Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhif neges testun newydd i'w lansio ar Diwrnod Pobl Hŷn

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ail-lansio eu gwasanaeth testun a fydd yn galluogi pobl i gofrestru'n gyflym ac yn hawdd i gael archwiliadau diogel ac iach. Gallai’r gwiriadau hyn achub bywydau.

Mae’r ail-lansiad hwn yn digwydd yr un pryd â Diwrnod Pobl Hŷn (1 Hydref) ac maent yn annog trigolion prysur i fanteisio ar y gwasanaeth newydd i gofrestru eu hunain neu rieni hŷn, teulu neu ffrindiau i gael archwiliad.

Sefydlwyd Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn gan y Cenhedloedd Unedig dros 30 mlynedd yn ôl i ddathlu pobl hŷn.

Esboniodd Kevin Jones, Rheolwr Partneriaethau a Chymunedau yn yr ardal Ganolog: “ Ry’n ni gyd mor brysur, weithiau mae'n anodd cael yr amser i wneud y tasgau hynny ry’n ni wedi bod yn ystyried eu gwneud ers wythnosau.

"Nawr gallwch flaenoriaethu eich diogelwch a diogelwch eich hanwyliaid gyda neges testun gyflym i 07507303678 – nodwch eu henw a’u manylion mewn neges destun a byddwn ni yn gwneud y gweddill.

"Ry’n ni'n ail-lansio'r gwasanaeth hwn ar Ddiwrnod Pobl Hŷn gan fod y rhan fwyaf ohonom yn adnabod rhywun allai fod yn hŷn neu'n fregus ac a fyddai’n elwa o help llaw - felly ein hapêl ni yw ichi gymryd ychydig o eiliadau i anfon neges destun cyflym i helpu i’w cadw'n ddiogel yn eu cartrefi."

Mae’r archwiliad Diogel ac Iach yn ymweliad diogelwch tân am ddim yn y cartref, ac wedi'i deilwra i anghenion ac er mwyn cefnogi diogelwch aelodau o'n cymuned a’u cartrefi rhag tân.

Yn ystod yr archwiliad Diogel ac Iach, bydd ein staff yn cynghori meddianwyr ar ddiogelwch yn y  cartref a gallant hefyd gynnig ymyriadau am ddim fel synwyryddion mwg, pecynnau gwrthdan gwely ar gyfer ysmygwyr, systemau diffodd tân anwedd dŵr ac offer clyfar fel ynyswyr popty.

Gallwch gofrestru am ddim i gael archwiliad diogel ac iach drwy yrru neges destun at  07507303678, llenwi'r ffurflen ymholiadau ar-lein yn www.northwalesfire.gov.wales neu drwy ffonio 0800 169 1234 rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen