpu i ariannu'r confoi hanfodol hwn. Gellir gwneud hyn trwy ddilyn y ddolen tudalen Just Giving isod:

  Fundraiser by Darren Armour : Ambulances to The Gambia (gofundme.com)

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen