Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyngor diogelwch canhwyllau fel rhan o Wythnos Diogelwch Canhwyllau

Postiwyd

Mae'r wythnos hon yn Wythnos Diogelwch Canhwyllau (24-30 Hydref) ac mae pobl ar draws Gogledd Cymru yn cael eu hannog i dderbyn cyngor sylfaenol i helpu i leihau'r risg o dân yn eu cartrefi.

Dywedodd Dave Hughes, Pennaeth Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Wrth i’r gaeaf agosáu, mae’n bosibl y bydd canhwyllau’n cael eu defnyddio’n amlach – mae golau haul naturiol yn cael ei leihau, ac mae gennym ni Nos Galan Gaeaf, Noson Guto Ffowc a gwyliau ac arsylwadau crefyddol amrywiol trwy gydol mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr.

"Mae llawer o bobl bellach yn defnyddio canhwyllau batri ac mae hyn yn lleihau'r risg o dân yn gyfan gwbl. Mae'r canhwyllau electronig hyn yr un mor effeithiol wrth greu awyrgylch ond maent yn llawer mwy diogel na channwyll â fflam.

"Os ydych chi'n dewis defnyddio cannwyll go iawn, cymerwch ofal arbennig. Er mwyn atal tanau cannwyll rhag cychwyn yn eich cartref, cadwch lygad ar eich canhwyllau bob amser a gwnewch yn siŵr eu bod wedi'u diffodd pan fyddwch chi'n gadael yr ystafell, hyd yn oed am eiliad. Rhowch eich canhwyllau wedi'u cynnau i ffwrdd o lenni, anifeiliaid anwes a phlant.

"Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o ddefodau crefyddol yn defnyddio canhwyllau, weithiau am gyfnodau hir o amser - er enghraifft, mae'n draddodiadol i ganhwyllau gael eu harddangos yn y ffenestr yn ystod y Nadolig, Hanukkah a Diwali. Mae lleoli canhwyllau yn bwysig - llosgwch ganhwyllau ar fat sy’n gwrthsefyll gwres a chadwch bellter diogel oddi wrth y llenni. Rydym hefyd yn argymell eich bod bob amser yn cofio eu diffodd pan fyddwch yn gadael yr ystafell.

“Hyd yn oed gyda’r rhagofalon hyn, mae’n bwysig bod yn barod os bydd y gwaethaf yn digwydd. Gall larymau mwg gweithredol roi amser hanfodol i chi ddianc yn ddiogel. Cadwch eich hun ac eraill yn ddiogel trwy brofi eich larwm yn wythnosol a sicrhewch fod pawb yn eich tŷ yn gyfarwydd â llwybr dianc.”

  • Peidiwch byth â gadael canhwyllau wedi'u goleuo heb oruchwyliaeth. Diffoddwch ganhwyllau pan fyddwch chi'n gadael yr ystafell, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw wedi diffodd yn llwyr gyda’r nos.
  • Rhowch eich canhwyllau ar wyneb sefydlog, allan o gyrraedd anifeiliaid anwes a phlant, a chadwch nhw oddi wrth wrthrychau fflamadwy fel llenni, dodrefn, dillad gwelyau a llyfrau.
  • Peidiwch â symud canhwyllau unwaith maen nhw wedi eu goleuo. Diffoddwch nhw cyn eu symud.
  • Peidiwch â llosgi sawl cannwyll yn agos at ei gilydd gan y gallai hyn achosi i'r fflam fflerio.
  • Llosgwch ganhwyllau mewn ystafell sydd wedi'i hawyru'n dda, heb fod mewn drafftiau, wrth fentiau neu geryntau aer. Bydd hyn yn helpu i atal llosgi cyflym neu anwastad, huddygl, a diferion.
  • Rhowch ganhwyllau persawr mewn daliwr sy'n gwrthsefyll gwres. Mae'r canhwyllau hyn wedi'u cynllunio i droi’n hylif wrth gael eu gwresogi i wneud y mwyaf o arogl da.
  • Ffitiwch larymau mwg a phrofwch nhw’n wythnosol. Gall larwm mwg sy'n gweithio rhoi amser gwerthfawr i chi fynd allan, aros allan a ffonio 999.
  • Sicrhewch fod pawb yn eich cartref yn gwybod beth i'w wneud petai dân. Mae’n arfer gorau i ymarfer eich llwybr dianc, yn enwedig gyda phlant ac ymwelwyr.

Ydych chi wedi cael Archwiliad Diogel ac Iach yn y Cartref am ddim?

Mae Archwiliad Diogel ac Iach yn y Cartref yn ymweliad diogelwch tân cartref am ddim, wedi'i deilwra i anghenion unigolyn ac i gefnogi aelodau o'n cymuned i helpu i'w diogelu eu hunain a'u cartref rhag tân.

Yn ystod yr archwiliad, bydd ein staff yn cynghori preswylwyr ar ddiogelwch yn y cartref a gall hefyd gynnig ymyriadau am ddim fel larymau mwg, pecynnau gwely i ysmygwyr, systemau niwl diffodd tân ac offer clyfar fel ynysydd coginio.  

Gallwch gofrestru i gael Archwiliad Diogel ac Iach am ddim drwy decstio manylion i 07507303678 , llenwi'r ffurflen ymholiadau ar-lein yma neu trwy ffonio 0800 169 1234 rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen